Reference: | AQ2977 |
Specialisms: | Education |
Date posted: | 9th December 2024 |
Closing date: | 17th January 2025 |
Cardiff Metropolitan University
Deputy Vice-Chancellor and Provost
Competitive remuneration
Cardiff Metropolitan University is an ambitious and progressive institution, a leading modern university with a distinctive profile for teaching, learning, research and innovation across a wide range of creative, sports, health, education, technology, social and life sciences, and business disciplines. Following the appointment of a new President and Vice-chancellor, Professor Rachael Langford, in January 2024, the University has refreshed the focus and priorities of its Strategy 2030 vision and missions.
Cardiff Metropolitan University draws its inspiration from over 150 years of commitment to education as a force for good in the Cardiff Capital Region and beyond. With over 12,000 students across two vibrant Cardiff campuses and 18,000 more learners studying through 12 international partners, our 30,000 strong community is truly global and united by our shared commitment to dignity and respect for all at work and study. We are proud to be Wales’ first University of Sanctuary, the holder of a Silver Athena Swan Institutional Award, and the top university in Wales in the People and Planet League 23/24.
Key among our ambitions is to prioritise our focus on putting our commitment to student success at the heart of everything we do. This past year has seen us make significant strides in improving our standing in the National Student Survey, and we were proud to be first in Wales in the 2024 Graduate Outcomes survey. We achieved our best position in the Times and Sunday Times Good University Guide and were the biggest climber in Wales; we rose 18 places in the Guardian University Guide, and we were selected as The Mail University Guide 2025’s ‘Welsh University of the Year’.
The University’s School of Art and Design is one of the oldest established Art Schools in the UK and the largest school of Art and Design in Wales, with a top 3 ranking in REF 2021 for the impact of staff research. Our School of Technologies boasts innovative teaching and research into robotics for health and social care; biotechnology; blockchain; cybersecurity and creative computing; while the University’s School of Management is the first business school in Wales and only the third in the UK to receive the Business School Impact System (BSIS) award from the European Foundation for Management Development for the positive economic impact the School has on the Cardiff Capital Region through its teaching, training and research activity.
Further, the University is the largest provider of full-time undergraduate sport education in the UK, with graduate outcomes that are built on a unique model of education that embeds students into the University and community sport infrastructure. Our sport pedigree is built on research excellence; Cardiff Met was ranked as a top 10 UK University for research power in Sport in REF 2021. The University’s School of Education and Social Policy is home to the largest teacher education and training centre in Wales and is a centre of research excellence for all aspects of education theory and practice, while also boasting a growing portfolio of social sciences degree programmes from criminology and policing, to sociology and social policy, politics, English, creative writing and media.
We are now seeking an inspiring and innovative leader to join us as Deputy Vice-Chancellor & Provost as the University embarks on a wide-ranging programme of business improvement and transformation. With direct line management responsibility for Executive Deans of academic units and for the new role of Dean of Teaching and Learning, you will report to the President and Vice-Chancellor and be a key member of the University Executive Group and Senior Leadership Team, deputising as required for the Vice-Chancellor across all executive functions.
The DVC-Provost will lead on strategic academic business planning and performance, ensuring the resourcing, quality and size and shape of academic units is continuously improving and aligned with the delivery of the University’s strategy, vision and mission. Working closely with all members of the University’s Executive Group and with the University’s wider Senior Leadership Team, you will lead transformation and innovation in policies, processes and working culture across the span of the organisation as you ensure delivery of the University’s ambitious academic vision and mission. You will play a key role in ensuring that the University continues to develop high-quality, attractive Welsh-medium study, supporting our aspiration increase the uptake of Welsh-medium education at the University, in line with its current upward trajectory.
Candidates will be analytical, tactical, resilient, self-reflective, proactive, solutions-focused leaders of strong academic standing, capable of commanding respect from colleagues at all levels across the University. You will bring a track record of leading successful strategic transformation in teaching, learning and student success; outstanding communication and collaborative skills; excellent insight into academic performance, planning and resourcing for maximum financial sustainability; and a detailed understanding of the current and likely future policy and political contexts of higher education in Wales, the UK and globally.
This is an exciting time to join one of the UK’s most distinctive and progressive modern universities. You will have the opportunity to be at the heart of shaping change by leading the transformation of our portfolio, performance and finances to ensure the delivery of outstanding social, and economic outcomes for our students and our communities, all while working in one of Europe’s fastest-growing, most vibrant and cosmopolitan cities, Wales’ capital city of Cardiff.
For a confidential discussion, please contact our advising consultants at Anderson Quigley: Carolyn Coates at carolyn.coates@andersonquigley.com, +44 (0)7825 871 944 or Elliott Rae at elliott.rae@andersonquigley.com, +44 (0)7584 078 534.
Closing date: noon on Friday 17th January 2025.
We are committed to supporting and promoting equality and diversity and to creating an inclusive working environment. Our Strategic Plan underpins our commitment to recruit and retain the best talent and we welcome applications from people from diverse backgrounds. We appoint on merit.
Prifysgol Metropolitan Caerdydd
Dirprwy Is-Ganghellor a Phrofost
Tâl cydnabyddiaeth gystadleuol
Mae Prifysgol Metropolitan Caerdydd yn sefydliad blaengar ac uchelgeisiol, yn brifysgol fodern flaenllaw gyda phroffil dysgu, addysgu, ymchwil ac arloesi unigryw ar draws ystod eang o ddisgyblaethau creadigol, chwaraeon, iechyd, addysg, technoleg, gwyddorau cymdeithasol a bywyd, a busnes. Yn dilyn penodiad Llywydd ac Is-Ganghellor newydd, yr Athro Rachael Langford, ym mis Ionawr 2024, mae’r Brifysgol wedi adnewyddu ffocws a blaenoriaethau ei gweledigaeth a chenhadaeth ei Strategaeth 2030.
Daw ysbrydoliaeth Prifysgol Metropolitan Caerdydd o dros 150 mlynedd o ymrwymiad i addysg fel grym er daioni ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd a thu hwnt. Gyda dros 12,000 o fyfyrwyr ar draws dau gampws bywiog yng Nghaerdydd a 18,000 yn fwy o ddysgwyr yn astudio trwy 12 partner rhyngwladol, mae ein cymuned o 30,000 o bobl yn wirioneddol fyd-eang ac wedi ei huno gan ein hymrwymiad cyffredin i ddatblygu diwylliant o urddas a pharch at bawb wrth weithio ac astudio. Rydym yn falch o fod yn Brifysgol Noddfa gyntaf Cymru, daliwr Gwobr Sefydliadol Arian Athena Swan, a’r brifysgol orau yng Nghymru yng Nghynghrair People and Planet 23/24.
Un o’n prif uchelgeisiau yw ymrwymo i roi llwyddiant ein myfyrwyr wrth wraidd popeth a wnawn. Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf rydym wedi cymryd camau breision o ran gwella ein statws yn yr Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr, ac roeddem yn falch o fod yn gyntaf yng Nghymru yn arolwg Hynt Graddedigion 2024. Llwyddom i ennill ein safle gorau yn y Times and Sunday Times Good University Guide a ni oedd y dringwr pennaf yng Nghymru; fe wnaethom ddringos 18 lle yn y Guardian University Guide, a chawsom ein dewis fel ‘Prifysgol y Flwyddyn yng Nghymru’ gan The Mail University Guide 2025’.
Mae Ysgol Gelf a Dylunio’r Brifysgol yn un o’r Ysgolion Celf hynaf yn y DU a’r ysgol gelf a dylunio fwyaf yng Nghymru, ac ymysg y 3 gorau yn REF 2021 am effaith ymchwil ei staff. Mae ein Hysgol Dechnolegau yn ymfalchïo mewn addysgu ac ymchwil arloesol i roboteg ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol; biodechnoleg; blockchain; seiberddiogelwch a chyfrifiadura creadigol; Ysgol Reoli’r Brifysgol yw’r ysgol fusnes gyntaf yng Nghymru a dim ond y drydedd yn y DU i dderbyn gwobr Business School Impact System (BSIS) gan y Sefydliad Ewropeaidd ar gyfer Datblygu Rheolaeth am yr effaith economaidd gadarnhaol y mae’r Ysgol yn ei chael ar Brifddinas-Ranbarth Caerdydd drwy ei gweithgareddau addysgu, hyfforddiant ac ymchwil.
Ymhellach, y Brifysgol yw’r darparwr mwyaf o addysg chwaraeon israddedig amser llawn yn y DU, gyda chanlyniadau graddedigion sy’n seiliedig ar fodel addysg unigryw sy’n ymgorffori myfyrwyr i mewn i’r Brifysgol a’r seilwaith chwaraeon cymunedol. Mae safon ein chwaraeon wedi’i adeiladu ar ragoriaeth ymchwil; cafodd Met Caerdydd ei rhestru ymhlith y 10 prifysgol orau yn y DU am rym ymchwil mewn Chwaraeon yn REF 2021. Mae Ysgol Addysg a Pholisi Cymdeithasol y Brifysgol yn gartref i’r ganolfan addysg a hyfforddiant athrawon fwyaf yng Nghymru ac mae’n ganolfan rhagoriaeth ymchwil ar gyfer pob agwedd ar theori ac ymarfer addysg sydd â phortffolio cynyddol o raglenni gradd gwyddorau cymdeithasol, o droseddeg a phlismona, i gymdeithaseg a pholisi cymdeithasol, gwleidyddiaeth, Saesneg, ysgrifennu creadigol a’r cyfryngau.
Rydym yn chwilio am arweinydd ysbrydoledig ac arloesol i ymuno â ni fel Dirprwy Is-Ganghellor a Phrofost wrth i’r Brifysgol gychwyn ar raglen eang o wella a thrawsnewid ei busnes. Gyda chyfrifoldeb rheoli llinell uniongyrchol dros Ddeoniaid Gweithredol unedau academaidd ac am rôl newydd Deon Dysgu ac Addysgu, byddwch yn adrodd i’r Llywydd a’r Is-Ganghellor ac yn aelod allweddol o Grŵp Gweithredol y Brifysgol ac Uwch Dîm Arweinyddiaeth, gan ddirprwyo yn ôl y galw i’r Is-Ganghellor ar draws yr holl swyddogaethau gweithredol.
Bydd y Dirprwy Is-Ganghellor a Phrofost yn arwain ar gynllunio a pherfformiad busnes academaidd strategol, gan sicrhau bod adnoddau, ansawdd a maint a siâp unedau academaidd yn gwella ac yn cyd-fynd yn barhaus â strategaeth, gweledigaeth a chenhadaeth y Brifysgol. Wrth weithio’n agos gyda phob aelod o Grŵp Gweithredol y Brifysgol a chydag Uwch Dîm Arwain ehangach y Brifysgol, byddwch yn arwain trawsnewid ac arloesi o ran polisïau, prosesau a diwylliant gwaith ar draws rhychwant y sefydliad wrth i chi sicrhau bod gweledigaeth a chenhadaeth academaidd uchelgeisiol y Brifysgol yn cael ei chyflawni. Byddwch yn chwarae rhan allweddol wrth sicrhau bod y Brifysgol yn parhau i ddatblygu addysg cyfrwng Cymraeg deniadol o ansawdd uchel, gan gefnogi ein dyhead i gynyddu’r nifer sy’n manteisio ar addysg cyfrwng Cymraeg yn y Brifysgol, yn unol â’i chynnydd presennol.
Bydd ymgeiswyr yn arweinwyr dadansoddol, tactegol, gwydn, hunan-fyfyriol, rhagweithiol, sy’n canolbwyntio ar atebion o statws academaidd cryf, sy’n gallu ennyn parch gan gydweithwyr ar bob lefel ar draws y Brifysgol. Byddwch yn dod â hanes o arwain trawsnewid strategol llwyddiannus mewn addysgu, dysgu a llwyddiant myfyrwyr; sgiliau cyfathrebu a chydweithredol rhagorol; mewnwelediad rhagorol i berfformiad academaidd, cynllunio ac adnoddau ar gyfer y cynaliadwyedd ariannol mwyaf posibl; a dealltwriaeth fanwl o gyd-destunau polisi a gwleidyddol presennol a thebygol addysg uwch yng Nghymru, y DU ac yn fyd-eang.
Mae hwn yn gyfnod cyffrous i ymuno ag un o brifysgolion modern mwyaf unigryw a blaengar y DU. Cewch gyfle i fod wrth wraidd siapio newid drwy arwain y gwaith o drawsnewid ein portffolio, perfformiad a chyllid i sicrhau bod canlyniadau cymdeithasol ac economaidd rhagorol yn cael eu cyflawni i’n myfyrwyr a’n cymunedau, a hynny wrth weithio yn un o ddinasoedd mwyaf bywiog a chosmopolitan Ewrop, prifddinas Caerdydd yng Nghymru.
I ddarganfod mwy am y cyfle hwn, ewch i https://andersonquigley.com/prifysgol-metropolitan-caerdydd-apwyntiadau-arweinyddiaeth/
I gael trafodaeth gyfrinachol, cysylltwch â’n hymgynghorwyr yn Anderson Quigley: Carolyn Coates yn carolyn.coates@andersonquigley.com, +44 (0)7825 871 944 neu Elliott Rae yn elliott.rae@andersonquigley.com, +44 (0)7584 078 534.
Dyddiad cau: hanner dydd ar ddydd Gwener 17 Ionawr 2025.
Rydym wedi ymrwymo i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth ac i greu amgylchedd gwaith cynhwysol. Mae ein Cynllun Strategol yn sail i’n hymrwymiad i recriwtio a chadw’r bobl fwyaf dawnus ac rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl o gefndiroedd amrywiol. Rydym yn penodi ar sail teilyngdod.