Pro-Vice-Chancellor Global Engagement

Bangor University

  • Permanent
  • Gwynedd, Wales
Reference:AQ3550
Specialisms:Education, Higher Education
Date posted:5th May 2026
Closing date:1st June 2026

Attractive salary and package

Bangor University is a distinctive, research-led institution located in North Wales, offering one of the most attractive university settings in the UK, between mountains and sea. It combines academic excellence with a deep commitment to community, culture and global impact. Founded in 1884, the University has built a strong reputation for high-quality teaching, impactful research and an excellent student experience.

The University is seeking to appoint an outstanding strategic leader as Pro Vice-Chancellor Global Engagement. A member of the University Executive, the successful candidate will lead the development and delivery of Bangor’s global engagement strategy, playing a central role in shaping its international future. This will include assessing, enhancing and expanding transnational education partnerships, driving international student recruitment across established and emerging markets and exploring new opportunities for growth, including innovative new delivery models.

The successful candidate will bring significant senior leadership experience within a complex organisation, with a proven track record of delivering international strategy and building high-value global partnerships. They will demonstrate a deep understanding of global higher education markets and trends, alongside the credibility and influence to operate effectively at the most senior levels. As a highly visible ambassador for the University, they will be an exceptional communicator and relationship builder, capable of inspiring colleagues and representing Bangor on the international stage.

This is a rare opportunity to shape the global direction of a university with strong foundations, clear ambition and significant potential to enhance its international impact.

Closing date: Midday, Monday 1 June 2026.

Bangor University values the diversity of all our staff and the enrichment this brings to our community. We are committed to an inclusive and supportive environment for all who come to work with us. We aim to take every opportunity to progress equality and diversity and actively encourage applications from candidates who are underrepresented at this level.

 

Cyflog a phecyn deniadol

Mae Prifysgol Bangor yn sefydliad nodedig sy’n cael ei arwain gan ymchwil, sydd wedi’i leoli yng ngogledd Cymru, ac sy’n cynnig un o’r lleoliadau prifysgol mwyaf deniadol yn y Deyrnas Unedig, rhwng y mynyddoedd a’r môr. Mae’n cyfuno rhagoriaeth academaidd ag ymrwymiad dwfn i gymuned, diwylliant ac effaith fyd-eang. Cafodd y Brifysgol ei sefydlu yn 1884, ac mae wedi meithrin enw da am addysgu o ansawdd uchel, ymchwil effeithiol a phrofiad rhagorol i fyfyrwyr.

Mae’r Brifysgol yn awyddus i benodi arweinydd strategol rhagorol yn Ddirprwy Is-ganghellor Ymgysylltu Byd-eang. Yn aelod o Fwrdd Gweithredol y Brifysgol, bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn arwain datblygiad a chyflwyniad strategaeth ymgysylltu byd-eang Prifysgol Bangor, gan chwarae rhan ganolog yn y gwaith o lunio ei dyfodol rhyngwladol. Bydd hyn yn cynnwys asesu, gwella ac ehangu partneriaethau addysg drawswladol, sbarduno ymdrechion recriwtio myfyrwyr rhyngwladol ar draws marchnadoedd sefydledig ac egin-farchnadoedd, ac archwilio cyfleoedd newydd o ran twf, gan gynnwys modelau cyflwyno newydd ac arloesol.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn dod â phrofiad sylweddol o arweinyddiaeth uwch o fewn sefydliad cymhleth, gyda phrofiad o gyflwyno strategaeth ryngwladol a meithrin partneriaethau byd-eang gwerth uchel. Bydd yn dangos dealltwriaeth fanwl o farchnadoedd a thueddiadau addysg uwch byd-eang, ochr yn ochr â’r hygrededd a’r dylanwad i weithredu’n effeithiol ar y lefelau uchaf. Fel llysgennad gweladwy iawn i’r Brifysgol, bydd yn meddu ar sgiliau eithriadol o ran cyfathrebu a meithrin cysylltiadau, yn gallu ysbrydoli cydweithwyr a chynrychioli Prifysgol Bangor ar y llwyfan rhyngwladol.

Dyma gyfle prin i lunio cyfeiriad byd-eang prifysgol sydd â sylfeini cryf, uchelgais glir a photensial sylweddol i wella ei heffaith ryngwladol.

Dyddiad cau: Hanner dydd, dydd Llun 1 Mehefin 2026.

Mae Prifysgol Bangor yn gwerthfawrogi amrywiaeth ein holl staff a’r cyfoethogi a ddaw yn sgil hynny i’n cymuned. Rydym yn ymrwymo i sicrhau awyrgylch cynhwysol a chefnogol i bawb a ddaw atom i weithio. Ein nod yw manteisio ar bob cyfle i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth ac rydym yn annog ceisiadau gan ymgeiswyr nad oes ganddynt gynrychiolaeth ddigonol ar y lefel hon.

Bangor University

View the recruitment pack here
Any questions?

If you have any questions about your application, please get in touch.

Contacts