Annwyl ymgeisydd,
Diolch am eich diddordeb mewn ymuno â Phrifysgol De Cymru fel ein Cyfarwyddwr Cysylltiol Marchnata, Myfyrwyr y Dyfodol.
Mae PDC yn brifysgol uchelgeisiol, fodern gyda hanes balch ac ymrwymiad clir i drawsnewid bywydau. Gyda dros 20,000 o fyfyrwyr o fwy na 100 o wledydd, a 2,800 o gydweithwyr ar gampysau ym Mhontypridd, Caerdydd a Chasnewydd, mae PDC yn sefydliad sydd wedi’i wreiddio’n ddwfn yn Ne Cymru ond sydd â phartneriaethau, cyrhaeddiad ac effaith ymhell y tu hwnt i’r rhanbarth.
Mae Cyfarwyddiaeth Myfyrwyr y Dyfodol yn dwyn ynghyd dimau arbenigol o’r meysydd recriwtio, marchnata, derbyn, trosi, digwyddiadau, allgymorth a rhyngwladoli. Diben y gyfarwyddiaeth yw cefnogi darpar fyfyrwyr ar eu taith i PDC, o’r adeg y dôn nhw’n ymwybodol o’r brifysgol, a thrwy’r cyfnodau ymgeisio, trosi a chofrestru. Mae’n amgylchedd cyflym, sy’n cael ei yrru gan dargedau ac sy’n hynod gydweithredol, ac yn un sy’n chwarae rhan ganolog yn llwyddiant y Brifysgol yn y dyfodol.
Mae hwn yn benodiad pwysig i ni. Rydyn ni wedi cytuno ar strategaeth brandio newydd yn ddiweddar ac yn chwilio am uwch arweinydd marchnata a all wireddu’r strategaeth mewn ffordd dreiddgar, effeithiol a mesuradwy. Mae gyda ni straeon ardderchog i’w hadrodd: o’n cryfder mewn entrepreneuriaeth a dysgu cymhwysol, i’n partneriaethau gyda sefydliadau a busnesau domestig a rhyngwladol nodedig, partneriaethau sy’n tyfu mewn niferoedd. Ond rydyn ni’n gwybod bod angen i ni wneud mwy i sicrhau bod y straeon hynny’n cael eu clywed, yn enwedig yn y farchnad gartref.
Fel Cyfarwyddwr Cysylltiol Marchnata, byddwch yn arwain swyddogaeth marchnata recriwtio myfyrwyr y Brifysgol. Bydd eich cylch gwaith yn cynnwys marchnata digidol, y we, y cyfryngau cymdeithasol, cynnwys, cyhoeddiadau, brandio, cynllunio ymgyrchoedd a gweithgareddau trosi. Byddwch hefyd yn arwain ein tîm marchnata a’r partneriaid busnes marchnata yn y gyfadran, gan weithio’n agos gyda chydweithwyr Myfyrwyr y Dyfodol a chyfadrannau eraill a’r gwasanaethau proffesiynol, i sicrhau bod ein gweithgaredd yn cael ei arwain gan fewnwelediad, â ffocws cryf ar y gynulleidfa ac sy’n cyd-fynd â blaenoriaethau recriwtio.
Yn ddelfrydol byddwch yn berson sydd ag arbenigedd marchnata cryf mewn addysg uwch a phrofiad gweithredol, creadigrwydd a chyflymder. Mae hon yn rôl i rywun sy’n deall taith lawn y myfyriwr o’r atyniad cyntaf oll i’r cofrestru; sy’n hyderus yn defnyddio data a mewnwelediad i lunio ymgyrchoedd; ac a fydd yn gallu arwain tîm i ddarparu gweithgarwch marchnata integredig o ansawdd uchel ar sawl sianel. Byddwch yn ymuno ag Uwch Dîm Rheoli Myfyrwyr y Dyfodol a byddwch yn cael cyfle i wneud cyfraniad gwirioneddol a gweladwy at dwf ac enw da’r Brifysgol.
Mae PDC yn gymuned arbennig: yn ymarferol ac wedi’i harwain gan werthoedd, yn gydweithredol ac uchelgeisiol o ran ein myfyrwyr, ein staff a’n rhanbarth. Rydyn ni’n chwilio am gydweithiwr sy’n rhannu’r ysbryd hwnnw ac a all ein helpu i apelio’n ehangach ac yn cyfoethogi’r ffordd mae pobl yn meddwl am y Brifysgol, a sicrhau bod ein gweithgarwch marchnata yn cefnogi’r ymdrechion i recriwtio myfyrwyr mewn marchnad heriol a chystadleuol.
Gobeithio y bydd y cyfle hwn yn eich cyffroi ac edrychwn ymlaen at dderbyn eich cais.
Mae Prifysgol De Cymru (PDC) yn arloesol, yn ffynnu ac yn gynaliadwy. Rydym yn gweithio i adeiladu dyfodol gwell i’n myfyrwyr, ein cymunedau a’n partneriaid yn economaidd, yn gymdeithasol ac yn ddiwylliannol.
Rydym yn falch o fod yn brifysgol ehangu cyfranogiad arweiniol Cymru, ac wedi ymrwymo i fynd i’r afael ag anghydraddoldeb cymdeithasol, gan gefnogi a galluogi ein myfyrwyr i gyflawni’r deilliannau bywyd gorau posibl.
Gyda phortffolio unigryw a ddyluniwyd ar y cyd â diwydiant, rydym yn falch o gynhyrchu gweithwyr gofal iechyd, cyfreithwyr, athrawon a swyddogion heddlu yfory. Mae’n cwricwlwm yn cael ei greu ar y cyd â myfyrwyr, i sicrhau eu bod wedi’u grymuso gyda’r sgiliau, y wybodaeth a’r profiad perthnasol i fanteisio i’r eithaf ar eu potensial a’u cyfleoedd i’r dyfodol. Rydym hefyd yn cydweithio â diwydiant, gan ymchwilio ac arloesi i ddatrys rhai o heriau mwyaf y byd, o ynni ac iechyd i ddiogelwch a chynaliadwyedd.
Rydym yn chwarae rhan ganolog wrth gefnogi busnesau a chymunedau ar draws rhanbarth De Cymru, gan gyfrannu £1.1 biliwn y flwyddyn i economi’r DU a chynnal 10,600 o swyddi ledled y wlad. Er ein bod wedi’u gwreiddio’n ddwfn yn ein rhanbarth, mae ein dylanwad a’n cyfraniadau yn ymestyn ymhell y tu hwnt iddo.
Mae gennym gymuned fywiog ac amrywiol, gyda myfyrwyr o dros 100 o wledydd yn astudio ar ein campysau yng Nghaerdydd, Casnewydd a Phontypridd. Rydym hefyd yn darparu ystod o lwybrau astudio cynhwysol, gan gefnogi dysgu gydol oes ac opsiynau hyblyg ar gyfer ein myfyrwyr, a gweithio’n agos â’n colegau partner.
Rydym yn herio ein hunain i feddwl ac ymddwyn yn wahanol drwy daclo stigma a dileu rhwystrau. Drwy gael ein hysbrydoli gan ein myfyrwyr, partneriaid a chymuned i ddatblygu teimlad cyffredin o berthyn, rydym yn adeiladu dyfodol gwell i bob un, yn economaidd, yn gymdeithasol ac yn ddiwylliannol.
Mae cymuned PDC yn aml yn cael ei disgrifio fel teulu—yn cynnwys unigolion ysbrydoledig ac ymroddedig sydd wedi ymrwymo i greu cyfleoedd a hyrwyddo cyfiawnder cymdeithasol. Mae Prifysgol De Cymru yn wirioneddol arbennig, gydag ymdeimlad cryf o gymuned a ffocws diwyro ar helpu eraill i wireddu eu potensial.
Ein Gwerthoedd
Yn PDC, rydym yn dal ein gwerthoedd yn agos at ein calonnau. Mae ein cymuned yn:
Mae Prifysgol De Cymru (PDC) yn arloesol, yn ffynnu, ac yn gynaliadwy. Rydym yn gweithio i adeiladu dyfodol gwell i’n myfyrwyr, ein cymunedau a’n partneriaid yn economaidd, yn gymdeithasol, ac yn ddiwylliannol.
Mae Cyfarwyddiaeth Myfyrwyr y Dyfodol yn dwyn ynghyd dimau arbenigol o bob rhan o Recriwtio, Marchnata, a Derbyniadau i arwain a chefnogi pob darpar fyfyriwr ar eu taith i PDC – o ymwybyddiaeth brand i’r ymholiad cyntaf, hyd at gofrestru.
Mae ein gwaith yn cwmpasu marchnadoedd y DU, yr UE a rhyngwladol, ac yn cynnwys recriwtio israddedig, ôl-raddedig a rhan-amser. Rydym yn arwain ac yn cyflwyno gweithgaredd ar draws sianeli a llwyfannau marchnata digidol a thraddodiadol, digwyddiadau recriwtio, derbyniadau, trosi ac allgymorth. Mae ein tîm yma i gysylltu â myfyrwyr, eu teuluoedd, athrawon, cynghorwyr ac asiantau recriwtio – gan eu helpu i archwilio eu hopsiynau a gwneud penderfyniadau hyderus am eu dyfodol.
Rydym yn cyflwyno ymgyrchoedd marchnata, Diwrnodau Agored, a chyfathrebu wedi’i dargedu sy’n ysbrydoli ac yn hysbysu. Rydym yn rheoli gwefan y Brifysgol, cyhoeddiadau fel y prosbectws, ac yn datblygu cynnwys sy’n adlewyrchu cryfder ac ysbryd PDC. Mae ein harbenigwyr brand ac ymgyrchoedd yn sicrhau bod ein negeseuon yn gyson, yn hygyrch ac yn effeithiol.
Wedi’ch lleoli ym Mhontypridd, ond gyda rhywfaint o deithio disgwyliedig i’n campysau yng Nghaerdydd a Chasnewydd, bydd y rôl hon yn rhoi amgylchedd gwaith i chi lle gallwch ddefnyddio’ch ystod o sgiliau marchnata a enillwyd yn y sector addysg uwch.
Mae’r rôl newydd hon wedi’i lleoli’n benodol fel un hanfodol i dwf sefydliadol a chyflawni targedau recriwtio myfyrwyr, ac felly mae’r rôl yn hanfodol o ran sicrhau ein llwyddiant yn y dyfodol. Bydd y rôl yn cefnogi’r brand, marchnata ac ymgyrchoedd, a strategaethau recriwtio sydd wedi’u datblygu fel rhan o strategaeth Myfyrwyr y Dyfodol 2030.
Gan arwain swyddogaeth farchnata’r Brifysgol, byddwch yn gyfrifol am yr holl weithgaredd a fydd yn cefnogi llwyddiant recriwtio. Byddwch yn aelod o Uwch Dîm Rheoli Myfyrwyr y Dyfodol, ac yn ddylanwadwr allweddol ac yn arweinydd y tîm Marchnata ehangach a thrwy weithio’n agos gyda’r tîm Cyfathrebu Corfforaethol byddwch yn chwarae rhan sylweddol wrth lunio a gweithredu enw da a strategaeth recriwtio ehangach y brifysgol.
Mae hon yn rôl amser llawn, parhaol.
Os ydych chi’n ymgeisydd llwyddiannus a’r swydd hon fydd eich rôl gwasanaethau proffesiynol gyntaf yn y Brifysgol (neu os ydych chi’n cael eich cyflogi ar hyn o bryd gan PSS Ltd), byddwch chi’n cael eich cyflogi gan Professional and Support Services Limited, is-gwmni o dan berchnogaeth lwyr Prifysgol De Cymru, sy’n darparu gwasanaethau i’r Brifysgol a’r Colegau.
Mae PDC wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles plant, pobl ifanc ac oedolion agored i niwed. Disgwylir i bawb sy’n gweithio yn y Brifysgol rannu’r ymrwymiad hwn.
Rydym wedi ymrwymo i gyflogi gweithlu amrywiol a chreu amgylchedd cynhwysol lle gall cydweithwyr fod yn nhw eu hunain a phob person yn cael ei drin ag urddas, tegwch a pharch. Rydym yn annog ceisiadau o gefndiroedd a chymunedau amrywiol, yn enwedig o ran oedran, anabledd, hunaniaeth rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, hil a chrefydd a/neu gred. Rydym yn meincnodi ein llwyddiant trwy achrediadau cydraddoldeb gydag Athena Swan, Siarter Cydraddoldeb Hil, Stonewall a Hyderus o ran Anabledd.
Os ydych chi’n ddysgwr Cymraeg neu’n siarad Cymraeg, byddwn ni’n falch o dderbyn eich cais. Bydd gennych fynediad i gyrsiau Cymraeg i’ch galluogi i ddatblygu eich sgiliau Cymraeg ymhellach, er mwyn darparu gwasanaeth dwyieithog i’n myfyrwyr, cydweithwyr a’r cyhoedd.
Rydym yn croesawu ceisiadau yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni fydd ceisiadau Cymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na’r rhai a wneir yn Saesneg.
Mae Strategaeth y Brifysgol – PDC 2030 – yn nodi ein cyfeiriad ar gyfer y degawd nesaf; llwybr ar gyfer y dyfodol sy’n feiddgar ac uchelgeisiol i sicrhau ein llwyddiant parhaus a’n cynaliadwyedd hirdymor.
Mae ein gweledigaeth yn glir, rydym eisiau newid bywydau a’n byd er gwell. Mae ein byd yn newid ar gyflymder dwys a’n gwaith ni yw rhoi’r sgiliau, y wybodaeth a’r profiad sydd eu hangen ar ein myfyrwyr i wneud y gorau o’u potensial a chyfleoedd yn y dyfodol yn y byd gwaith.
Erbyn 2030, byddwn yn:
Bod yn gynaliadwy yn ariannol yng nghyd-destun amgylchedd addysg uwch deinamig.
Mae gennym enw da am gynhyrchu ymchwil hynod effeithiol a chymhwysol. Rydym yn bedwaredd yng Nghymru am effaith (yn ôl Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2021), gydag 81% o’n gweithgarwch ymchwil yn cael ei nodi fel ymchwil sy’n arwain y byd, neu sy’n ardderchog yn rhyngwladol (4/3*).
Rydym yn ymdrechu i helpu i ddatrys problemau go iawn y mae cymdeithas yn eu hwynebu. Mae ein timau ymchwil amlddisgyblaethol yn cydweithio â diwydiant, cymunedau a sefydliadau i wneud gwahaniaeth cadarnhaol i fywydau. Mae ein hymchwil yn canolbwyntio ar bedwar maes blaenoriaeth:
Rydym yn herio ein hunain i feddwl ac i weithredu’n wahanol. Yn PDC, rydym yn mynd ar daith i greu gofodau teg i bawb. Rydym yn chwalu stigma ac yn tynnu rhwystrau, gan gymryd ysbrydoliaeth gan ein myfyrwyr a’n cymuned.
Mae ein hymrwymiad i gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant wedi’i wreiddio yn y ffordd rydym yn gweithredu fel prifysgol.
Mae lleoliadau’r Brifysgol yn cynnig y gorau o’r hyn sydd gan Dde Cymru i’w gynnig o fewn cyrraedd hawdd – y brifddinas, yr arfordir, y mynyddoedd a’r cymoedd.
Mae gennym ni bum campws ar draws tri lleoliad, ond un brifysgol ydym ni.
| Swydd | Cyfarwyddwr Cyswllt Marchnata |
| Cyfadran/Adran | Myfyrwyr y Dyfodol |
| Yn darparu gwasanaethau i | Prifysgol De Cymru |
| Gradd a chyflog | Cystadleuol iawn |
| Hyd y contract | Parhaol |
| Yn adrodd i | Cyfarwyddwr Myfyrwyr y Dyfodol |
| Yn gyfrifol am | Rheolwr Marchnata Digidol, Rheolwr CRM a Throsi, Partneriaid Busnes y Gyfadran, Rheolwr Cynllunio Ymgyrchoedd a Brand |
Pwrpas y swydd
Bydd y Cyfarwyddwr Cyswllt Marchnata yn darparu arweinyddiaeth strategol a goruchwyliaeth weithredol o’r holl weithgaredd marchnata, gan gefnogi recriwtio yn y DU ac yn rhyngwladol. Mae’r rôl hon yn gyfrifol am gyflwyno ymgyrchoedd marchnata integredig, sy’n cael eu harwain gan fewnwelediad, sy’n ysgogi ymwybyddiaeth, ymgysylltiad a throsi ar draws taith y myfyriwr.
Gan weithio’n agos gyda’r Cyfarwyddwr Cyswllt Recriwtio a Mewnwelediadau yn y DU, a’r Cyfarwyddwr Cyswllt Rhyngwladoli, bydd y deiliad swydd yn arwain swyddogaeth farchnata amlddisgyblaethol sy’n cwmpasu digidol, brand, creu cynnwys, cyhoeddiadau, CRM a chyflwyno ymgyrchoedd. Bydd y rôl yn sicrhau diwylliant cydweithredol sy’n perfformio’n uchel, gyda chydlyniad cryf ar draws timau.
Bydd y Cyfarwyddwr Cyswllt Marchnata yn chwarae rhan hanfodol wrth gryfhau safle’r Brifysgol yn y farchnad, gan sicrhau ymwybyddiaeth sylweddol o frand a chodi ymwybyddiaeth, a chynyddu’r enillion ar fuddsoddiad ar draws pob sianel. Bydd angen ffocws gwerthu cryf ar ddeiliad y rôl i sicrhau bod yr holl weithgareddau marchnata yn arwain at dwf recriwtio myfyrwyr newydd.
Cyfrifoldebau Allweddol
Er mwyn gallu ymgymryd â’r rôl hon yn effeithiol bydd angen y priodoleddau a’r sgiliau allweddol a amlinellir isod. Wrth gwblhau eich cais sicrhewch eich bod yn dangos sut yr ydych yn bodloni’r meini prawf hyn.
Yn ogystal, bydd angen:
Telerau
Rhaid i chi a), cyfarwyddo eich hun â pholisïau a gweithdrefnau Iechyd a Diogelwch y sefydliad ac ymrwymo iddynt, sydd ar gael ar Connect (Intranet); a b), bod yn llawn gyfarwydd â’ch cyfrifoldebau iechyd a diogelwch fel y nodir yn ddogfen Trefniadau Rheoli Iechyd a Diogelwch yr Ysgol/Faers, a gweithredu yn unol â hynny.
Mae USW wedi ymrwymo i ddiogelu a hybu lles plant, pobl ifanc a phobl agored i niwed. Disgwylir i bawb sy’n gweithio yn y Brifysgol rannu’r ymrwymiad hwn. Rydym wedi ymrwymo i gyflogi gweithlu amrywiol a chreu amgylchedd cynhwysol, lle gall cydweithwyr fod yn eu hunain ac mae pob person yn cael ei drin gyda urddas, tegwch a pharch. Rydym yn annog ceisiadau’n weithredol o gefndiroedd a chymunedau amrywiol, yn enwedig o ran oedran, anabledd, hunaniaeth rhyw, cyfeiriadedd rhywiol, hil a chrefydd a/neu gred. Rydym yn cymharu ein llwyddiant trwy achredueddau cydraddoldeb gyda Athena Swan, Race Equality Charter, Stonewall a Disability Confident.
Os ydych yn ddysgwyr Cymraeg neu’n siaradwr Cymraeg, byddem wrth ein bodd yn derbyn eich cais. Yn USW, mae gennych fynediad i gyrsiau Cymraeg er mwyn i chi ddatblygu eich sgiliau Cymraeg ymhellach, er mwyn darparu gwasanaeth dwyieithog i’n myfyrwyr, cydweithwyr a’r cyhoedd.
Mae Anderson Quigley yn gweithredu fel cynghorydd i’r Brifysgol, mae proses chwilio weithredol yn cael ei chynnal gan Anderson Quigley yn ogystal â’r hysbyseb cyhoeddus.
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw dydd 3 Gorffennaf 2026
Dylai ceisiadau gynnwys:
Os hoffech drafod rôl gyfrinachol, cysylltwch â Elliott Rae ar +44 (0)7584 078 534 neu elliott.rae@andersonquigley.com neu Alicja Janowska ar +44 (0) 7743 927 783 neu alicja.janowska@andersonquigley.com
Ymrwymiad Hyderus o ran Anabledd – Cynnig o gyfweliad
Mae Professional and Support Services Limited wedi ymrwymo i gyflogi gweithlu amrywiol a chreu amgylchedd cynhwysol lle gall staff fod yn nhw eu hunain a phawb yn cael eu trin ag urddas, tegwch a pharch. Rydym yn croesawu ymgeiswyr o gefndiroedd a chymunedau amrywiol, yn enwedig o ran oedran, anabledd, rhyw, hunaniaeth rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, hil a chrefydd neu gred. Rydym yn gwarantu bod pob ymgeisydd anabl sy’n cwrdd â’r holl feini prawf allweddol ar gyfer y swydd wag y maent yn gwneud cais amdani yn cael cynnig cyfweliad. Nodir meini prawf allweddol gan * ym Manyleb y Person uchod.