Penodi'r Dirprwy Is-Ganghellor

Ym Mhrifysgol De Cymru

Croeso

Diolch am eich diddordeb mewn ymuno â ni fel ein Dirprwy Is-Ganghellor newydd.

Ym Mhrifysgol De Cymru (PDC), ein gweledigaeth yw trawsnewid bywydau a chyfrannu’n gadarnhaol at y byd. Wedi’i sefydlu fwy na 180 mlynedd yn ôl gan ddiwydiant, PDC yw un o brifysgolion mwyaf deinamig a blaengar y DU, sy’n gartref i tua. 20,000 o fyfyrwyr o fwy na 100 o wledydd gyda chefnogaeth 2,700 o aelodau staff ymroddedig.

Mae ein partneriaeth gref â diwydiant yn paratoi unigolion ar gyfer gyrfaoedd yn y dyfodol, gan feithrin twf a chaniatáu iddynt fynegi eu doniau yn llawn. Boed trwy ein haddysgu neu ein hymchwil, ein nod yw cael effaith ystyrlon y tu hwnt i ffiniau ein campws. Rydym yn credu mewn cydweithredu, gan adeiladu partneriaethau ymatebol a chynaliadwy sy’n ysgogi buddion hirdymor.

Rydym yn chwarae rhan ganolog wrth gefnogi busnesau a chymunedau ar draws rhanbarth De Cymru, gan gyfrannu £1.1 biliwn y flwyddyn i economi’r DU a chynnal 10,600 o swyddi ledled y wlad. Er ein bod wedi’u gwreiddio’n ddwfn yn ein rhanbarth, mae ein dylanwad a’n cyfraniadau yn ymestyn ymhell y tu hwnt iddo.

Mae ein strategaeth PDC 2030 uchelgeisiol yn amlinellu ffordd ymlaen i’r dyfodol. Fel llawer yn y sector, rydym yn wynebu heriau ariannol ac ar hyn o bryd yn llywio rhaglen drawsnewid gymhleth sy’n ailasesu ein modelau darparu academaidd ac anghenion ein gweithlu, ynghyd â moderneiddio systemau ac arferion.

Bydd ein Dirprwy Is-Ganghellor newydd yn allweddol wrth yrru a gweithredu’r trawsnewid academaidd hwn, gan feithrin amgylchedd sy’n annog unigolion i wthio ffiniau a chefnogi ei gilydd i gyflawni rhagoriaeth.

Rydym hefyd yn gwneud buddsoddiadau strategol i sicrhau dyfodol bywiog. Yr haf hwn, fe ddechreuon ni adeiladu adeilad academaidd newydd, a fydd yn dod yn gartref ar gyfer Cyfrifiadureg, Peirianneg a Thechnoleg pan fydd yn agor yn 2026. Mae’n amser cyffrous i fod yn rhan o’n taith.

Mae cymuned PDC yn aml yn cael ei disgrifio fel teulu—yn cynnwys unigolion ysbrydoledig ac ymroddedig sydd wedi ymrwymo i greu cyfleoedd a hyrwyddo cyfiawnder cymdeithasol. Mae Prifysgol De Cymru yn wirioneddol arbennig, gydag ymdeimlad cryf o gymuned a ffocws diwyro ar helpu eraill i wireddu eu potensial.

Edrychwn ymlaen at groesawu arweinydd ysbrydoledig a strategol sy’n rhannu ein hymrwymiad i wneud gwahaniaeth parhaol i’n myfyrwyr, ein staff, a’r gymuned ehangach.

Dr Ben Calvert
Is-Ganghellor

Am Brifysgol De Cymru

Mae Prifysgol De Cymru (PDC) yn arloesol, yn ffynnu ac yn gynaliadwy. Rydym yn gweithio i adeiladu dyfodol gwell i’n myfyrwyr, ein cymunedau a’n partneriaid yn economaidd, yn gymdeithasol ac yn ddiwylliannol.

Rydym yn falch o fod yn brifysgol ehangu cyfranogiad arweiniol Cymru, ac wedi ymrwymo i fynd i’r afael ag anghydraddoldeb cymdeithasol, gan gefnogi a galluogi ein myfyrwyr i gyflawni’r deilliannau bywyd gorau posibl.

Gyda phortffolio unigryw a ddyluniwyd ar y cyd â diwydiant, rydym yn falch o gynhyrchu gweithwyr gofal iechyd, cyfreithwyr, athrawon a swyddogion heddlu yfory. Mae’n cwricwlwm yn cael ei greu ar y cyd â myfyrwyr, i sicrhau eu bod wedi’u grymuso gyda’r sgiliau, y wybodaeth a’r profiad perthnasol i fanteisio i’r eithaf ar eu potensial a’u cyfleoedd i’r dyfodol. Rydym hefyd yn cydweithio â diwydiant, gan ymchwilio ac arloesi i ddatrys rhai o heriau mwyaf y byd, o ynni ac iechyd i ddiogelwch a chynaliadwyedd.

Mae gennym gymuned fywiog ac amrywiol, gyda myfyrwyr o dros 100 o wledydd yn astudio ar ein campysau yng Nghaerdydd, Casnewydd a Phontypridd. Rydym hefyd yn darparu ystod o lwybrau astudio cynhwysol, gan gefnogi dysgu gydol oes ac opsiynau hyblyg ar gyfer ein myfyrwyr, a gweithio’n agos â’n colegau partner.

Rydym yn herio ein hunain i feddwl ac ymddwyn yn wahanol drwy daclo stigma a dileu rhwystrau. Drwy gael ein hysbrydoli gan ein myfyrwyr, partneriaid a chymuned i ddatblygu teimlad cyffredin o berthyn, rydym yn adeiladu dyfodol gwell i bob un, yn economaidd, yn gymdeithasol ac yn ddiwylliannol.

Ein Gwerthoedd

Yn PDC, rydym yn dal ein gwerthoedd yn agos at ein calonnau. Mae ein cymuned yn:

  • Proffesiynol
  • Ymatebol
  • Creadigol
  • Ysbrydoledig
  • Cydweithredol

Strategaeth 2030 PDC

Mae Strategaeth y Brifysgol – PDC 2030 – yn nodi ein cyfeiriad ar gyfer y degawd nesaf; llwybr ar gyfer y dyfodol sy’n feiddgar ac uchelgeisiol i sicrhau ein llwyddiant parhaus a’n cynaliadwyedd hirdymor.

Mae ein gweledigaeth yn glir, rydym eisiau newid bywydau a’n byd er gwell. Mae ein byd yn newid ar gyflymder dwys a’n gwaith ni yw rhoi’r sgiliau, y wybodaeth a’r profiad sydd eu hangen ar ein myfyrwyr i wneud y gorau o’u potensial a chyfleoedd yn y dyfodol yn y byd gwaith.

 

Erbyn 2030, byddwn yn:

  • Brifysgol fawr, ranbarthol gyda chynnig academaidd amser llawn a rhan-amser nodedig sy’n ddeniadol i farchnadoedd cartref a byd-eang
  • Darparu profiad rhagorol, cynhwysol, ymgysylltiol i fyfyrwyr
  • Sicrhau bod ein myfyrwyr yn cwblhau eu hastudiaethau yn llwyddiannus a sicrhau cyflogaeth yn eu meysydd arbenigedd
  • Ymgysylltu â phartneriaid i gael yr effaith fwyaf bosibl ar eu hymdrechion
  • Ymrwymo i wella llesiant y cymunedau rydym yn eu gwasanaethu yn y dyfodol trwy weithredu unigol a chyfunol
  • Darparu cyfleoedd i fyfyrwyr ar draws y rhanbarth a thu hwnt i gymryd rhan a symud ymlaen i addysg uwch
  • Bod yn gyflogwr ymgysylltiol, sy’n seiliedig ar werthoedd
  • Bod yn gynaliadwy yn ariannol yng nghyd-destun amgylchedd addysg uwch deinamig.

Ymchwil ag Effaith

Mae gennym enw da am gynhyrchu ymchwil hynod effeithiol a chymhwysol. Rydym yn bedwaredd yng Nghymru am effaith (yn ôl Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2021), gydag 81% o’n gweithgarwch ymchwil yn cael ei nodi fel ymchwil sy’n arwain y byd, neu sy’n ardderchog yn rhyngwladol (4/3*).

Rydym yn ymdrechu i helpu i ddatrys problemau go iawn y mae cymdeithas yn eu hwynebu. Mae ein timau ymchwil amlddisgyblaethol yn cydweithio â diwydiant, cymunedau a sefydliadau i wneud gwahaniaeth cadarnhaol i fywydau. Mae ein hymchwil yn canolbwyntio ar bedwar maes blaenoriaeth:

Trosedd, Diogelwch a Chyfiawnder

Rydym yn cael effaith ar bolisi, ymarfer a busnes gyda’n hymchwil sydd â chydnabyddiaeth ryngwladol mewn troseddeg, seiberddiogelwch, polisi cymdeithasol a gwyddorau’r heddlu.

Iechyd a Lles

Mae’n harbenigedd mewn anableddau deallusol, iechyd a gofal cymdeithasol, rhagnodi cymdeithasol, seicoleg gwybyddol a chwaraeon a gwyddorau ymarfer yn mynd i’r afael â materion allweddol o ran heneiddio a grwpiau sy’n agored i niwed.

Arloesedd Creadigol

Rydym yn arwain yr agenda ar gyfer y diwydiannau creadigol a’r economi digidol yng Nghymru, gan ddylanwadu ar bolisïau drwy nodi’r heriau a’r cyfleoedd y mae’r diwydiannau creadigol yn eu hwynebu.

Amgylchedd Cynaliadwy

Rydym yn helpu i greu byd mwy diogel a chynaliadwy gyda’n hymchwil aml-ddisgyblaethol sy’n torri tir newydd ym maes hydrogen, ecoleg, treulio anaerobig a systemau pŵer uwch.

Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant

Rydym yn herio ein hunain i feddwl ac i weithredu’n wahanol. Yn PDC, rydym yn mynd ar daith i greu gofodau teg i bawb. Rydym yn chwalu stigma ac yn tynnu rhwystrau, gan gymryd ysbrydoliaeth gan ein myfyrwyr a’n cymuned.

Mae ein hymrwymiad i gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant wedi’i wreiddio yn y ffordd rydym yn gweithredu fel prifysgol.

Siarter Cydraddoldeb Hil – Mae PDC wedi ymrwymo i symud ymlaen gyda Siarter Cydraddoldeb Hil Advance HE (REC).

Athena SWAN – Mae PDC wedi cael ei chydnabod am ei hymrwymiad i gydraddoldeb rhywedd drwy ennill gwobr Efydd Athena SWAN.

100 Cyflogwr Gorau Stonewall 2020 – Cododd PDC i 24ain ym Mynegai Cydraddoldeb yn y Gweithle 2020 ac fe’i henwyd yn Gyflogwr Traws Uchaf gan Stonewall yn 2020.

Cynllun Hyderus o Ran Anabledd – Rydym yn falch o fod yn gyflogwyr Hyderus o ran Anabledd, sy’n golygu cymryd camau i wella sut rydym yn recriwtio, yn cadw, ac yn datblygu pobl anabl.

Prifysgol Noddfa – Mae PDC yn Brifysgol Noddfa. Mae hyn yn cydnabod ymrwymiad PDC i greu diwylliant croesawgar ar gyfer pobl sy’n ceisio lloches ar ei champysau a thu hwnt.

Ein lleoliad

Mae lleoliadau’r Brifysgol yn cynnig y gorau o’r hyn sydd gan Dde Cymru i’w gynnig o fewn cyrraedd hawdd – y brifddinas, yr arfordir, y mynyddoedd a’r cymoedd.

Mae gennym ni bum campws ar draws tri lleoliad, ond un brifysgol ydym ni.

Caerdydd – Prifddinas fodern, amlddiwylliannol – yma, fe welwch fwy o fannau gwyrdd fesul person nag unrhyw ddinas yn y DU. Yn adnabyddus fel dinas diwylliant ac adloniant, mae bob amser rhywbeth i’w brofi yng Nghaerdydd. Mae ein Campws Caerdydd yn gartref i gymuned fywiog a chreadigol, o Gemau a Dylunio i Ffasiwn a Ffilm.

Casnewydd – Dinas annibynnol, amlddiwylliannol sy’n borth i Gymru. Mae ein Campws yng Nghasnewydd yng nghanol y ddinas, yn edrych dros Afon Wysg. Ar y Campws, mae amrywiaeth o ddysgu ac addysgu proffesiynol ar gael o Addysg ac Addysgu i Fusnes a Seiberddiogelwch.

Pontypridd – Wedi’i fframio gan fryniau gwyrdd gyda mynediad hawdd i Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Yma, bydd gennych le i ganolbwyntio a gorwelion i’w harchwilio. Mae cymuned amrywiol a chyfeillgar wrth galon ein Campws Pontypridd, gyda’r dysgu ar gael ar draws tri safle – Trefforest, Glyn-taf, a Pharc Chwaraeon PDC.

Y swydd

Deputy Vice Chancellor (AQ2959)

Ymgeisiwch Nawr

DISGRIFIAD O’R RÔL

Teitl swydd Dirprwy Is-Ganghellor
Adrodd i Is-Ganghellor
Adroddiadau uniongyrchol
  • Deoniaid y Cyfadran
  • Cyfarwyddwr y Ganolfan Gwella Dysgu ac Addysgu
  • Cyfarwyddwr Myfyrwyr y Dyfodol
  • Cyfarwyddwr Gwasanaethau Dysgu
Prif Swyddfa campws Trefforest ym Mhontypridd
Pwrpas y Swydd Gan weithio’n agos gyda’r Is-Ganghellor a gweithredu fel aelod hollbwysig o dîm Gweithredol y Brifysgol, byddwch yn darparu arweinyddiaeth strategol, cyfeiriad, arweinyddiaeth academaidd a throsolwg gweithredol ar draws y Brifysgol a’r grŵp ehangach. Yn enwedig o ran ein trawsnewid a’n ansawdd academaidd.

Cyfrifoldebau

Mae PDC yn bwrw ymlaen â thrawsnewidiad hirdymor sylweddol i gyflawni ein Strategaeth 2030 a byddwch yn chwarae rhan allweddol wrth gefnogi’r tîm Gweithredol ehangach i gyflawni ein Rhaglen Drawsnewid integredig, ariannol gynaliadwy ac effeithiol. Fel rhan o’r Rhaglen Drawsnewid honno ledled PDC, byddwch yn cymryd perchnogaeth benodol dros arwain pob agwedd o’r rhaglen trawsnewid academaidd, gan sicrhau bod buddion a pherfformiad yn cael eu gwireddu ac ymgorffori newid yn effeithiol.

Rhan annatod o rôl y DIG fydd darparu arweinyddiaeth ac ymgysylltiad amlwg gydag ystod o randdeiliaid ar draws y brifysgol gan gynnwys ein staff, undebau llafur, llywodraethwyr a phartneriaid ehangach. Mae ein dull arweinyddiaeth wedi’i ymwreiddio yn ein gwerthoedd sefydliadol ac mae modelu’r gwerthoedd hyn yn rhan craidd o’n dull arweinyddiaeth Gweithredol. Byddwch, fel rhan o’r dull hwn, yn hyrwyddo ac yn gyrru ein hymrwymiad i gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn ei flaen gan gyflawni canlyniadau diriaethol a gwelliannau o ran cyfranogiad, cynrychiolaeth, profiad a chanlyniadau myfyrwyr a staff lleiafrifol. Byddwch yn gyfforddus â chael eich herio a chynnig her gan y byddwn yn meithrin ymddiriedaeth o fewn ein tîm, atebolrwydd am ein gweithredoedd a sylw manwl o ran effaith.

Byddwch hefyd yn eiriolwr ac yn llysgennad dros bopeth a wnawn y tu allan i PDC. Gwneud ein rhanbarth ehangach a thu hwnt yn ymwybodol o’r hyn rydym yn sefyll drosto, yr hyn a wnawn a’n hansawdd wrth ei wneud. Dod â rhanddeiliaid atom a all wella ein cenhadaeth.

Mae’r portffolio DIG yn cynnwys cyfrifoldeb arweinyddiaeth am ystod o gyfadrannau a swyddogaethau academaidd. Byddwch yn arwain ein Canolfan Rhagoriaeth mewn Dysgu ac Addysgu i sicrhau bod ein gweledigaeth addysgegol yn amlwg yn ymarferol ac y gellir ei throsi i fantais enw da. A byddwch yn goruchwylio ein hadran Myfyrwyr y Dyfodol i sicrhau ein bod yn bodloni targedau recriwtio, yn nodi ac yn manteisio ar gyfleoedd marchnad newydd a thyfu busnes da boed yn y DU neu drwy bartneriaethau rhyngwladol. Yn hanfodol, byddwch yn arwain ar sut rydym yn agor cyfranogiad myfyrwyr yn ein rhanbarth ar ba bynnag gyfnodau o’u bywydau a’u gyrfaoedd, gan gynnwys dechreuwyr hwyrach i AU.

Ochr yn ochr ag eraill byddwch yn nodi ac yn adeiladu cymysgedd o raglenni a gwasanaethau academaidd sy’n adeiladu cryfder ariannol y Brifysgol. Twf, ond twf da.

Byddwch yn arwain eich timau i sicrhau cysylltedd rhwng y cwricwlwm, dysgu ac addysgu, ymchwil ac arloesi, adeiladu o amgylch ein cryfderau craidd a’n meysydd datblygu wedi’u cyflymu a sicrhau gweithrediad effeithiol o drawsnewid ar draws ein gweithlu, modelau cyflawni a thaith myfyrwyr. Byddwch yn chwaraewr parod mewn adeiladu PDC mwy integredig a chysylltiedig gyda chynllun sefydliadol newydd.

Yn allanol byddwch yn gyfrifol am feithrin partneriaeth sy’n cyfoethogi ein cynigion ac sy’n sicrhau’r canlyniadau gorau i’n dysgwyr, ansawdd gwell, yn ysgogi gwelliannau mewn enw da ac yn bwysicaf oll, canlyniadau myfyrwyr. Byddwch hefyd yn ddylanwadwr yn rhanbarthol ac yn genedlaethol, gan helpu i lunio’r amgylchedd allanol y bydd PDC yn ffynnu ynddo.

Mae PDC yn sefydliad sy’n falch o’i threftadaeth fel prifysgol a gafodd ei hadeiladu gan ddiwydiant ac sydd wedi’i gwreiddio yn ei rhanbarth, sy’n darparu mynediad i gyfleoedd addysgiadol i bawb, ac sy’n gweithio mewn ffordd gwbl integredig â diwydiant o ran cynllunio’r cwricwlwm ac ymchwil gymhwysol. Byddwch yn ymrwymedig i, a bydd gennych dystiolaeth o lwyddiant yn erbyn y proffil gwaith hwnnw.

Byddwch yn rhywun a fydd yn mynd â’r hanes hwnnw i lefel newydd.

 

I Grynhoi

Fel DIG byddwch yn:

  • Darparu arweinyddiaeth Weithredol, cyfeiriad a mewnbwn i’r Rhaglen Drawsnewid gyda chyfrifoldeb penodol am arwain ein rhaglen trawsnewid academaidd gan alinio hyn â’n strategaeth 2030, gan sicrhau bod newid diwylliannol a gweithredol sylweddol yn cael ei roi ar waith yn effeithiol ar draws y brifysgol ac ymwreiddio diwylliant o welliant parhaus.
  • Cyflawni ein dyheadau twf a bod yn gyfrifol am osod a bodloni targedau recriwtio ar draws ein portffolio presennol a dyfodol.
  • Gweithio gyda mewnwelediadau data i nodi portffolio newydd a rheoli portffolio presennol ar draws cyfres o fertigau canlyniadau ariannol a myfyrwyr.
  • Darparu profiad arweinyddiaeth academaidd broffesiynol, cyfeiriad a mewnwelediad i lywio a datblygu ein cynigion academaidd a darparu canlyniadau o ansawdd uchel, gosod safonau ar gyfer darpariaeth a sicrhau perfformiad effeithiol yn unol â’n ffactorau llwyddiant hanfodol.
  • Goruchwylio ein hansawdd a’n canlyniadau gan sicrhau ein bod yn bodloni ac yn rhagori disgwyliadau rheoleiddiol a throthwyon ansawdd.
  • Sicrhau bod taith y myfyriwr, o ymwybyddiaeth a diddordeb cychwynnol hyd at raddio, yn effeithiol a gweithio gydag eraill i greu taith ddi-dor i fyfyrwyr trwy a thu hwnt i raddio.
  • Cymryd rhan ac asesu’r dirwedd wleidyddol, polisi a’r sector ehangach allanol er mwyn sicrhau bod PDC yn y sefyllfa orau o ran ei chynigion academaidd, recriwtio myfyrwyr, a chyflawni ein strategaeth 2030.
  • Bod yn ddylanwadwr yn rhanbarthol ac yn genedlaethol, gan helpu i lunio’r amgylchedd allanol y bydd PDC yn ffynnu ynddo.
  • Cyfrannu’n weithredol at y sector AU ehangach yng Nghymru a thu hwnt trwy rwydweithiau perthnasol a deialog strategol gyda chymheiriaid a phartneriaid ar draws y sector.
  • Hyrwyddo ein hymrwymiad i Gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant gan ddarparu arweinyddiaeth a chyfeiriad sy’n sicrhau canlyniadau diriaethol a gwelliannau mewn cynrychiolaeth, cyfranogiad a chanlyniadau i staff a myfyrwyr.
  • Darparu arweinyddiaeth, cefnogaeth a chyfeiriad uniongyrchol i gydweithwyr ar lefelau arweinyddiaeth weithredol ac uwch gan fodelu ein gwerthoedd PDC bob amser.
  • Meithrin a chynnal perthynas gwaith effeithiol gydag ystod o randdeiliaid mewnol ac allanol sy’n cynrychioli buddiannau strategol a bwriad y Brifysgol yn unol â’n Strategaeth 2030.
  • Meithrin perthnasau gwaith rhagorol gyda’r Is-Ganghellor a Bwrdd y Llywodraethwyr yn seiliedig ar werthoedd PDC.
  • Chwarae rhan ganolog ym mywyd y Brifysgol a chynnwys presenoldeb mewn digwyddiadau allanol ar adegau priodol ac yn ôl yr angen.
  • Dirprwyo ar ran yr Is-Ganghellor yn ôl yr angen.

.

MANYLEB PERSON

Academaidd

  • Tystiolaeth o welliant sylweddol mewn perfformiad academaidd, yn enwedig o ran datblygu, recriwtio a chanlyniadau myfyrwyr.
  • Tystiolaeth o’ch rôl fel aelod o dîm arweinyddiaeth perfformiad uchel wrth lunio, datblygu a gweithredu strategaethau busnes hanfodol.
  • Tystiolaeth o wneud penderfyniadau effeithiol sy’n cael eu harwain gan ddata a phrosesau da ar gyfer gwneud penderfyniadau strategol lefel uchel yn ogystal â synnwyr gweithredol a thactegol da.
  • Tystiolaeth o dwf incwm ac arallgyfeirio ariannol gynaliadwy sy’n cynyddu gwarged, yn enwedig wrth adeiladu nifer o fyfyrwyr a marchnadoedd newydd.
  • Tystiolaeth o allu nodi tueddiadau, a defnyddio gwybodaeth am y farchnad, data a syniadau am y dyfodol i leoli cyfleoedd newydd ar gyfer PDC sy’n cynnal ac adeiladu ar gryfderau presennol, ac yn ymestyn cyrhaeddiad y farchnad ar gyfer cwricwlwm newydd a phresennol.
  • Profiad o arwain ymarfer mewn Dysgu ac Addysgu ar lefel sefydliadol a/neu ymchwil personol, yn ddelfrydol mewn maes sy’n cyd-fynd â chryfderau’r Brifysgol.
  • Hanes cryf o arweinyddiaeth uwch mewn AU gyda hanes cryf o ddatblygu a chyflawni arloesedd a newid trawsnewidiol ar draws meysydd busnes o faint sylweddol neu sefydliadau cyfan gyda ffocws penodol ar:
    •  Modelau cyflwyno academaidd hyblyg a hygyrch
    • Modelau busnes sylfaenol cadarn
    • Trefnu a chynllunio’r gweithlu
    • Diwylliant ac ymgysylltiad ar draws staff a chyrff myfyrwyr
  • Craffter masnachol/busnes cryf wrth wneud penderfyniadau a arweinir gan ddata, osgoi rhagfarnau gwybyddol, a gweithredu fframweithiau effeithiol ar gyfer rheoli risg.
  • Tystiolaeth o ymgysylltu effeithiol â materion llywodraethu a’r gallu i weithio’n effeithiol gyda Bwrdd.
  • Y gallu i weithio ar draws swyddogaethau gwasanaethau academaidd a phroffesiynol, i gydlynu a chyflawni amcanion strategol.

Gwybodaeth a Sgiliau

  • Dealltwriaeth gynhwysfawr o gyd-destun presennol a dyfodol y sector ar gyfer Addysg Uwch a’r ysgogwyr allweddol y tu ôl iddynt gyda thystiolaeth o ddealltwriaeth o Gymru a chyd-destun AU Cymru.
  • Mewnwelediad strategol fel y dangosir wrth ymgysylltu ag arweinyddiaeth traws-sefydliadol a gosod a gweithredu strategaeth.
  • Sgiliau rhyngbersonol a dylanwadol rhagorol, yn fewnol ac yn allanol.
  • Sgiliau cyfathrebu rhagorol.
  • Profiad sylweddol o reoli cyllidebau mawr, adnoddau a thimau, a chynllunio ariannol cynaliadwy ar gyfer y dyfodol.
  • Y gallu i reoli ymholiadau allanol yn effeithiol ac yn fedrus ac arfer barn dda wrth wneud hynny gan gynnwys gan rieni, gwleidyddion, y cyfryngau, cyn-fyfyrwyr, cyrff proffesiynol, y cyllidwyr a’r rheolydd a phartneriaid lleol, rhanbarthol a rhyngwladol.

Nodweddion Personol

  • Ymrwymiad i genhadaeth a gwerthoedd PDC.
  • Barn a disgresiwn datblygedig iawn, gan gynnwys gallu derbyn cyfrifoldeb cabinet ar benderfyniadau cydweithredol.
  • Y gallu i ysgogi diwylliant o welliant, arloesi ac ymgysylltu.
  • Yn hwylusol nid yn hierarchaidd, yn hyblyg ac addasadwy yn hytrach na biwrocrataidd.
  • Tueddiad i gyd-greu yn hytrach na gorfodi datrysiadau.
  • Ymrwymiad personol ac amlwg i amrywiaeth a chydraddoldeb, a thystiolaeth o feithrin amgylcheddau cynhwysol, gan ddangos dealltwriaeth o faterion hanesyddol a chyd-destunau cyfredol o gynhwysiant a chynrychiolaeth o fewn Addysg Uwch.

Cymwysterau a DPP Dymunol

  • PhD
  • Cymrodoriaeth yr Academi Addysg Uwch
  • Tystiolaeth o ddatblygiad proffesiynol personol parhaus o lefel uchel, a’r gallu i egluro sut mae wedi effeithio ar eich arweinyddiaeth a’ch llwyddiant fel arweinydd

Telerau penodi

Cyflog – Cystadleuol gyda strwythur cyflog clir, wedi’i ddiffinio’n dda sy’n adlewyrchu amodau’r farchnad a’r lefelau o sgiliau a phrofiad sydd eu hangen i aros ar flaen y gad mewn amgylchedd heriol a chystadleuol.

Pensiwn – Cyfle i ymuno â chynllun pensiwn hael. Mae’r cynllun presennol yn cynnig manteision sylweddol gan gynnwys:

– Pensiwn mynegrifol
– Cyfandaliad arian parod di-dreth
– Buddion Marwolaeth
– Pensiynau priod
– Buddion salwch

Gwyliau blynyddol – gwyliau blynyddol hael sy’n ceisio annog cydbwysedd iach rhwng bywyd a gwaith. Ceir 35 diwrnod o’r diwrnod cyntaf, ynghyd â’r holl wyliau banc cyhoeddus a diwrnodau cau ychwanegol dros gyfnod y Nadolig (hyd at 3 diwrnod fel arfer).

Gweithio’n Hyblyg – Mae gan Brifysgol De Cymru bolisïau gweithio hyblyg, sy’n eich galluogi i reoli eich cyfrifoldebau a’ch diddordebau y tu allan i’r gwaith. Rydym yn cynnig absenoldeb Mamolaeth, Tadolaeth/Partner, Mabwysiadu a Rhieni a Rennir hael, yn ogystal ag Absenoldeb Gofalwr a Thosturiol.

Mae gan Brifysgol De Cymru hefyd agwedd hyblyg at oriau gwaith a threfniadau gweithio hybrid anffurfiol i’ch cefnogi i weithio mewn ffordd sy’n bodloni anghenion y Brifysgol ac sy’n ystyried eich amgylchiadau personol.

Mae buddion eraill yn cynnwys:

– Cynllun beicio i’r gwaith
– Rhaglen cymorth i weithwyr
– Canolfannau Adnoddau Dysgu
– Gostyngiadau i staff
– Canolfan Chwaraeon
– Profion Llygaid Am Ddim

Sut i Wneud Cais

Mae Anderson Quigley yn gweithredu fel cynghorydd i’r Brifysgol, mae proses chwilio weithredol yn cael ei chynnal gan Anderson Quigley yn ogystal â’r hysbyseb cyhoeddus.

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw hanner dydd 13 Rhagfyr 2024.

Dylai ceisiadau gynnwys:

  • CV llawn
  • Llythyr eglurhaol (hyd at ddwy dudalen) yn amlinellu eich cymhellion ar gyfer y rôl a sut rydych yn bodloni meini prawf hanfodol y fanyleb person.
  • Rhowch fanylion dau ganolwr naill ai yn eich CV neu lythyr eglurhaol, er sylwch na fyddwn yn mynd at eich canolwyr heb eich caniatâd ymlaen llaw a dim ond os byddwch yn cyrraedd y rhestr fer.
  • Os hoffech drafod y rôl yn gwbl gyfrinachol, cysylltwch ag Elliott Rae ar +44 (0)7584 078 534 neu elliott.rae@andersonquigley.com neu Aino Betts ar +44 (0)7743 934 723 neu aino.betts@andersonquigley.com

Amserlen

Dyddiad Cau Rhagfyr 13eg
Rhestr hir Rhagfyr 18fed
Cyfweliadau rhagarweiniol (AQ yn unig) Ionawr 6ed - Ionawr 8fed
Rhestr fer Ionawr 9fed
Paneli terfynol Ionawr 16eg ac 17eg