Diolch am eich diddordeb mewn ymuno â ni fel ein Dirprwy Is-Ganghellor newydd.
Ym Mhrifysgol De Cymru (PDC), ein gweledigaeth yw trawsnewid bywydau a chyfrannu’n gadarnhaol at y byd. Wedi’i sefydlu fwy na 180 mlynedd yn ôl gan ddiwydiant, PDC yw un o brifysgolion mwyaf deinamig a blaengar y DU, sy’n gartref i tua. 20,000 o fyfyrwyr o fwy na 100 o wledydd gyda chefnogaeth 2,700 o aelodau staff ymroddedig.
Mae ein partneriaeth gref â diwydiant yn paratoi unigolion ar gyfer gyrfaoedd yn y dyfodol, gan feithrin twf a chaniatáu iddynt fynegi eu doniau yn llawn. Boed trwy ein haddysgu neu ein hymchwil, ein nod yw cael effaith ystyrlon y tu hwnt i ffiniau ein campws. Rydym yn credu mewn cydweithredu, gan adeiladu partneriaethau ymatebol a chynaliadwy sy’n ysgogi buddion hirdymor.
Rydym yn chwarae rhan ganolog wrth gefnogi busnesau a chymunedau ar draws rhanbarth De Cymru, gan gyfrannu £1.1 biliwn y flwyddyn i economi’r DU a chynnal 10,600 o swyddi ledled y wlad. Er ein bod wedi’u gwreiddio’n ddwfn yn ein rhanbarth, mae ein dylanwad a’n cyfraniadau yn ymestyn ymhell y tu hwnt iddo.
Mae ein strategaeth PDC 2030 uchelgeisiol yn amlinellu ffordd ymlaen i’r dyfodol. Fel llawer yn y sector, rydym yn wynebu heriau ariannol ac ar hyn o bryd yn llywio rhaglen drawsnewid gymhleth sy’n ailasesu ein modelau darparu academaidd ac anghenion ein gweithlu, ynghyd â moderneiddio systemau ac arferion.
Bydd ein Dirprwy Is-Ganghellor newydd yn allweddol wrth yrru a gweithredu’r trawsnewid academaidd hwn, gan feithrin amgylchedd sy’n annog unigolion i wthio ffiniau a chefnogi ei gilydd i gyflawni rhagoriaeth.
Rydym hefyd yn gwneud buddsoddiadau strategol i sicrhau dyfodol bywiog. Yr haf hwn, fe ddechreuon ni adeiladu adeilad academaidd newydd, a fydd yn dod yn gartref ar gyfer Cyfrifiadureg, Peirianneg a Thechnoleg pan fydd yn agor yn 2026. Mae’n amser cyffrous i fod yn rhan o’n taith.
Mae cymuned PDC yn aml yn cael ei disgrifio fel teulu—yn cynnwys unigolion ysbrydoledig ac ymroddedig sydd wedi ymrwymo i greu cyfleoedd a hyrwyddo cyfiawnder cymdeithasol. Mae Prifysgol De Cymru yn wirioneddol arbennig, gydag ymdeimlad cryf o gymuned a ffocws diwyro ar helpu eraill i wireddu eu potensial.
Edrychwn ymlaen at groesawu arweinydd ysbrydoledig a strategol sy’n rhannu ein hymrwymiad i wneud gwahaniaeth parhaol i’n myfyrwyr, ein staff, a’r gymuned ehangach.
Mae Prifysgol De Cymru (PDC) yn arloesol, yn ffynnu ac yn gynaliadwy. Rydym yn gweithio i adeiladu dyfodol gwell i’n myfyrwyr, ein cymunedau a’n partneriaid yn economaidd, yn gymdeithasol ac yn ddiwylliannol.
Rydym yn falch o fod yn brifysgol ehangu cyfranogiad arweiniol Cymru, ac wedi ymrwymo i fynd i’r afael ag anghydraddoldeb cymdeithasol, gan gefnogi a galluogi ein myfyrwyr i gyflawni’r deilliannau bywyd gorau posibl.
Gyda phortffolio unigryw a ddyluniwyd ar y cyd â diwydiant, rydym yn falch o gynhyrchu gweithwyr gofal iechyd, cyfreithwyr, athrawon a swyddogion heddlu yfory. Mae’n cwricwlwm yn cael ei greu ar y cyd â myfyrwyr, i sicrhau eu bod wedi’u grymuso gyda’r sgiliau, y wybodaeth a’r profiad perthnasol i fanteisio i’r eithaf ar eu potensial a’u cyfleoedd i’r dyfodol. Rydym hefyd yn cydweithio â diwydiant, gan ymchwilio ac arloesi i ddatrys rhai o heriau mwyaf y byd, o ynni ac iechyd i ddiogelwch a chynaliadwyedd.
Mae gennym gymuned fywiog ac amrywiol, gyda myfyrwyr o dros 100 o wledydd yn astudio ar ein campysau yng Nghaerdydd, Casnewydd a Phontypridd. Rydym hefyd yn darparu ystod o lwybrau astudio cynhwysol, gan gefnogi dysgu gydol oes ac opsiynau hyblyg ar gyfer ein myfyrwyr, a gweithio’n agos â’n colegau partner.
Rydym yn herio ein hunain i feddwl ac ymddwyn yn wahanol drwy daclo stigma a dileu rhwystrau. Drwy gael ein hysbrydoli gan ein myfyrwyr, partneriaid a chymuned i ddatblygu teimlad cyffredin o berthyn, rydym yn adeiladu dyfodol gwell i bob un, yn economaidd, yn gymdeithasol ac yn ddiwylliannol.
Ein Gwerthoedd
Yn PDC, rydym yn dal ein gwerthoedd yn agos at ein calonnau. Mae ein cymuned yn:
Mae Strategaeth y Brifysgol – PDC 2030 – yn nodi ein cyfeiriad ar gyfer y degawd nesaf; llwybr ar gyfer y dyfodol sy’n feiddgar ac uchelgeisiol i sicrhau ein llwyddiant parhaus a’n cynaliadwyedd hirdymor.
Mae ein gweledigaeth yn glir, rydym eisiau newid bywydau a’n byd er gwell. Mae ein byd yn newid ar gyflymder dwys a’n gwaith ni yw rhoi’r sgiliau, y wybodaeth a’r profiad sydd eu hangen ar ein myfyrwyr i wneud y gorau o’u potensial a chyfleoedd yn y dyfodol yn y byd gwaith.
Erbyn 2030, byddwn yn:
Mae gennym enw da am gynhyrchu ymchwil hynod effeithiol a chymhwysol. Rydym yn bedwaredd yng Nghymru am effaith (yn ôl Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2021), gydag 81% o’n gweithgarwch ymchwil yn cael ei nodi fel ymchwil sy’n arwain y byd, neu sy’n ardderchog yn rhyngwladol (4/3*).
Rydym yn ymdrechu i helpu i ddatrys problemau go iawn y mae cymdeithas yn eu hwynebu. Mae ein timau ymchwil amlddisgyblaethol yn cydweithio â diwydiant, cymunedau a sefydliadau i wneud gwahaniaeth cadarnhaol i fywydau. Mae ein hymchwil yn canolbwyntio ar bedwar maes blaenoriaeth:
Trosedd, Diogelwch a Chyfiawnder
Rydym yn cael effaith ar bolisi, ymarfer a busnes gyda’n hymchwil sydd â chydnabyddiaeth ryngwladol mewn troseddeg, seiberddiogelwch, polisi cymdeithasol a gwyddorau’r heddlu.
Iechyd a Lles
Mae’n harbenigedd mewn anableddau deallusol, iechyd a gofal cymdeithasol, rhagnodi cymdeithasol, seicoleg gwybyddol a chwaraeon a gwyddorau ymarfer yn mynd i’r afael â materion allweddol o ran heneiddio a grwpiau sy’n agored i niwed.
Arloesedd Creadigol
Rydym yn arwain yr agenda ar gyfer y diwydiannau creadigol a’r economi digidol yng Nghymru, gan ddylanwadu ar bolisïau drwy nodi’r heriau a’r cyfleoedd y mae’r diwydiannau creadigol yn eu hwynebu.
Amgylchedd Cynaliadwy
Rydym yn helpu i greu byd mwy diogel a chynaliadwy gyda’n hymchwil aml-ddisgyblaethol sy’n torri tir newydd ym maes hydrogen, ecoleg, treulio anaerobig a systemau pŵer uwch.
Rydym yn herio ein hunain i feddwl ac i weithredu’n wahanol. Yn PDC, rydym yn mynd ar daith i greu gofodau teg i bawb. Rydym yn chwalu stigma ac yn tynnu rhwystrau, gan gymryd ysbrydoliaeth gan ein myfyrwyr a’n cymuned.
Mae ein hymrwymiad i gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant wedi’i wreiddio yn y ffordd rydym yn gweithredu fel prifysgol.
Siarter Cydraddoldeb Hil – Mae PDC wedi ymrwymo i symud ymlaen gyda Siarter Cydraddoldeb Hil Advance HE (REC).
Athena SWAN – Mae PDC wedi cael ei chydnabod am ei hymrwymiad i gydraddoldeb rhywedd drwy ennill gwobr Efydd Athena SWAN.
100 Cyflogwr Gorau Stonewall 2020 – Cododd PDC i 24ain ym Mynegai Cydraddoldeb yn y Gweithle 2020 ac fe’i henwyd yn Gyflogwr Traws Uchaf gan Stonewall yn 2020.
Cynllun Hyderus o Ran Anabledd – Rydym yn falch o fod yn gyflogwyr Hyderus o ran Anabledd, sy’n golygu cymryd camau i wella sut rydym yn recriwtio, yn cadw, ac yn datblygu pobl anabl.
Prifysgol Noddfa – Mae PDC yn Brifysgol Noddfa. Mae hyn yn cydnabod ymrwymiad PDC i greu diwylliant croesawgar ar gyfer pobl sy’n ceisio lloches ar ei champysau a thu hwnt.
Mae lleoliadau’r Brifysgol yn cynnig y gorau o’r hyn sydd gan Dde Cymru i’w gynnig o fewn cyrraedd hawdd – y brifddinas, yr arfordir, y mynyddoedd a’r cymoedd.
Mae gennym ni bum campws ar draws tri lleoliad, ond un brifysgol ydym ni.
Caerdydd – Prifddinas fodern, amlddiwylliannol – yma, fe welwch fwy o fannau gwyrdd fesul person nag unrhyw ddinas yn y DU. Yn adnabyddus fel dinas diwylliant ac adloniant, mae bob amser rhywbeth i’w brofi yng Nghaerdydd. Mae ein Campws Caerdydd yn gartref i gymuned fywiog a chreadigol, o Gemau a Dylunio i Ffasiwn a Ffilm.
Casnewydd – Dinas annibynnol, amlddiwylliannol sy’n borth i Gymru. Mae ein Campws yng Nghasnewydd yng nghanol y ddinas, yn edrych dros Afon Wysg. Ar y Campws, mae amrywiaeth o ddysgu ac addysgu proffesiynol ar gael o Addysg ac Addysgu i Fusnes a Seiberddiogelwch.
Pontypridd – Wedi’i fframio gan fryniau gwyrdd gyda mynediad hawdd i Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Yma, bydd gennych le i ganolbwyntio a gorwelion i’w harchwilio. Mae cymuned amrywiol a chyfeillgar wrth galon ein Campws Pontypridd, gyda’r dysgu ar gael ar draws tri safle – Trefforest, Glyn-taf, a Pharc Chwaraeon PDC.
Cyflog – Cystadleuol gyda strwythur cyflog clir, wedi’i ddiffinio’n dda sy’n adlewyrchu amodau’r farchnad a’r lefelau o sgiliau a phrofiad sydd eu hangen i aros ar flaen y gad mewn amgylchedd heriol a chystadleuol.
Pensiwn – Cyfle i ymuno â chynllun pensiwn hael. Mae’r cynllun presennol yn cynnig manteision sylweddol gan gynnwys:
– Pensiwn mynegrifol
– Cyfandaliad arian parod di-dreth
– Buddion Marwolaeth
– Pensiynau priod
– Buddion salwch
Gwyliau blynyddol – gwyliau blynyddol hael sy’n ceisio annog cydbwysedd iach rhwng bywyd a gwaith. Ceir 35 diwrnod o’r diwrnod cyntaf, ynghyd â’r holl wyliau banc cyhoeddus a diwrnodau cau ychwanegol dros gyfnod y Nadolig (hyd at 3 diwrnod fel arfer).
Gweithio’n Hyblyg – Mae gan Brifysgol De Cymru bolisïau gweithio hyblyg, sy’n eich galluogi i reoli eich cyfrifoldebau a’ch diddordebau y tu allan i’r gwaith. Rydym yn cynnig absenoldeb Mamolaeth, Tadolaeth/Partner, Mabwysiadu a Rhieni a Rennir hael, yn ogystal ag Absenoldeb Gofalwr a Thosturiol.
Mae gan Brifysgol De Cymru hefyd agwedd hyblyg at oriau gwaith a threfniadau gweithio hybrid anffurfiol i’ch cefnogi i weithio mewn ffordd sy’n bodloni anghenion y Brifysgol ac sy’n ystyried eich amgylchiadau personol.
Mae buddion eraill yn cynnwys:
– Cynllun beicio i’r gwaith
– Rhaglen cymorth i weithwyr
– Canolfannau Adnoddau Dysgu
– Gostyngiadau i staff
– Canolfan Chwaraeon
– Profion Llygaid Am Ddim
Mae Anderson Quigley yn gweithredu fel cynghorydd i’r Brifysgol, mae proses chwilio weithredol yn cael ei chynnal gan Anderson Quigley yn ogystal â’r hysbyseb cyhoeddus.
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw hanner dydd 13 Rhagfyr 2024.
Dylai ceisiadau gynnwys:
Dyddiad Cau | Rhagfyr 13eg |
Rhestr hir | Rhagfyr 18fed |
Cyfweliadau rhagarweiniol (AQ yn unig) | Ionawr 6ed - Ionawr 8fed |
Rhestr fer | Ionawr 9fed |
Paneli terfynol | Ionawr 16eg ac 17eg |