Associate Director of Marketing, Future Students/Cyfarwyddwr Cyswllt Marchnata

University of South Wales

  • Permanent
  • Pontypridd, Wales
Reference:AQ3610
Specialisms:Education, Higher Education, Marketing
Date posted:4th June 2026
Closing date:3rd July 2026

Competitive remuneration

The University of South Wales (USW) is an ambitious, modern university with a proud history and a clear commitment to transforming lives. Home to more than 20,000 students from over 100 countries, supported by 2,800 colleagues across campuses in Pontypridd, Cardiff and Newport, USW is deeply rooted in South Wales, with partnerships, reach and impact extending far beyond the region.

The Future Students Directorate brings together specialist teams across recruitment, marketing, admissions, conversion, events, outreach and internationalisation. Its purpose is to support prospective students from first awareness and enquiry through to application, conversion and enrolment, playing a central role in the University’s future success.

We are now seeking to appoint an Associate Director of Marketing, Future Students. Reporting to the Director of Future Students and as a key member of the Directorate’s senior management team, you will provide strategic leadership and operational oversight of the University’s student recruitment marketing function. Your remit will span digital marketing, web optimisation, social media, content, publications, brand, campaign planning, CRM and conversion activity, supporting both UK and international recruitment.

This is an important appointment. USW has recently agreed a new brand strategy and is looking for a senior marketing leader who can translate it into sharp, effective and measurable activity. You will help ensure the University’s distinctive stories cut through in a competitive market, particularly domestically.

You will bring significant marketing leadership experience gained within higher education, with a strong record of delivering integrated, multi-channel campaigns that drive measurable outcomes, including leads, applications, conversion and enrolment. Confident using data, insight and market intelligence, you will combine creativity, pace and operational excellence with the ability to lead high-performing teams and build trusted relationships with senior stakeholders.

To find out more about USW and this exciting role, please visit:

https://andersonquigley.com/usw-associate-director-of-marketing-future-students/

The closing date for applications is noon on Friday 3rd July 2026.

For a confidential discussion, please contact our advising consultant at Anderson Quigley: Elliott Rae on +44 (0)7584 078 534 or elliott.rae@andersonquigley.com; or Alicja Janowska on +44 (0) 7743 927 783 or alicja.janowska@andersonquigley.com

The University of South Wales is committed to employing a diverse workforce and creating an inclusive environment. We actively encourage applications from diverse backgrounds and communities, especially with regards to age, disability, gender identity, sexual orientation, race and religion and/or belief. USW benchmarks its success through equality accreditations with Athena Swan, Race Equality Charter, Stonewall and Disability Confident.


Tâl cystadleuol

Mae Prifysgol De Cymru (PDC) yn brifysgol uchelgeisiol, fodern gyda hanes balch ac ymrwymiad clir i drawsnewid bywydau. Gyda dros 20,000 o fyfyrwyr o fwy na 100 o wledydd, a 2,800 o gydweithwyr ar gampysau ym Mhontypridd, Caerdydd a Chasnewydd, mae PDC yn sefydliad sydd wedi’i wreiddio’n ddwfn yn Ne Cymru ond sydd â phartneriaethau, cyrhaeddiad ac effaith ymhell y tu hwnt i’r rhanbarth.

Mae Cyfarwyddiaeth Myfyrwyr y Dyfodol yn dwyn ynghyd dimau arbenigol o’r meysydd recriwtio, marchnata, derbyn, trosi, digwyddiadau, allgymorth a rhyngwladoli. Diben y gyfarwyddiaeth yw cefnogi darpar fyfyrwyr o’r adeg y dôn nhw’n ymwybodol o’r brifysgol, a thrwy’r cyfnodau ymgeisio, trosi a chofrestru. Mae felly yn cyflawni rôl ganolog yn llwyddiant y Brifysgol.

Rydyn ni’n dymuno penodi Cyfarwyddwr Cysylltiol Marchnata, Myfyrwyr y Dyfodol. Yn  adrodd i Gyfarwyddwr Myfyrwyr y Dyfodol ac yn aelod allweddol o uwch dîm rheoli’r Gyfarwyddiaeth, byddwch yn darparu arweinyddiaeth strategol a goruchwyliaeth weithredol o swyddogaeth marchnata recriwtio myfyrwyr y Brifysgol. Bydd eich cylch gwaith yn cwmpasu marchnata digidol, defnyddio’r we yn y ffordd orau bosibl, y cyfryngau cymdeithasol, cynnwys, cyhoeddiadau, brandio, cynllunio ymgyrchoedd, CRM a gweithgarwch trosi, gan gefnogi ymdrechion recriwtio yn y DU ac yn rhyngwladol.

Mae hwn yn benodiad pwysig. Yn ddiweddar, mae PDC wedi cytuno ar strategaeth brandio newydd ac mae’n chwilio am uwch arweinydd marchnata a all wireddu’r strategaeth mewn ffordd dreiddgar, effeithiol a mesuradwy. Byddwch yn helpu i sicrhau bod pobl yn clywed straeon unigryw y Brifysgol mewn marchnad gystadleuol, yn enwedig o fewn y farchnad gartref.

Bydd gennych brofiad sylweddol o arwain ym maes marchnata’r sector addysg uwch, a hanes cryf o gyflawni ymgyrchoedd integredig, aml-sianel yn arwain at ganlyniadau mesuradwy, gan gynnwys o fewn ceisiadau, trosi a chofrestru. Byddwch yn gallu defnyddio data yn hyderus, a bydd gennych fewnwelediad i’r farchnad ac yn ei deall. Byddwch yn cyfuno creadigrwydd, cyflymder a rhagoriaeth weithredol gyda’r gallu i arwain timau perfformiad uchel ac adeiladu perthnasoedd dibynadwy ag uwch randdeiliaid.

I gael gwybod mwy am PDC a’r rôl gyffrous hon, ewch i:

https://andersonquigley.com/prifysgol-de-cymru-cyfarwyddwr-cyswllt-marchnata/#y-swyddi

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw hanner dydd ddydd Gwener 3ydd Gorffennaf 2026.

I gael trafodaeth gyfrinachol, cysylltwch â’n hymgynghorydd yn Anderson Quigley: Elliott Rae ar +44 (0)7584 078 534 neu elliott.rae@andersonquigley.com; neu Alicja Janowska ar +44 (0) 7743 927 783 neu alicja.janowska@andersonquigley.com

Mae Prifysgol De Cymru wedi ymrwymo i gyflogi gweithlu amrywiol a chreu amgylchedd cynhwysol. Rydym yn annog ceisiadau gan bobl o gefndiroedd a chymunedau amrywiol, yn enwedig o ran oedran, anabledd, hunaniaeth rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, hil a chrefydd a/neu gred. Mae PDC yn meincnodi ei llwyddiant trwy achrediadau cydraddoldeb gydag Athena Swan, Siarter Cydraddoldeb Hiliol, Stonewall a Hyderus o ran Anabledd.

University of South Wales

Learn more about the role here
Any questions?

If you have any questions about your application, please get in touch.

Contacts