Rydw i’n hynod falch eich bod wedi mynegi diddordeb ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd, lle rydym wedi ymrwymo i wneud y byd yn lle gwell trwy ddysgu, addysgu, ymchwil ac arloesi, a thrwy weithio gyda chymunedau yn lleol ac yn rhyngwladol.
Prifysgol fodern flaenllaw gyda chynnig unigryw ar draws ystod eang o ddisgyblaethau creadigol, chwaraeon, iechyd, addysg, technoleg, gwyddorau cymdeithasol a bywyd, a busnes, daw ein hysbrydoliaeth o dros 150 mlynedd o ymrwymiad i addysg fel grym er daioni ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd a thu hwnt.
Mae ein myfyrwyr a’n staff yn gweithio ochr yn ochr â’n partneriaid i arwain y ffordd wrth wneud gwahaniaeth cadarnhaol i Gymru a’r byd ehangach, gan gyfrannu at economi decach a gwyrddach sydd o fudd i bawb. Mae hyn yn cynnwys ymrwymiad cryf i gynaliadwyedd amgylcheddol, sy’n ymestyn o’n caffis atgyweirio cymunedol ar y campws a mentrau addysg myfyrwyr i ymchwil sy’n arwain y sector ac arloesi’r cwricwlwm.
Un o’n prif uchelgeisiau yw blaenoriaethu ein ffocws ar gefnogi llwyddiant myfyrwyr. Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf rydym wedi cymryd camau mawr ymlaen i wella ein sgôr boddhad myfyrwyr yn yr Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr ac roeddem yn falch o fod yr uchaf yng Nghymru yn arolwg Hynt Graddedigion 2024. Mae mwy am ein cyflawniadau a’n gwobrau yn nes ymlaen yn y pecyn hwn.
Rydym ni, wrth gwrs, yn llawer mwy na metrigau ym Met Caerdydd. Gyda myfyrwyr a staff o 130 o wledydd ar ein campysau yng Nghaerdydd a’n rhaglenni yn cael eu darparu gan 12 partner addysg byd-eang, mae meithrin diwylliant o berthyn ac urddas a pharch at bawb wrth weithio ac astudio yn hynod bwysig i ni. Rydym hefyd wedi ymrwymo’n gryf i chwarae rôl allweddol wrth hyrwyddo’r iaith Gymraeg a diwylliant Cymru trwy ein dysgu, addysgu, hyfforddiant ac ymchwil.
Gyda lefelau recriwtio cadarnhaol a ffocws cadarn ar dyfu ein sylfaen ymchwil ac arloesi, a chyfeiriad strategol wedi’i adnewyddu hyd at 2030, mae nawr yn amser gwirioneddol gyffrous i ymuno â’n prifysgol uchelgeisiol, fodern.
Fel uwch arweinydd allweddol, byddwch yn gweithio’n agos gyda Grŵp Gweithredol y Brifysgol i lunio a gyrru ein rhaglen drawsnewid sylweddol yn ei blaen, a fydd yn arwain llwyddiant myfyrwyr, cynaliadwyedd amgylcheddol, amrywiaeth a chynhwysiant a stiwardiaeth ariannol ar draws ein holl weithgareddau staff, myfyrwyr a phartneriaethau.
Yn y tudalennau canlynol, fe welwch fanylion am ein llwyddiannau, ein huchelgeisiau a’n heriau fel y gallwch ystyried a yw Met Caerdydd yn iawn i chi. Mae’r pecyn ymgeiswyr hwn wedi’i gynllunio i’ch cynorthwyo i benderfynu a yw eich profiad, sgiliau, dyheadau a gwerthoedd yn cyd-fynd â’r rôl rydych chi’n ymgeisio amdani a rhai ein cymuned.
Diolch unwaith eto am ddangos diddordeb mewn ymuno â’r tîm arweinyddiaeth ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd.
Mae Prifysgol Metropolitan Caerdydd yn gymuned ddysgu ac ymchwil fywiog gyda dros 30,000 o fyfyrwyr a 16,000 o staff. Mae 12,500 o fyfyrwyr wedi’u cofrestru ar raglenni ar ein campysau yng Nghaerdydd ac mae 18,000 o fyfyrwyr yn dilyn rhaglenni drwy ein 12 sefydliad partner byd-eang. Mae tua 45% o’n myfyrwyr yn rhan o’r genhedlaeth gyntaf yn eu teulu i fynd i’r brifysgol.
Mae gan y Brifysgol bum Ysgol Academaidd: Ysgol Gelf a Dylunio Caerdydd; Ysgol Chwaraeon a Gwyddorau Iechyd Caerdydd; Ysgol Addysg a Pholisi Cymdeithasol Caerdydd; Ysgol Reoli Caerdydd, ac Ysgol Dechnolegau Caerdydd.
Prifysgol Chwaraeon Cymru
Mae gan Met Caerdydd gefndir chwaraeon cryf, ac enw rhagorol am raddau chwaraeon.
Y Brifysgol yw’r darparwr mwyaf o gyrsiau chwaraeon israddedig amser llawn yn y DU ac fe’i rhestrwyd ymhlith y 10 prifysgol orau yn y DU am rym ymchwil ym maes Chwaraeon yn y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (REF) 2021.
Mae mwy na 1,000 o’n staff a’n myfyrwyr yn allweddol wrth gyflawni a chynllunio ein rhaglen Campws Agored hynod lwyddiannus. Mae hwn yn gydweithrediad grymus rhwng y Brifysgol a’r gymuned, sy’n darparu newid cynaliadwy ym maes chwaraeon, gweithgarwch corfforol, chwarae yn yr awyr agored, ac iechyd a llesiant, gan ymgysylltu â mwy na 9,000 o aelodau o’r gymuned yn flynyddol.
Rydym yn falch o’i heffaith, yn yr un modd ag yr ydym yn dathlu’r myfyrwyr a’r staff niferus sy’n cyflawni llwyddiant anhygoel mewn chwaraeon ac yn darparu cefnogaeth i athletwyr a thimau elitaidd.
Mae Chwaraeon Perfformiad yn parhau i ffynnu yn ein Prifysgol. Yn ddiweddar rydym wedi partneru gyda Tenis Cymru i sefydlu Rhaglen Hyfforddi Genedlaethol newydd, ac mae ein Hacademi Clwb Pêl-droed wedi’i huwchraddio i Academi Categori A, y bernir ei bod yn cynnig lefel ragorol o ddarpariaeth, ar gyfer tymor 2024-25.
Canolbwyntio ar effaith
Ein diben yw darparu addysg, ymchwil ac arloesi o ansawdd uchel sy’n cael effaith fawr, yn canolbwyntio ar ymarfer ac sy’n cael eu cydnabod yn broffesiynol mewn partneriaeth â’n myfyrwyr a’r diwydiant. Mae gwaith ymchwil ac arloesi’r Brifysgol yn cynnal ymchwiliad arloesol i rai o’r heriau mwyaf sy’n effeithio arnom yn lleol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol.
Gosodwyd Ysgol Gelf a Dylunio Caerdydd – yr Ysgol Gelf a Dylunio fwyaf yng Nghymru – ymhlith y tri uchaf yn REF 2021 am effaith ymchwil ei staff. Yn ddiweddar cwblhaodd yr Ysgol brosiect ymchwil tair blynedd a ariannwyd gan yr Academi Beirianneg Frenhinol i wreiddio cynaliadwyedd a llythrennedd carbon ar draws holl raglenni’r ysgol, gan greu gardd lliw naturiol, ystafell dywyll ffotograffiaeth gynaliadwy, a llyfrgelloedd pigmentau. Mae hyn wedi arwain at ddatblygu cwricwlwm Cenedlaethau’r Dyfodol, sy’n canolbwyntio ar y dyfodol, y blaned, ein cymunedau, a gwneud dewisiadau cynaliadwy.
Mae’r Ysgol hefyd yn gartref i Ganolfan Ryngwladol ar gyfer Dylunio ac Ymchwil arobryn. Mae ein Hysgol Dechnolegau yn ymfalchïo mewn addysgu ac ymchwil arloesol i roboteg ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol; Biodechnoleg; blockchain; seiberddiogelwch a chyfrifiadura creadigol.
Ym mis Ionawr 2024, agorodd Eluned Morgan AS, Prif Weinidog Cymru, Hwb Iechyd Clinigol Perthynol arloesol – rhan o’n Hysgol Chwaraeon a Gwyddorau Iechyd – ar ein Campws yn Llandaf.
Mae’r hyb yn gyfleuster sy’n arwain y sector sy’n galluogi myfyrwyr iechyd a gofal cymdeithasol i gymryd rhan mewn profiadau dysgu dilys tra hefyd yn cynnig ystod o glinigau gwerthfawr i’r gymuned leol, o podiatreg i ddeieteg, gwella canlyniadau iechyd a llesiant yn ein rhanbarth. Mae’n cynnwys yr Hyb Ymarfer ar gyfer Iechyd, sy’n darparu gofal dilynol i gleifion cardiaidd, gan helpu i gadw pobl yn actif a lleihau derbyniadau i’r ysbyty.
Mae ein Hysgol Addysg a Pholisi Cymdeithasol yn gartref i’r ganolfan addysg a hyfforddiant athrawon fwyaf yng Nghymru ac mae’n ganolfan rhagoriaeth ymchwil ar gyfer pob agwedd ar theori ac ymarfer addysg.
Mae ein Canolfan Diwydiant Bwyd yn ganolfan sy’n arwain y byd sy’n darparu cefnogaeth gynhwysfawr i fusnesau bwyd, gan dynnu ar arbenigedd Prifysgol Metropolitan Caerdydd ym maes gwyddor bwyd, maeth, dieteg, deddfwriaeth bwyd, a mwy. Derbyniodd sêl bendith frenhinol ym mis Mehefin 2024 pan ymwelodd Ei Uchelder Brenhinol Tywysog Cymru i ddathlu’r diwydiant gwymon llewyrchus ac arloesi bwyd yng Nghymru.
Arloeswyr
Met Caerdydd oedd y brifysgol gyntaf yng Nghymru i gael ei henwi’n Brifysgol Noddfa, gan ddarparu ‘Ysgoloriaethau Noddfa’ i fyfyrwyr israddedig ac ôl-raddedig, a staff academaidd sydd mewn perygl yn eu gwledydd.
Ni hefyd oedd y brifysgol gyntaf yng Nghymru i dderbyn y Siarter Busnesau Bach mawreddog a’r marc Menter Gymdeithasol i gydnabod ein gwaith gyda’r byd busnes, a’n hymrwymiad i gefnogi myfyrwyr mewn gweithgareddau menter ac entrepreneuriaeth.
Ym mis Ebrill 2024, dathlodd ein Hysgol Reoli Caerdydd ar ôl dod y brifysgol gyntaf yng Nghymru a dim ond y drydedd yn y DU i dderbyn label Business School Impact System (BSIS) gan y Sefydliad Ewropeaidd ar gyfer Datblygu Rheoli am ein heffaith economaidd gadarnhaol ar Brifddinas-Ranbarth Caerdydd.
Mae gennym ddiwylliant cyfoethog o arloesi ac entrepreneuriaeth ledled y Brifysgol. Mae ein dull cyfannol o gefnogi busnesau newydd wedi gosod Met Caerdydd ymhlith yr 20% uchaf o brifysgolion y DU ar gyfer busnesau newydd gan fyfyrwyr am y pum mlynedd diwethaf, sydd â’r chweched nifer uchaf o fyfyrwyr sy’n cychwyn busnesau sydd wedi goroesi y tu hwnt i dair blynedd.
Ein prif feysydd ymchwil
Gwobrau a Chyflawniadau
Yn ddiweddar, rydym wedi adnewyddu ein Strategaeth 2030 gyda’r nod o fireinio ein nodau i wella profiad y myfyrwyr, cynyddu cynhwysiant, cynyddu effaith ymchwil, meithrin arloesedd, a dyfnhau ymgysylltiad â’r gymuned.
Ein huchelgeisiau strategol
Ein Pileri Strategol
Dysgu, Addysgu a Llwyddiant Myfyrwyr:
Byddwn yn darparu profiad rhagorol i fyfyrwyr, gan ehangu mynediad a chynhwysiant drwy ymestyn cyfleoedd dysgu y tu hwnt i’n cynigion israddedig ac ôl-raddedig traddodiadol trwy gyrsiau byr, prentisiaethau gradd a micro-gymwysterau, gan gynnwys trwy gyfrwng y Gymraeg a thrwy addysg drawswladol. Byddwn yn dylunio ein profiadau dysgu ac addysgu, gan gynnwys mannau dysgu, i ddatblygu ymdeimlad o berthyn sy’n cefnogi dysgwyr i gyrraedd eu potensial academaidd a gwneud y gorau o’u canlyniadau.
Ymchwil ac Arloesi:
Byddwn yn gwella ein proffil ymchwil ac arloesi trwy amgylchedd ymchwil cryfach a gwell ansawdd, dwyster, cyrhaeddiad ac effaith yn ein hallbwn ymchwil ac arloesi. Byddwn yn gweithio yng Nghymru a’r DU i gefnogi mentrau sydd o fudd i lesiant cymdeithasol, economaidd, corfforol a meddyliol, gan gyfrannu at economi decach a gwyrddach sydd o fudd i bawb.
Rhyngwladol:
Byddwn yn llunio ein partneriaethau addysgol trawswladol o ansawdd uchel, strategol ac oddi ar y campws i ymestyn ein heffaith, cyrhaeddiad ac enw da, ac i gefnogi datblygiad sgiliau a gallu dramor a chyfrannu at lesiant unigolion, economïau a chymdeithasau yn fyd-eang. Byddwn yn rhagweithiol yn cefnogi ein myfyrwyr rhyngwladol ar y campws i gynyddu llwyddiant, gwella cadw, ymgysylltu a dilyniant, a hyrwyddo manteision ymgysylltu fel aelodau graddedig o rwydweithiau cyn-fyfyrwyr byd-eang gweithredol.
Cenhadaeth Ddinesig:
Byddwn yn ymestyn ein gweithgareddau cenhadaeth ddinesig i gyfoethogi llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol. Trwy bartneriaethau a chydweithio, byddwn yn cefnogi cymunedau, busnesau a diwydiannau i ffynnu trwy ehangu mynediad i’n cyfleusterau, ein doniau a’n hadnoddau.
Mae’r broses o adnewyddu Strategaeth 2030 hefyd yn amlinellu pedair cenhadaeth drawsbynciol, gan alluogi dull cydgysylltiedig o ymdrin â heriau aml-ddimensiwn a fydd yn sicrhau bod safbwyntiau a galluoedd amrywiol yn cael eu dwyn ynghyd i gyflawni ein huchelgeisiau strategol a rennir:
Mae gan Met Caerdydd ddau gampws addysgu, Campws Cyncoed yng ngogledd-ddwyrain y ddinas a Champws Llandaf ar Rodfa’r Gorllewin yng ngogledd-orllewin y ddinas. Mae’r ddau brif gampws yn cynnig amgylcheddau rhagorol i weithio, astudio ac ymlacio ynddynt ac mae pob un wedi’i amgylchynu gan fannau gwyrdd helaeth a choetir sy’n cefnogi pwyslais y Brifysgol ar iechyd a llesiant.
Campws Cyncoed yw prif gartref Ysgol Addysg a Pholisi Cymdeithasol Caerdydd ac Ysgol Chwaraeon a Gwyddorau Iechyd Caerdydd. Mae’r campws yn cynnig cyfleusterau chwaraeon rhagorol sy’n adlewyrchu enw da’r Brifysgol ers tro fel prifysgol flaenllaw Cymru ar gyfer chwaraeon perfformio elitaidd ac ehangu cyfranogiad mewn chwaraeon. Mae ganddi ganolfan awyr agored, ffreutur fawr, neuaddau preswyl myfyrwyr, siop ar y safle a bariau coffi ac mae’n gweithredu fel prif swyddfa Undeb y Myfyrwyr ac Athletau.
Mae Cyncoed hefyd yn gartref i NIAC, y Ganolfan Athletau Dan Do Genedlaethol. Mae’r cyfleuster wedi’i gyfarparu’n llawn i safon ryngwladol ac mae ganddo le i 690 o wylwyr eistedd. Defnyddir NIAC gan fyfyrwyr ar gyrsiau chwaraeon, clybiau myfyrwyr a’r cyhoedd ehangach. Mae cyrff llywodraethu chwaraeon, gan gynnwys Athletau Cymru a Phêl-rwyd Cymru, hefyd yn defnyddio’r cyfleuster hwn yn rheolaidd. Mae gwasanaethau meddygaeth chwaraeon wedi’u lleoli o fewn NIAC ac yn cynnwys ffisiotherapi a thylino chwaraeon. Defnyddir NIAC i gynnal digwyddiadau mawr ac, y tu allan i’r calendr chwaraeon, mae ganddo’r hyblygrwydd i gael ei drawsnewid yn Ganolfan Gynadledda.
Campws Llandaf yw cartref Ysgol Reoli Caerdydd, Ysgol Gelf a Dylunio Caerdydd ac Ysgol Dechnolegau Caerdydd a sefydlwyd yn ddiweddar.
Dyma gampws bywiog sy’n cynnig cyfleusterau dysgu o’r radd flaenaf i’n myfyrwyr. Mae’r campws yn cynnig cyfleusterau chwaraeon, undeb y myfyrwyr, bariau coffi, gan gynnwys Costa a Starbucks a ffreutur mawr.
Lleolir y campws tua dwy filltir o ganol y ddinas ac mae wedi’i amgylchynu gan barciau, coetir, caeau chwarae, Afon Taf ac Eglwys Gadeiriol hanesyddol Llandaf.
Mae Caerdydd yn elwa o rwydwaith o lwybrau beicio, gan gynnwys llawer o lwybrau beicio di-draffig. Mae campws Llandaf wedi’i leoli drws nesaf i Lwybr Taf, llwybr beicio cenedlaethol poblogaidd sy’n rhedeg o ganol y ddinas cyn belled i’r gogledd â Merthyr Tudful.
Caerdydd yw prifddinas fywiog Cymru, un o bedair gwlad y Deyrnas Unedig. Mae prifddinas Cymru wedi newid tu hwnt i bob adnabyddiaeth dros y ddau ddegawd diwethaf gyda datblygiadau sylweddol iawn yn ei hamgylchedd a’i his-adeiledd gan gynorthwyo poblogaeth gynyddol, cynyddu datblygiadau busnes a buddsoddi mewn cyfleusterau chwaraeon a diwylliannol heb eu hail.
Cafodd y cyn ddociau eu hadfywio i fod yn lannau gwych Bae Caerdydd sydd, yn ogystal â darparu cyfleoedd ar gyfer gweithgareddau hamdden awyr agored, yn gartref i Ganolfan Mileniwm Cymru, lleoliad Cerddorfa BBC Cymru ac Opera Cenedlaethol Cymru ynghyd â’r Senedd gyferbyn â Phlas Roald Dahl. Heddiw, mae Caerdydd yn gyrchfan Ewropeaidd cyffrous ac yn brifddinas werth byw ynddi.
Caerdydd ydy’r brifddinas Ewropeaidd agosaf at Lundain, o fewn taith 100 munud ar y trên cyn bo hir. Rhagwelir mai Caerdydd ydy’r ddinas a fydd yn tyfu gyflyma yn y DU dros yr 20 mlynedd nesaf; mae’n ddinas ifanc a thalentog, yn barod am dwf economaidd lle na fu addysg uwch erioed cyn bwysiced.
Lleolir mgueddfa Genedlaethol Cymru yng Nghaerdydd hefyd, gydag Amgueddfa Werin Cymru yn Sain Ffagan ac adeiladau dinesig gwych gydag aceri o barcdiroedd yn eu hamgylchynu, tiroedd sy’ ffurfio ‘ysgyfaint gwyrdd’ y ddinas yn ymestyn o Fae Caerdydd i Gampws Llandaf y Brifysgol bedair milltir i’r gogledd. Er gwaethaf y twf cyflym diweddar, mae Caerdydd yn dal yn ddinas gyfeillgar. Mae’n ddinas egnïol llawn cymeriad ac awyrgylch, gydag ystod o gyfleusterau heb eu hail ar gyfer chwaraeon, bywyd nos, siopa ac i ymweld â hi, ynghyd â chalendr o ddigwyddiadau diwylliannol a chwaraeon drwy gydol y flwyddyn.
Efallai bod Barcelona yn ddinas enwog ger y môr ond Caerdydd sydd â datblygiadau mwyaf Ewrop ar hyd y glannau, sef Bae Caerdydd. Bu ardal yr harbwr yn bwysig i’r ddinas erioed ac yn ystod diwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg, Caerdydd oedd porthladd allforio glo prysuraf y byd. Erbyn 1999, creodd argae Bae Caerdydd lyn dŵr ffres enfawr sydd nawr wedi’i amgylchynu gan farrau, bwytai a chaffis. Gerllaw ceir Plas Roald Dahl, wedi’i enwi ar ôl yr awdur enwog a aned yng Nghaerdydd, sy’n fangre syfrdanol ger Adeilad modern Senedd Cymru a Chanolfan Mileniwm Cymru lle cynhelir ein seremonïau graddio bob mis Gorffennaf. Mae ardal siâp padell Plas Roald Dahl, gyda mannau eistedd o’i gwmpas yn ffurfio amffitheatr yn gweithredu fel lleoliad i gynnal cyngherddau a gwyliau drwy’r haf. Gellir treulio amser hamddenol ym Mae Caerdydd y gellir ei gyrraedd mewn cwch o ganol y ddinas ac o dref Penarth gerllaw.
Mae Caerdydd yn ddi-os yn brifddinas chwaraeon. Mae Stadiwm y Principality i’w gweld yn amlwg o bob man a chwaraewyd gemau bythgofiadwy yno, ers 1999, o dan y to sy’n agor a chau. A’r ddinas yn gyrchfan chwedlonol ar gyfer cefnogwyr rygbi, mae Caerdydd yn orlawn o bobl o bob cwr o’r byd ar ddyddiau gemau rhyngwladol. Yn nhyb llawr o bobl does unman gwell na Chaerdydd i wylio gêm fawr nag yn y stadiwm wych hon, sydd, yn wahanol i’r arfer, wedi’i lleoli ynghanol y ddinas. Yn ogystal â’r rygbi, cynhelir Grand Prix Speedway Prydain yn Stadiwm y Principality hefyd ac mae wedi bod yn gartref i ornestau paffio rhyngwladol a chyngherddau gan fandiau enwog megis Coldplay ac Ed Sheeran.
Mae gan Glŵb Pêl-droed Dinas Caerdydd ei stadiwm yn Lecwydd, a gall selogion criced fwynhau prynhawn yng Ngerddi Sophia, cartref Clwb Criced Sir Forgannwg sy’n agos iawn at Gampws Llandaf, tra gall cefnogwyr hoci iâ wylio tîm Diafoliaid Caerdydd ar waith ar lawr iâ’r ddinas.
Mae gan Met Caerdydd rai o’r cyfleusterau chwaraeon gorau yng Nghymru, ond y tu hwnt i’r Brifysgol mae digon o gyfle ar gyfer chwaraeon hamdden. Mae Afon Taf yn rhedeg heibio i Gampws Llandaf a drwy ganol y ddinas ac mae hyfrydwch Llyn Parc y Rhath, ger Campws Cyncoed, yn werth ymweld â hi. Mae gan Chwaraeon Cymru yng Ngerddi Sophia, tafliad carreg o Gampws Llandaf, gyfleusterau o’r radd flaenaf, sy’n cynnwys cyrtiau badminton, tenis a phêl-rwyd.
Mae ardal Caerdydd yn brydferth ac yn cynnwys arfordir a chefn gwlad megis Parc Cenedlaethol y Gŵyr a Bannau Brycheiniog a digonedd o gyfleoedd i fwynhau cyfleoedd hamdden a chwaraeon awyr agored gan gynnwys beicio mynydd, hwylio, caiacio, padlfyrddio, beicio, cerdded a rhedeg mewn dinas gymharol wastad.
Mae gan Gaerdydd gysylltiadau trafnidiaeth ardderchog. Wedi’i lleoli ychydig oddi ar draffordd yr M4, mae’r ddinas yn cael ei gwasanaethu gan yr Orsaf Ganolog yng nghanol y ddinas a dim ond dwy awr o Lundain ar y trên ydyw. Mae Maes Awyr Caerdydd ychydig i’r gorllewin o’r Ddinas ac mae’n cynnig mynediad hawdd i lawer o gyrchfannau domestig a rhyngwladol mewn awyren. Mae Maes Awyr Bryste, 50 milltir i’r dwyrain, hefyd yn cynnig opsiynau helaeth ar gyfer hediadau domestig a rhyngwladol.
Mae Anderson Quigley yn gweithredu fel cynghorydd i’r Brifysgol, mae proses chwilio weithredol yn cael ei chynnal gan Anderson Quigley yn ogystal â’r hysbyseb cyhoeddus.
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw Gwener 17 Ionawr 2025.
Dylai ceisiadau gynnwys:
Os hoffech drafod y rôl yn gwbl gyfrinachol, cysylltwch ag Elliott Rae ar +44 (0)7584 078 534 neu elliott.rae@andersonquigley.com neu Carolyn Coates ar +44 (0)7825 871 944, carolyn.coates@andersonquigley.com.