Penodi Llywodraethwyr

Prifysgol Metropolitan Caerdydd

Croeso

Annwyl ymgeisydd

Rwy’n falch iawn eich bod wedi mynegi diddordeb ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd ac wedi cyfrannu at ein hagenda flaengar ar gyfer addysg, ymchwil ac arloesi.

Mae Met Caerdydd yn gymuned fywiog o tua 12,500 o fyfyrwyr yn seiliedig ar ddau gampws yng Nghaerdydd a thros 13,500 o fyfyrwyr addysg trawswladol sy’n astudio ein graddau mewn sefydliadau partner mewn 13 gwlad ledled y byd. Mae’r Brifysgol yn sbardun i addysg a thrawsnewid cymdeithasol, yn gatalydd ar gyfer arloesi a’r economi, ac yn gyfrannwr allweddol at dwf cynhwysol a chynaliadwy yng Nghymru a’r byd ehangach.

Mae ein cymuned Met Caerdydd yma yng Nghymru ac ar draws y byd wedi cael llwyddiant ysgubol dros y pum mlynedd diwethaf. Byddwn yn adeiladu ymhellach ar y llwyddiant hwn wrth i ni gychwyn ar ein ‘Strategaeth 2030’ yr un mor uchelgeisiol. Mae’r Brifysgol wedi sefydlu ei hun fel prifysgol flaengar, sy’n cael ei gyrru gan werthoedd, gyda phrofiad rhagorol i fyfyrwyr, diwylliant staff ac ymchwil ac arloesedd effeithiol. Roeddem yn falch iawn o dderbyn teitl Prifysgol Cymru y Flwyddyn 2021 gan The Times a’r Sunday Times Prifysgol y Flwyddyn 2021 gan y Times Higher Education. Mae Prifysgol Metropolitan Caerdydd hefyd ar hyn o bryd yn Rhif 1 Prifysgol Cynaliadwyedd y DU yn dilyn dyfarniad, ym mis Rhagfyr 2022, gan Gynghrair Werdd People and Planet.

Rydym nawr yn ceisio cryfhau ein Bwrdd ymhellach drwy benodi pum llywodraethwr newydd. Bydd ymgeiswyr yn dod â hanes profedig o lwyddiant ac arbenigedd yn eu maes proffesiynol a byddant yn gyfathrebwyr effeithiol, yn gallu deall materion cymhleth a chyfrannu at y Bwrdd mewn modd sy’n annog cyfraniad, dadl ac yn cyflawni cydsyniad.

Mae gennym ddiddordeb arbennig mewn ymgeiswyr sydd â chefndir mewn addysg uwch (gwasanaethau academaidd neu broffesiynol), cyllid a chyfrifyddiaeth, entrepreneuriaeth ac arloesedd, rheoli newid a datblygu’r gweithlu, a busnes a chysylltiadau rhyngwladol, er ein bod yn agored i bobl o gefndiroedd proffesiynol eraill, ac rydym yn croesawu ceisiadau o bob rhan o’r gymuned.

Disgwylir i lywodraethwyr fynychu tua deg cyfarfod y flwyddyn ac mae llawer o gyfleoedd i gymryd rhan mewn gweithgareddau ehangach y Brifysgol. Nid yw rolau llywodraethwyr yn cael eu talu er y bydd treuliau’n cael eu talu.

Gallwch ddarganfod mwy am ein Prifysgol wych ar y wefan hon, a gobeithio y bydd yn eich ysbrydoli i fynegi diddordeb mewn bod yn llywodraethwr.

Gyda dymuniadau gorau

John Taylor
Cadeirydd y Bwrdd Llywodraethwyr

Gwybodaeth Amdanom Ni

I ddysgu mwy am Prifysgol Metropolitan Caerdydd, cliciwch yma.

Y swydd

Independent Governors (AQ2011)

Ymgeisiwch Nawr

Telerau’r Penodiad

Bydd y rôl yn gofyn am ymrwymiad amser o un i ddau ddiwrnod y mis.

Mae’r rôl yn ddi-dâl.

Bydd llywodraethwyr yn cael eu penodi am gyfnod o dair blynedd, yn adnewyddadwy am un tymor arall.

Bydd y rôl yn gofyn am ymrwymiad clir i werthoedd ac ymddygiad y Brifysgol a dealltwriaeth gadarn o Egwyddorion Nolan.

Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael eu neilltuo i bwyllgorau penodol yn dilyn trafodaeth gyda Chadeirydd y Bwrdd. Cynhelir y rhan fwyaf o’r cyfarfodydd yn y prynhawn neu’n gynnar gyda’r nos.

Sut i wneud cais

Mae Anderson Quigley yn gweithredu fel ymgynghorydd i’r Brifysgol. Cynhelir proses chwilio weithredol gan Anderson Quigley yn ogystal â’r hysbysebion cyhoeddus.

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw nanner dydd ddydd Llun 07 Awst 2023.

Dylai ceisiadau gynnwys:

  • CV llawn.
  • Llythyr eglurhaol (uchafswm o dair tudalen) amlinellu sut yr ydych yn bodloni anghenion y rôl a bydd yn ychwanegu gwerth at y Bwrdd.
  • Dylech gynnwys manylion dau ganolwr naill ai yn eich CV neu’r llythyr eglurhaol, er sylwch na fyddwn yn cysylltu â’ch canolwyr heb eich caniatâd ymlaen llaw, a dim ond os byddwch yn cyrraedd y rhestr fer.

Os hoffech drafod y swyddi yn gwbl gyfrinachol, cysylltwch â Helene Usherwood ar +44 (0)7719 322 669 neu helene.usherwood@andersonquigley.com neu Carolyn Coates ar +44 (0)7825 871 944 neu carolyn.coates@andersonquigley.com.

Amserlen

Dyddiad cau 07 Awst
Cyfweliad Panel Terfynol 18 neu 19 Medi