Uwch Benodiadau Arweinyddiaeth

Prifysgol De Cymru

Ymgeisiwch Nawr

Croeso

Annwyl Ymgeisydd

Diolch am eich diddordeb mewn ymuno â Phrifysgol De Cymru. Rydym yn chwilio am dri chydweithiwr uwch: Prif Swyddog Gweithredu, Dirprwy Is-Ganghellor dros Addysg a Phrofiad Myfyrwyr, a Chyfarwyddwr Pobl a Datblygu Sefydliadol. Bydd y penodiadau hyn yn gwneud cyfraniad sylweddol at ein dyfodol ac at brofiad pawb sy’n astudio ac yn gweithio yma.

Mae PDC yn brifysgol fodern, uchelgeisiol gyda hanes balch ac ymrwymiad clir i drawsnewid bywydau. Rydym yn gartref i fwy nag 20,000 o fyfyrwyr o fwy na 100 o wledydd, gyda chefnogaeth 2,100 o gydweithwyr ar draws ein campysau ym Mhontypridd, Caerdydd a Chasnewydd. Rydym wedi ein gwreiddio’n ddwfn yn ne Cymru, ond mae ein cyrhaeddiad, ein partneriaethau a’n heffaith yn ymestyn ymhell y tu hwnt i’r rhanbarth.

Mae ein safle fel y cyntaf yng Nghymru ac ymhlith y 25 prifysgol orau yn y DU yn The Guardian University Guide 2027 yn destun balchder sylweddol. Mae’n adlewyrchu ymroddiad ein cydweithwyr ac uchelgais ein myfyrwyr. Rydym am adeiladu ar y cyflawniad hwn, gan gryfhau ansawdd ein haddysg a’r cyfleoedd rydym yn eu creu i bobl o bob cefndir.

Fel prifysgolion ar draws y sector, rydym yn wynebu newid ariannol, technolegol a demograffig sylweddol. Mae ymateb yn llwyddiannus yn gofyn am flaenoriaethau clir, barn gadarn a’r hyder i ailystyried sut rydym yn gweithio. I PDC, mae hyn yn golygu cysylltu ein huchelgeisiau addysgol â datblygiad ein pobl, ein gwasanaethau, ein galluoedd digidol a’n hystadau, gan barhau i ganolbwyntio ar ein pwrpas a’n cynaliadwyedd hirdymor.

Bydd ein Prif Swyddog Gweithredu newydd yn helpu i drosi’r uchelgais honno’n ddarpariaeth effeithiol. Gan weithio gyda mi a chydweithwyr ar draws y Brifysgol, byddwch yn dwyn ynghyd wasanaethau proffesiynol sy’n cwmpasu pobl a datblygu sefydliadol, bywyd myfyrwyr, gwasanaethau digidol, ac ystadau a chyfleusterau. Bydd eich arweinyddiaeth yn ein helpu i weithio’n fwy effeithiol ar draws ffiniau sefydliadol, gwella profiad myfyrwyr a chydweithwyr, a sicrhau bod ein hadnoddau’n cefnogi ein blaenoriaethau.

Bydd ein Dirprwy Is-Ganghellor dros Addysg a Phrofiad Myfyrwyr yn llunio cynnig addysgol sy’n paratoi myfyrwyr at eu darpar yrfaoedd a’u bywydau ehangach. Byddwch yn arwain gwelliannau mewn dysgu, addysgu, cwricwlwm ac asesu, yn hyrwyddo ymarfer cynhwysol a defnydd meddylgar o dechnoleg ddigidol, ac yn cryfhau canlyniadau myfyrwyr. Gan weithio mewn partneriaeth â myfyrwyr a chydweithwyr, byddwch yn helpu i sicrhau bod arloesedd yn darparu profiad gwell a chyfleoedd mwy.

Bydd ein Cyfarwyddwr Pobl a Datblygu Sefydliadol yn cydweithio’n agos â’r Prif Swyddog Gweithredu i sicrhau bod ein strategaeth pobl yn cefnogi uchelgeisiau’r Brifysgol. Byddwch yn ein helpu i ddatblygu’r sgiliau, yr arweinyddiaeth a’r diwylliant sefydliadol sydd eu hangen arnom, ynghyd â gwasanaeth adnoddau dynol ymatebol ac effeithiol. Bydd meithrin ymddiriedaeth drwy newid, cefnogi datblygiad cydweithwyr a chynnal perthnasoedd adeiladol â’n hundebau llafur yn ganolog i’r gwaith hwn.

Ar draws y tri phenodiad, rwy’n chwilio am gydweithwyr sy’n cyfuno uchelgais strategol â chyflawniad ymarferol, ac sy’n arwain gyda natur agored, empathi ac atebolrwydd. Bydd angen i chi wrando’n ofalus, gwneud penderfyniadau ystyriol a dod â phobl gyda chi.

Mae PDC yn gymuned arbennig: yn ymarferol, yn gydweithredol ac yn uchelgeisiol i’n myfyrwyr, ein cydweithwyr a’n rhanbarth. Mae’r rolau hyn yn cynnig y cyfle i helpu i lunio ein cam nesaf o ddatblygiad a gwneud cyfraniad parhaol i brifysgol y mae ei gwaith yn bwysig iawn i’r cymunedau y mae’n eu gwasanaethu.

Gobeithiaf y byddwch chi’n teimlo’n gyffrous am y cyfle ac edrychaf ymlaen at dderbyn eich cais.

Yr Athro Osama Khan
Is-Ganghellor a Phrif Weithredwr

Am Brifysgol De Cymru

Mae Prifysgol De Cymru (PDC) yn arloesol, yn ffynnu ac yn gynaliadwy. Rydym yn gweithio i adeiladu dyfodol gwell i’n myfyrwyr, ein cymunedau a’n partneriaid yn economaidd, yn gymdeithasol ac yn ddiwylliannol.

Rydym yn falch o fod yn brifysgol ehangu cyfranogiad arweiniol Cymru, ac wedi ymrwymo i fynd i’r afael ag anghydraddoldeb cymdeithasol, gan gefnogi a galluogi ein myfyrwyr i gyflawni’r deilliannau bywyd gorau posibl.

Gyda phortffolio unigryw a ddyluniwyd ar y cyd â diwydiant, rydym yn falch o gynhyrchu gweithwyr gofal iechyd, cyfreithwyr, athrawon a swyddogion heddlu yfory. Mae’n cwricwlwm yn cael ei greu ar y cyd â myfyrwyr, i sicrhau eu bod wedi’u grymuso gyda’r sgiliau, y wybodaeth a’r profiad perthnasol i fanteisio i’r eithaf ar eu potensial a’u cyfleoedd i’r dyfodol. Rydym hefyd yn cydweithio â diwydiant, gan ymchwilio ac arloesi i ddatrys rhai o heriau mwyaf y byd, o ynni ac iechyd i ddiogelwch a chynaliadwyedd.

Rydym yn chwarae rhan ganolog wrth gefnogi busnesau a chymunedau ar draws rhanbarth De Cymru, gan gyfrannu £1.1 biliwn y flwyddyn i economi’r DU a chynnal 10,600 o swyddi ledled y wlad. Er ein bod wedi’u gwreiddio’n ddwfn yn ein rhanbarth, mae ein dylanwad a’n cyfraniadau yn ymestyn ymhell y tu hwnt iddo.

Mae gennym gymuned fywiog ac amrywiol, gyda myfyrwyr o dros 100 o wledydd yn astudio ar ein campysau yng Nghaerdydd, Casnewydd a Phontypridd. Rydym hefyd yn darparu ystod o lwybrau astudio cynhwysol, gan gefnogi dysgu gydol oes ac opsiynau hyblyg ar gyfer ein myfyrwyr, a gweithio’n agos â’n colegau partner.

Rydym yn herio ein hunain i feddwl ac ymddwyn yn wahanol drwy daclo stigma a dileu rhwystrau. Drwy gael ein hysbrydoli gan ein myfyrwyr, partneriaid a chymuned i ddatblygu teimlad cyffredin o berthyn, rydym yn adeiladu dyfodol gwell i bob un, yn economaidd, yn gymdeithasol ac yn ddiwylliannol.

Mae cymuned PDC yn aml yn cael ei disgrifio fel teulu—yn cynnwys unigolion ysbrydoledig ac ymroddedig sydd wedi ymrwymo i greu cyfleoedd a hyrwyddo cyfiawnder cymdeithasol. Mae Prifysgol De Cymru yn wirioneddol arbennig, gydag ymdeimlad cryf o gymuned a ffocws diwyro ar helpu eraill i wireddu eu potensial.

 

Ein Gwerthoedd

Yn PDC, rydym yn dal ein gwerthoedd yn agos at ein calonnau. Mae ein cymuned yn:

  • Proffesiynol
  • Ymatebol
  • Creadigol
  • Ysbrydoledig
  • Cydweithredol

Strategaeth 2030 PDC

Mae Strategaeth y Brifysgol – PDC 2030 – yn nodi ein cyfeiriad ar gyfer y degawd nesaf; llwybr ar gyfer y dyfodol sy’n feiddgar ac uchelgeisiol i sicrhau ein llwyddiant parhaus a’n cynaliadwyedd hirdymor.

Mae ein gweledigaeth yn glir, rydym eisiau newid bywydau a’n byd er gwell. Mae ein byd yn newid ar gyflymder dwys a’n gwaith ni yw rhoi’r sgiliau, y wybodaeth a’r profiad sydd eu hangen ar ein myfyrwyr i wneud y gorau o’u potensial a chyfleoedd yn y dyfodol yn y byd gwaith.

Erbyn 2030, byddwn yn:

  • Brifysgol fawr, ranbarthol gyda chynnig academaidd amser llawn a rhan-amser nodedig sy’n ddeniadol i farchnadoedd cartref a byd-eang.
  • Darparu profiad rhagorol, cynhwysol, ymgysylltiol i fyfyrwyr.
  • Sicrhau bod ein myfyrwyr yn cwblhau eu hastudiaethau yn llwyddiannus a sicrhau cyflogaeth yn eu meysydd arbenigedd.
  • Ymgysylltu â phartneriaid i gael yr effaith fwyaf bosibl ar eu hymdrechion.
  • Ymrwymo i wella llesiant y cymunedau rydym yn eu gwasanaethu yn y dyfodol trwy weithredu unigol a chyfunol.
  • Darparu cyfleoedd i fyfyrwyr ar draws y rhanbarth a thu hwnt i gymryd rhan a symud ymlaen i addysg uwch.
  • Bod yn gyflogwr ymgysylltiol, sy’n seiliedig ar werthoedd.

Bod yn gynaliadwy yn ariannol yng nghyd-destun amgylchedd addysg uwch deinamig.

Ymchwil ag Effaith

Mae gennym enw da am gynhyrchu ymchwil hynod effeithiol a chymhwysol. Rydym yn bedwaredd yng Nghymru am effaith (yn ôl Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2021), gydag 81% o’n gweithgarwch ymchwil yn cael ei nodi fel ymchwil sy’n arwain y byd, neu sy’n ardderchog yn rhyngwladol (4/3*).

Rydym yn ymdrechu i helpu i ddatrys problemau go iawn y mae cymdeithas yn eu hwynebu. Mae ein timau ymchwil amlddisgyblaethol yn cydweithio â diwydiant, cymunedau a sefydliadau i wneud gwahaniaeth cadarnhaol i fywydau. Mae ein hymchwil yn canolbwyntio ar bedwar maes blaenoriaeth:

  • Trosedd, Diogelwch a Chyfiawnder: Rydym yn cael effaith ar bolisi, ymarfer a busnes gyda’n hymchwil sydd â chydnabyddiaeth ryngwladol mewn troseddeg, seiberddiogelwch, polisi cymdeithasol a gwyddorau’r heddlu.
  • Iechyd a Lles: Mae’n harbenigedd mewn anableddau deallusol, iechyd a gofal cymdeithasol, rhagnodi cymdeithasol, seicoleg gwybyddol a chwaraeon a gwyddorau ymarfer yn mynd i’r afael â materion allweddol o ran heneiddio a grwpiau sy’n agored i niwed.
  • Arloesedd Creadigol: Rydym yn arwain yr agenda ar gyfer y diwydiannau creadigol a’r economi digidol yng Nghymru, gan ddylanwadu ar bolisïau drwy nodi’r heriau a’r cyfleoedd y mae’r diwydiannau creadigol yn eu hwynebu.
  • Amgylchedd Cynaliadwy: Rydym yn helpu i greu byd mwy diogel a chynaliadwy gyda’n hymchwil aml-ddisgyblaethol sy’n torri tir newydd ym maes hydrogen, ecoleg, treulio anaerobig a systemau pŵer uwch.

Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant

Rydym yn herio ein hunain i feddwl ac i weithredu’n wahanol. Yn PDC, rydym yn mynd ar daith i greu gofodau teg i bawb. Rydym yn chwalu stigma ac yn tynnu rhwystrau, gan gymryd ysbrydoliaeth gan ein myfyrwyr a’n cymuned.

Mae ein hymrwymiad i gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant wedi’i wreiddio yn y ffordd rydym yn gweithredu fel prifysgol.

  • Siarter Cydraddoldeb Hil – Mae PDC wedi ymrwymo i symud ymlaen gyda Siarter Cydraddoldeb Hil Advance HE (REC).
  • Athena SWAN – Mae PDC wedi cael ei chydnabod am ei hymrwymiad i gydraddoldeb rhywedd drwy ennill gwobr Efydd Athena SWAN.
  • 100 Cyflogwr Gorau Stonewall 2020 – Cododd PDC i 24ain ym Mynegai Cydraddoldeb yn y Gweithle 2020 ac fe’i henwyd yn Gyflogwr Traws Uchaf gan Stonewall yn 2020.
  • Cynllun Hyderus o Ran Anabledd – Rydym yn falch o fod yn gyflogwyr Hyderus o ran Anabledd, sy’n golygu cymryd camau i wella sut rydym yn recriwtio, yn cadw, ac yn datblygu pobl anabl.
  • Prifysgol Noddfa – Mae PDC yn Brifysgol Noddfa. Mae hyn yn cydnabod ymrwymiad PDC i greu diwylliant croesawgar ar gyfer pobl sy’n ceisio lloches ar ei champysau a thu hwnt.

Darganfyddwch fanteision gweithio gyda ni yn PDC

Ein lleoliad

Mae lleoliadau’r Brifysgol yn cynnig y gorau o’r hyn sydd gan Dde Cymru i’w gynnig o fewn cyrraedd hawdd – y brifddinas, yr arfordir, y mynyddoedd a’r cymoedd.

Mae gennym ni bum campws ar draws tri lleoliad, ond un brifysgol ydym ni.

  • Caerdydd – Prifddinas fodern, amlddiwylliannol – yma, fe welwch fwy o fannau gwyrdd fesul person nag unrhyw ddinas yn y DU. Yn adnabyddus fel dinas diwylliant ac adloniant, mae bob amser rhywbeth i’w brofi yng Nghaerdydd. Mae ein Campws Caerdydd yn gartref i gymuned fywiog a chreadigol, o Gemau a Dylunio i Ffasiwn a Ffilm.
  • Casnewydd – Dinas annibynnol, amlddiwylliannol sy’n borth i Gymru. Mae ein Campws yng Nghasnewydd yng nghanol y ddinas, yn edrych dros Afon Wysg. Ar y Campws, mae amrywiaeth o ddysgu ac addysgu proffesiynol ar gael o Addysg ac Addysgu i Fusnes a Seiberddiogelwch.
  • Pontypridd – Wedi’i fframio gan fryniau gwyrdd gyda mynediad hawdd i Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Yma, bydd gennych le i ganolbwyntio a gorwelion i’w harchwilio. Mae cymuned amrywiol a chyfeillgar wrth galon ein Campws Pontypridd, gyda’r dysgu ar gael ar draws tri safle – Trefforest, Glyn-taf, a Pharc Chwaraeon PDC.

Y swyddi

Director of People and Organisational Development/Cyfarwyddwr Pobl a Datblygu Sefydliadol (AQ3749)

Ymgeisiwch Nawr

Trosolwg

Mae Prifysgol De Cymru (PDC) yn brifysgol bwysig, ddinesig a modern sydd wedi’i gwreiddio yn Ne Cymru, gydag ymrwymiad balch i lwyddiant myfyrwyr, ymchwil gymhwysol, arloesi, gweithio mewn partneriaeth, effaith ranbarthol ac ehangu mynediad. Wrth i’r Brifysgol ymateb i amgylchedd addysg uwch heriol sy’n newid, rydym yn chwilio am Gyfarwyddwr Pobl a Datblygu Sefydliadol medrus i lunio a chyflwyno strategaeth pobl flaengar sy’n cefnogi newid sefydliadol, twf a chynaliadwyedd hirdymor.

Gan weithio ar draws campysau PDC, gyda threfniadau gweithio hyblyg yn ôl cytundeb, mae’r rôl hon yn cynnig cyfle i ddarparu arweinyddiaeth ar draws y Brifysgol ar gyfer strategaeth pobl, datblygu sefydliadol, cynllunio’r gweithlu, diwylliant, llesiant, talent, cysylltiadau gweithwyr a datblygiad parhaus swyddogaeth Adnoddau Dynol modern, proffesiynol sy’n canolbwyntio ar y cwsmer.

Gan adrodd i’r Prif Swyddog Gweithredu, bydd y Cyfarwyddwr yn gweithio’n agos gydag aelodau o’r Tîm Gweithredol, uwch-reolwyr, swyddogion undebau llafur a rhanddeiliaid ehangach. Bydd y deiliad swydd yn alinio blaenoriaethau pobl a’r gweithlu â nodau addysgol, ymchwil ac ariannol y Brifysgol, gan sicrhau gweithlu sy’n hyblyg, yn effeithlon, yn gynhwysol, yn cael ei lywio gan ddata ac yn meddu ar allu digidol.

Swydd-ddisgrifiad

Swydd Cyfarwyddwr Pobl a Datblygu Sefydliadol
Cyfadran Pobl a Datblygu Sefydliadol
Lleoliad Campysau PDC (safleoedd lluosog) gyda gweithio hyblyg yn ôl cytundeb
Chyflog Cystadleuol
Oriau gwaith Amser llawn
Hyd cytundeb Parhaol
Yn adrodd i Prif Swyddog Gweithredu
Yn gyfrifol am Uwch-dîm yr Adran Adnoddau Dynol (AD)

Pwrpas y swydd

Mae’r Cyfarwyddwr Pobl a Datblygu Sefydliadol yn aelod allweddol o’r uwch-grŵp arwain sy’n llywio prifysgol sy’n cael ei gyrru gan werthoedd ac yn uchelgeisiol. Gan adrodd i’r Prif Swyddog Gweithredu, bydd y deiliad swydd yn arwain datblygiad a chyflawniad strategaeth pobl sy’n cefnogi Prifysgol De Cymru trwy gyfnod o newid a thwf ac yn cyfrannu at gynaliadwyedd hirdymor y sefydliad.

Gan weithio’n agos gydag uwch reolwyr a rhanddeiliaid ehangach, bydd y Cyfarwyddwr yn sicrhau datblygiad gweithlu addasadwy, effeithlon, sy’n wybodus am ddata ac sy’n gallu defnyddio’r dechnoleg ddigidol sy’n sail i lwyddiant sefydliadol. Bydd y deiliad swydd hefyd yn arwain datblygiad swyddogaeth AD fodern, broffesiynol, sy’n canolbwyntio ar gwsmeriaid ac sy’n canolbwyntio ar atebion.

Mae Prifysgol De Cymru yn brifysgol ddinesig fodern, fawr sydd â’i gwreiddiau yn Ne Cymru, gydag ymrwymiad balch i lwyddiant myfyrwyr, ymchwil gymhwysol, arloesi, gweithio mewn partneriaeth, effaith ranbarthol ac ehangu mynediad. Bydd y Cyfarwyddwr yn alinio fframweithiau pobl a blaenoriaethau’r gweithlu â nodau addysgol, ymchwil ac ariannol hirdymor y Brifysgol, gan helpu i adeiladu sefydliad cynhwysol a chynaliadwy sy’n perfformio’n dda.

Cyfrifoldebau Allweddol

Bydd y deiliad swydd yn:

  • Alinio’r strategaeth gweithlu a phobl â strategaeth y Brifysgol, gan gysylltu fframweithiau AD â nodau addysgol, ymchwil ac ariannol hirdymor a chryfhau Prifysgol De Cymru fel cyflogwr amrywiol sy’n seiliedig ar werthoedd.
  • Datblygu gweithlu hyblyg, addasadwy, effeithlon, sy’n wybodus am ddata ac sy’n gallu defnyddio’r dechnoleg ddigidol, sy’n gallu ymateb i flaenoriaethau sefydliadol ac amodau allanol sy’n newid.
  • Darparu arweinyddiaeth strategol a chyngor arbenigol ar gyfraith cyflogaeth a risg y gweithlu, gan sicrhau bod y Brifysgol yn parhau i gydymffurfio ac wedi’i diogelu yn ystod newid sefydliadol, ailstrwythuro a thrawsnewid.
  • Arwain gwelliant parhaus mewn newid sefydliadol, ailgynllunio’r gweithlu a darparu gwasanaethau, gan leihau aflonyddu sefydliadol ac effaith unigol.
  • Sicrhau bod rhaglenni newid sefydliadol yn cydymffurfio â deddfwriaeth cyflogaeth, gofynion rheoleiddio a pholisïau’r Brifysgol, gan liniaru risg gyfreithiol, ariannol ac enw da.
  • Adeiladu cynlluniau gweithlu graddadwy sy’n rhagweld shifftiau ariannu, newidiadau demograffig mewn cofrestru a gofynion technolegol sy’n esblygu.
  • Arwain swyddogaeth weithredol AD broffesiynol, sy’n canolbwyntio ar gwsmeriaid ac sy’n canolbwyntio ar atebion, sy’n darparu cymorth cyson ac arbenigol i reolwyr ac yn cyfrannu at lwyddiant sefydliadol.
  • Datblygu a chyflwyno strategaeth datblygu sefydliadol sy’n nodi anghenion dysgu a datblygu’r gweithlu, yn egluro cyfraniad unigol ac yn darparu llwybrau datblygu ac olyniaeth.
  • Optimeiddio cyfleoedd hyfforddi a datblygu sefydliadol i wneud y mwyaf o werth y cyllidebau sydd ar gael.
  • Adeiladu diwylliant o berfformiad uchel a rhagoriaeth mewn arwain a rheoli, gyda phwyslais cryf ar gynhwysiant a dod yn gyflogwr o ddewis.
  • Datblygu a chyflwyno strategaeth llesiant y gweithlu sy’n adlewyrchu gofynion Medr a gwerthoedd y Brifysgol.
  • Dylunio strategaethau recriwtio wedi’u targedu i ddenu talent gwasanaethau academaidd a phroffesiynol o ansawdd uchel.
  • Gweithredu rhaglenni cynefino effeithiol sy’n byrhau’r amser i gynhyrchiant ac yn gwella cadw ar draws rolau gwasanaethau academaidd a phroffesiynol.
  • Llunio strategaethau gwobrwyo sy’n cystadlu a llwybrau datblygu gyrfa i gefnogi denu, ymgysylltu a chadw.
  • Datblygu a chynnal deialog adeiladol ac ymgynghorol gydag undebau llafur cydnabyddedig yn unol â chytundeb partneriaeth y Brifysgol, gan gefnogi datrys problemau’n gynnar a chanlyniadau sefydliadol cynhyrchiol.
  • Cryfhau hyder a gallu arweinwyr a rheolwyr trwy ddarparu cyngor arbenigol ar faterion cymhleth cysylltiadau gweithwyr a gwaith achos.
  • Cynghori a chefnogi’r Prif Swyddog Gweithredu ar fecanweithiau ymgynghori ag undebau llafur sefydliadol a thrafodaethau cyflog cenedlaethol.

Manyleb y Person

Er mwyn gallu ymgymryd â’r rôl hon yn effeithiol bydd angen y priodoleddau a’r sgiliau allweddol a amlinellir isod. Cydnadir bod yr holl feini prawf canlynol yn hanfodol oni nodir fel arall.

  • Profiad sylweddol o uwch-arwain mewn Adnoddau Dynol, Datblygu Sefydliadol a strategaeth y gweithlu o fewn sefydliad mawr a chymhleth.
  • Llwyddiant blaenorol cryf o ddatblygu a chyflawni strategaethau pobl sy’n sail i strategaeth sefydliadol ac yn gwella perfformiad a llwyddiant, ategu strategaeth sefydliadol a gwella perfformiad a llwyddiant, yn ddelfrydol mewn mwy nag un sefydliad.
  • Llwyddiant profedig wrth arwain rhaglenni newid sefydliadol mawr, trawsnewid ac ailgynllunio’r gweithlu wrth gynnal ymgysylltiad ac ymddiriedaeth a lleihau effaith sefydliadol.
  • Profiad helaeth o berthnasoedd cymhleth â gweithwyr, gan gynnwys ymgynghori, ailstrwythuro, bargeinio ar y cyd a datrys anghydfodau.
  • Tystiolaeth o arwain swyddogaeth weithredol AD broffesiynol, sy’n canolbwyntio ar gwsmeriaid ac sy’n canolbwyntio ar atebion, gan gynnwys, cymhwyso technoleg i wella prosesau’r gweithlu a chefnogi rheolwyr gyda chyngor cyson, proffesiynol ac sy’n canolbwyntio ar atebion.
  • Tystiolaeth o hyrwyddo cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant a chyflawni canlyniadau mesuradwy.
  • Profiad amlwg o weithio’n adeiladol gydag undebau llafur cydnabyddedig i sicrhau canlyniadau sefydliadol cynhyrchiol.
  • Profiad o ddatblygu ac arwain timau perfformio uchel ac ysgogi ac ymgysylltu â staff i gyflawni canlyniadau pobl llwyddiannus.
  • Profiad o reoli cyllidebau sylweddol a chyflawni gwelliannau gwasanaeth mesuradwy.
  • Addysg i lefel gradd ac Aelod Siartredig o CIPD.
  • Meddwl strategol eithriadol a gallu dadansoddol, gan gynnwys trosi strategaeth yn ddarpariaeth ymarferol a defnyddio data pobl a mewnwelediad i’r gweithlu i gefnogi penderfyniadau.
  • Ymwybyddiaeth wleidyddol gref, barn sefydliadol, sgiliau dylanwadu a negodi, gyda hygrededd ar lefel uwch fel eiriolwr dros y brifysgol gyda rhanddeiliaid allanol.
  • Sgiliau cyfathrebu a chyflwyno datblygedig iawn a’r gallu i reoli blaenoriaethau sy’n cystadlu mewn amgylchedd cymhleth sy’n newid yn gyflym.
  • Mae cymhwyster gradd meistr perthnasol a Chymrodoriaeth Siartredig y CIPD yn ddymunol.
  • Mae’r gallu i siarad a/neu ysgrifennu yn Gymraeg. (Ddymunol)

Chief Operating Officer/Prif Swyddog Gweithredu (AQ3609)

Ymgeisiwch Nawr

Trosolwg

Mae Prifysgol De Cymru yn brifysgol ddinesig fodern, fawr sydd â’i gwreiddiau yn Ne Cymru, gydag ymrwymiad balch i lwyddiant myfyrwyr, ymchwil gymhwysol, arloesi, gweithio mewn partneriaeth, effaith ranbarthol ac ehangu mynediad. Wrth i’r Brifysgol ymateb i amgylchedd addysg uwch heriol a newidiol, rydym yn chwilio am Brif Swyddog Gweithredu eithriadol i helpu i drosi uchelgais strategol yn gyflawniad effeithiol.

Wedi’i lleoli ar draws campysau Prifysgol De Cymru, gyda theithio ar draws y Brifysgol ac yn allanol yn ôl yr angen, mae’r rôl hon yn cynnig y cyfle i ddefnyddio eich arbenigedd arweinyddiaeth strategol, datblygu sefydliadol, digidol, ystadau a gwasanaethau myfyrwyr ar lefel Weithredol.

Gan adrodd i’r Is-Ganghellor a’r Prif Weithredwr, mae’r Prif Swyddog Gweithredu (COO) yn aelod allweddol o Weithrediaeth y Brifysgol, gan ddarparu arweinyddiaeth strategol ar draws pobl a datblygu sefydliadol, seilwaith ystadau, gallu digidol a gwasanaethau sy’n wynebu myfyrwyr. Bydd deiliad y swydd yn gweithio yn golegol gydag arweinwyr gwasanaethau academaidd a phroffesiynol i sicrhau bod PDC yn cael model gweithredu ystwyth, effeithlon a chynaliadwy sy’n galluogi cyflawni strategaeth y Brifysgol.

Swydd-ddisgrifiad

Swydd Prif Swyddog Gweithredu (COO)
Cyfadran/Adran Gweithredol
Yn darparu gwasanaethau i Prifysgol De Cymru
Chyflog Cystadleuol
Hyd cytundeb (parhaol, cyfnod penodol) Parhaol
Yn adrodd i (teitl swydd) Is-Ganghellor a Prif Weithredwr
Yn gyfrifol am (swyddi) Cyfarwyddwr Pobl a Datblygu Sefydliadol, Cyfarwyddwr Bywyd Myfyrwyr, Prif Swyddog Gwybodaeth, a Cyfarwyddwr Ystadau a Chyfleusterau.

Pwrpas y swydd

Gan adrodd i’r Is-Ganghellor a’r Prif Weithredwr, mae’r Prif Swyddog Gweithredu (COO) yn aelod allweddol o Weithrediaeth y Brifysgol, gan ddarparu arweinyddiaeth strategol ar draws pobl a datblygu sefydliadol, seilwaith ystadau, gallu digidol a gwasanaethau sy’n wynebu myfyrwyr. Bydd deiliad y swydd yn gweithio yn golegol gydag arweinwyr gwasanaethau academaidd a phroffesiynol i sicrhau bod PDC yn cael model gweithredu ystwyth, effeithlon a chynaliadwy sy’n galluogi cyflawni strategaeth y Brifysgol.

Elfen allweddol o’r rôl hon fydd sicrhau bod y brifysgol yn datblygu gweithlu sy’n addas ar gyfer y dyfodol, ac sy’n effeithlon, ystwyth, yn frwdfrydig ac yn cyflawni cenhadaeth graidd y brifysgol.

Bydd y Prif Swyddog Gweithredu yn alinio profiad y gweithlu, profiad myfyrwyr, trawsnewid digidol a datblygu ystadau; yn gyrru perfformiad a dyfeisgarwch sefydliadol; yn llunio diwylliant cynhwysol, perfformiad uchel; ac yn gwella’r profiad myfyrwyr a staff mewn amgylchedd sy’n newid yn gyflym.

Mae Prifysgol De Cymru yn brifysgol ddinesig fodern, fawr sydd â’i gwreiddiau yn Ne Cymru, gydag ymrwymiad balch i lwyddiant myfyrwyr, ymchwil gymhwysol, arloesi, gweithio mewn partneriaeth, effaith ranbarthol ac ehangu mynediad. Mae’r Brifysgol yn mynd ar drywydd trawsnewidiad omnisianel mewn ymateb i amgylchedd addysg uwch heriol a newidiol. Bydd y Prif Swyddog Gweithredu yn helpu i drosi’r uchelgais hon yn ddarpariaeth effeithiol, gan adeiladu sefydliad cynaliadwy, integredig a chynhwysol.

Cyfrifoldebau Allweddol

Bydd deiliad y swydd:

  • Cyfrannu fel aelod craidd o’r Weithrediaeth at arweinyddiaeth strategol, perfformiad a chynaliadwyedd y Brifysgol, gan gyfieithu mewnwelediad sector, rheoleiddio, ariannol, technolegol a demograffig i weithredu sefydliadol.
    • Arwain datblygiad a chyflawniad cynlluniau strategol a gweithredol sefydliadol ar draws gwasanaethau proffesiynol, gan sicrhau aliniad clir rhwng pobl, seilwaith, gwasanaethau a chanlyniadau.
    • Arwain strategaeth pobl, cynllunio’r gweithlu, dylunio sefydliadol, datblygu arweinyddiaeth a rheoli talent y Brifysgol, gan gefnogi model gweithlu modern, hyblyg a pherfformiad uchel.
    • Gyrru datblygiad sefydliadol, trawsnewid diwylliannol, blaenoriaethau Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant (EDI), strategaethau llesiant a mentrau ymgysylltu â staff, gan feithrin diwylliant cynhwysol, sy’n cael ei yrru gan werthoedd ac sy’n perfformio’n uchel.
    • Darparu goruchwyliaeth strategol o fywyd myfyrwyr a gwasanaethau cymorth, gan sicrhau gwasanaethau cynhwysol, ymatebol ac arloesol sy’n gwella profiad myfyrwyr, cadw, parhad, lles a llwyddiant.
    • Gweithio’n agos gydag arweinyddiaeth academaidd ac Undeb y Myfyrwyr i alinio profiad myfyrwyr academaidd ac anacademaidd a chryfhau ymgysylltu myfyrwyr a modelau darparu cymorth.
    • Arwain strategaeth ddigidol trwy’r Prif Swyddog Gwybodaeth, gan sicrhau bod technoleg, gwneud penderfyniadau sy’n cael eu harwain gan ddata, integreiddio systemau, seiberddiogelwch, llywodraethu data a seilwaith digidol yn galluogi trawsnewid a pherfformiad sefydliadol.
    • Arwain datblygiad strategol, optimeiddio a chynaliadwyedd ystâd y Brifysgol, gan sicrhau ei bod yn cefnogi darpariaeth academaidd, profiad myfyrwyr, cyfleoedd masnachol, cynllunio cyfalaf, defnydd a chost-effeithlonrwydd.
    • Arwain datblygiad model gwasanaethau proffesiynol perfformiad uchel sy’n canolbwyntio ar brofiad cwsmeriaid, effeithlonrwydd, gwerth am arian, gwelliant parhaus ac integreiddio gwasanaethau’n effeithiol ar draws y Brifysgol.
    • Gyrru rhaglenni trawsnewid sefydliadol, gan gynnwys ailgynllunio gwasanaethau a galluogi digidol, i gefnogi model gweithredu ystwyth, cynaliadwy sy’n canolbwyntio ar ganlyniadau.
    • Cyfrannu at gynaliadwyedd ariannol, mewn partneriaeth â’r Dirprwy Is-lywydd a’r Prif Swyddog Ariannol, trwy effeithlonrwydd gweithredol, mewnwelediad masnachol, cyfleoedd incwm amrywiol, data o ansawdd uchel a gwerth am arian ar draws meysydd gweithredol.
    • Arwain dulliau sefydliadol o reoli risg, parhad busnes, iechyd a diogelwch, cydymffurfiaeth a gofynion rheoleiddio, gan sicrhau fframweithiau llywodraethu cadarn ac effeithiol sy’n cyd-fynd ag arfer gorau.
    • Cefnogi Bwrdd y Llywodraethwyr a’i bwyllgorau yn ôl yr angen, gan ddarparu sicrwydd, mewnwelediad ac adrodd effeithiol ar faterion o fewn portffolio’r Prif Swyddog Gweithredu.
    • Adeiladu partneriaethau mewnol cryf ar draws meysydd academaidd a phroffesiynol a chynrychioli’r Brifysgol yn allanol gyda hygrededd ar draws cyd-destunau sector, dinesig a masnachol.
    • Datblygu partneriaethau strategol sy’n gwella gallu, enw da ac effaith sefydliadol.

 

Manyleb y Person

Er mwyn gallu ymgymryd â’r rôl hon yn effeithiol bydd angen y priodoleddau a’r sgiliau allweddol a amlinellir isod. Cydnadir bod yr holl feini prawf canlynol yn hanfodol oni nodir fel arall.

  • Profiad arweinyddiaeth sylweddol ar lefel weithredol mewn sefydliad mawr, cymhleth, gyda hanes profedig o arwain trawsnewid sefydliadol a chyflawni effaith fesuradwy.
  • Profiad o arwain nifer o swyddogaethau gwasanaeth corfforaethol a phroffesiynol, megis datblygu pobl a sefydliadol, ystadau, gwasanaethau digidol a gwasanaethau sy’n wynebu myfyrwyr.
  • Dealltwriaeth gref o berfformiad sefydliadol, cynaliadwyedd ariannol, effeithlonrwydd gweithredol a’r defnydd o wneud penderfyniadau sy’n seiliedig ar ddata i wella canlyniadau.
  • Profiad o weithio’n effeithiol gyda Byrddau, strwythurau llywodraethu a fforymau gwneud penderfyniadau uwch, gyda’r gallu i ddylanwadu ar lefel Weithredol a Bwrdd.
  • Dealltwriaeth o sector addysg uwch y DU a’r amgylchedd rheoleiddio, neu’r gallu i gaffael y ddealltwriaeth hon yn gyflym.
  • Meddwl strategol rhagorol, gyda’r gallu i drosi strategaeth yn ddarpariaeth ar draws swyddogaethau amrywiol ac arwain yn effeithiol trwy eraill.
  • Sgiliau arweinyddiaeth pobl, cyfathrebu ac ymgysylltu â rhanddeiliaid cryf, gyda’r gallu i gefnogi, arwain a hyfforddi rheolwyr i gyflawni eu cyfrifoldebau rheoli pobl.
  • Gallu i ddatrys heriau Adnoddau Dynol/Datblygu Sefydliadol a gweithredol cymhleth, gan nodi atebion ymarferol, sy’n canolbwyntio ar ganlyniadau sy’n cydbwyso anghenion sefydliadol, risg ac arferion cyflogaeth dda.
  • Gallu datblygu a chynnal perthnasoedd gwaith cadarnhaol ac effeithiol, dylanwadu’n adeiladol a mabwysiadu dull ymgynghorol, sy’n ymwybodol o risg, gan gynnwys lle mae safbwyntiau neu flaenoriaethau gwahanol.
  • Gwybodaeth dda am ddeddfwriaeth gyflogaeth berthnasol, gan gynnwys cyfraith achos, a’r gallu i gymhwyso hyn yn gadarn wrth ddarparu cyngor, canllawiau ac arweinyddiaeth ar faterion cymhleth pobl.
  • Y gallu i weithio’n adeiladol gydag Undebau Llafur cydnabyddedig o fewn dull partneriaeth PDC, gan gefnogi ymgynghori effeithiol, ymgysylltu a datrys problemau ar y cyd.
  • Mae’r gallu i siarad a/neu ysgrifennu yn Gymraeg. (Ddymunol)

Pro Vice-Chancellor, Education and Student Experience/Dirprwy Is-Ganghellor Addysg a Phrofiad Myfyrw (AQ3495)

Ymgeisiwch Nawr

Trosolwg

Mae Prifysgol De Cymru (PDC) yn brifysgol ddinesig fodern, fawr sydd â’i gwreiddiau yn Ne Cymru, gydag ymrwymiad balch i lwyddiant myfyrwyr, ymchwil gymhwysol, arloesedd, gweithio mewn partneriaeth, effaith ranbarthol ac ehangu mynediad. Wrth i’r Brifysgol ymateb i amgylchedd addysg uwch heriol a newidiol, rydym yn chwilio am Ddirprwy Is-Ganghellor (Addysg a Phrofiad Myfyrwyr) eithriadol i helpu i lunio cynnig addysgol rhagorol, cynhwysol ac sy’n canolbwyntio ar y dyfodol i fyfyrwyr ar draws PDC.

Wedi’i lleoli ar draws campysau PDC, gyda gweithio hyblyg trwy gytundeb, mae’r rôl hon yn cynnig y cyfle i ddarparu arweinyddiaeth strategol ledled y Brifysgol ar gyfer addysg, dysgu ac addysgu, cwricwlwm, asesu, canlyniadau myfyrwyr a phrofiad myfyrwyr o’r dechrau i’r diwedd.

Gan adrodd i’r Is-Ganghellor a’r Prif Weithredwr, bydd y Dirprwy Is-Ganghellor (Addysg a Phrofiad Myfyrwyr) yn aelod allweddol o Bwyllgor Gweithredol y Brifysgol, gan weithio’n golegol gydag arweinwyr gwasanaethau academaidd a phroffesiynol i yrru perfformiad addysgol, arloesedd a gwelliant. Bydd deiliad y swydd yn alinio cwricwlwm, addysgeg, asesu, ymgysylltiad myfyrwyr, arfer academaidd a chymorth i fyfyrwyr, gan helpu i adeiladu sefydliad cynaliadwy, cynhwysol sy’n canolbwyntio ar y myfyriwr.

Y Swydd Dirprwy Is-Ganghellor (Addysg a Phrofiad Myfyrwyr)
Cyfadran / Adran Gweithredol
Lleoliad Campysau Prifysgol De Cymru (aml-safle) gyda gweithio hyblyg trwy gytundeb
Cyflog Cystadleuol
Oriau gwaith Amser llawn
Hyd y contract (parhaol/tymor penodol) Parhaol
Yn adrodd i Is-Ganghellor a Phrif Weithredwr
Yn gyfrifol am Deon Addysg, CELT

Pwrpas y swydd

Yn adrodd i’r Is-Ganghellor, mae’r Dirprwy Is-Ganghellor (Addysg a Phrofiad Myfyrwyr) yn aelod allweddo o dîm Gweithredol y Brifysgol, wrth gynnig arweinyddiaeth strategol ar draws addysg, dysgu ac addysgu, datblygiad y cwricwlwm, deilliannau myfyrwyr a phrofiad myfyrwyr o’r dechrau i’r diwedd. Wrth weithio mewn modd colegol ag arweinwyr academaidd a phroffesiynol, bydd deiliaid y swydd yn sicrhau bod gan PDC ddarpariaeth addysgol ragorol, gynhwysol ac sy’n canolbwyntio ar y dyfodol, sy’n galluogi cyflawni strategaeth y Brifysgol ac yn cefnogi myfyrwyr i lwyddo yn eu hastudiaethau, eu gyrfaoedd yn y dyfodol a’u bywydau ehangach.

Elfen allweddol o’r rôl hon fydd sicrhau bod y Brifysgol yn datblygu dulliau o ran dysgu, addysgu a phrofiad myfyrwyr sy’n addas ar gyfer y dyfodol, yn seiliedig ar dystiolaeth, yn cael eu galluogi gan dechnoleg ddigidol, yn gynhwysol ac yn ymatebol i anghenion myfyrwyr, cyflogwyr, cymunedau a’r dirwedd ehangach o ran addysg drydyddol.
Bydd y Dirprwy Is-Ganghellor yn alinio’r cwricwlwm, addysgeg, yr asesu, ymgysylltiad myfyrwyr, arfer academaidd a chymorth i fyfyrwyr; yn hybu perfformiad addysgol, arloesedd a gwelliant; yn llunio diwylliant dysgu cynhwysol sy’n perfformio ar lefel uchel; ac yn cryfhau profiad a chanlyniadau myfyrwyr mewn amgylchedd sy’n newid yn gyflym.

Mae Prifysgol De Cymru (PDC) yn brifysgol ddinesig fodern, fawr sydd â’i gwreiddiau yn Ne Cymru, gydag ymrwymiad balch i lwyddiant myfyrwyr, ymchwil gymhwysol, arloesedd, gweithio mewn partneriaeth, effaith ranbarthol ac ehangu mynediad. Mae’r Brifysgol yn mynd ar drywydd trawsnewidiad mewn ymateb i amgylchedd addysg uwch heriol sy’n newid. Bydd y Dirprwy Is-Ganghellor yn helpu i droi’r uchelgais hwn yn ddarpariaeth addysgol ragorol, gan adeiladu sefydliad cynaliadwy, cynhwysol ac sy’n canolbwynio ar y myfyriwr.

Cyfrifoldebau Allweddol

Bydd deiliad y swyd yn:

  • Cyfrannu fel aelod craidd o’r tîm Gweithredol at arweinyddiaeth strategol, perfformiad a chynaliadwyedd y Brifysgol, gan gyfieithu mewnwelediad sector, rheoleiddiol, addysgeg, technolegol a demograffig i weithrediad sefydliadol.
  • Arwain datblygiad a chyflawniad strategaethau sefydliadol ar gyfer addysg, dysgu ac addysgu, cwricwlwm, asesu, deilliannau myfyrwyr a phrofiad y myfyrwyr, gan sicrhau aliniad clir â strategaeth y Brifysgol.
  • Darparu arweinyddiaeth strategol ar gyfer egwyddorion Cwricwlwm ac Asesu Prifysgol De Cymru 2030, gan sicrhau bod dylunio cwricwlwm, addysgeg ac asesu yn gynhwysol, wedi’u llywio gan dystiolaeth, wedi’u galluogi’n ddigidol ac yn ymatebol i anghenion myfyrwyr, cyflogwyr a dinesig yn y dyfodol.
  • Gyrru gwelliannau mewn llwyddiant myfyrwyr, parhad, cwblhau, dilyniant, deilliannau graddedigion ac adborth myfyrwyr, gan ddefnyddio data a mewnwelediad o ansawdd uchel i dargedu gweithredu a gwerthuso effaith.
  • Hyrwyddo addysg gynhwysol, perthyn a chanlyniadau teg i bob myfyriwr, gan arwain dulliau sy’n seiliedig ar dystiolaeth i gau bylchau dyfarnu, parhad a dilyniant.
  • Arwain datblygiad profiad myfyrwyr integredig, ‘omnisianel’, gan alinio darpariaeth o ansawdd uchel ar y campws, llwyfannau digidol, cefnogaeth hygyrch a dulliau ymgysylltu hyblyg.
  • Darparu goruchwyliaeth strategol o ymgysylltiad, llais a phartneriaeth myfyrwyr, gan weithio’n agos gydag arweinwyr academaidd, gwasanaethau proffesiynol ac Undeb y Myfyrwyr i gryfhau cyd-greu, ymatebolrwydd ac atebolrwydd a rennir am ddeilliannau.
  • Arwain dulliau sefydliadol o ran ansawdd academaidd, safonau a gwelliant, gan sicrhau llywodraethu cadarn, cydymffurfiaeth reoleiddiol a diwylliant o welliant parhaus ar draws y ddarpariaeth.
  • Darparu arweinyddiaeth weladwy ar gyfer arloesedd addysg, gan gynnwys addysgeg ddigidol, dysgu wedi’i alluogi gan Ddeallusrwydd Artiffisial, dadansoddeg ddysgu, asesu dilys a dysgu seiliedig ar her.
  • Arwain y Ganolfan ar gyfer Gwella Dysgu ac Addysgu, gan sicrhau ei bod yn meithrin gallu sefydliadol, yn cryfhau arfer academaidd ac yn cefnogi addysg ragorol, gynhwysol ac arloesol.
  • Cryfhau cyflogadwyedd, parodrwydd proffesiynol a dysgu gydol oes trwy ymgorffori cyfleoedd dysgu sy’n seiliedig ar y diwydiant, cymhwysol ac yn seiliedig ar waith ar draws y cwricwlwm a thaith ehangach y myfyriwr.
  • Cyfrannu at gynaliadwyedd ariannol, mewn partneriaeth â chydweithwyr Gweithredol, trwy ddatblygu portffolio cynaliadwy, blaenoriaethu adnoddau effeithiol, data o ansawdd uchel a gwerth am arian ar draws addysg a gweithgaredd profiad myfyrwyr.
  • Cefnogi Bwrdd y Llywodraethwyr a’i bwyllgorau yn ôl yr angen, gan ddarparu sicrwydd, mewnwelediad ac adrodd effeithiol ar faterion o fewn portffolio addysg a phrofiad myfyrwyr.
  • Adeiladu partneriaethau mewnol cryf ar draws meysydd academaidd a phroffesiynol a chynrychioli’r Brifysgol yn allanol gyda hygrededd ar draws cyd-destunau’r sector, dinesig, rheoleiddiol a phartneriaeth.
  • Datblygu partneriaethau strategol sy’n gwella ansawdd addysgol, cyfleoedd myfyrwyr, enw da sefydliadol ac effaith ranbarthol, genedlaethol a rhyngwladol.

Manyleb y Person

Er mwyn gallu ymgymryd â’r rôl hon yn effeithiol bydd angen y priodoleddau a’r sgiliau allweddol a amlinellir isod. Cydnadir bod yr holl feini prawf canlynol yn hanfodol oni nodir fel arall.

  • Gradd Meistr, doethuriaeth neu statws proffesiynol cyfatebol sy’n berthnasol i’r rôl.
  • Hygrededd academaidd cryf a hanes blaenorol o arwain mewn dysgu ac addysgu a/neu brofiad myfyrwyr ar raddfa fawr, o fewn addysg uwch neu leoliad addysg drydyddol gymharol.
  • Llwyddiant y gellir ei ddangos wrth gyflawni gwelliannau mesuradwy mewn deilliannau myfyrwyr gan gynnwys parhad, cwblhau, dilyniant, deilliannau graddedigion a/neu ddangosyddion profiad myfyrwyr.
  • Gwybodaeth arbenigol am addysgeg gyfoes, cynllunio cwricwlwm, asesu ac adborth, ac arfer addysg gynhwysol a phrofiad o drawsnewid cwricwlwm ar raddfa fawr.
  • Profiad o arwain trawsnewid digidol a/neu wasanaeth sy’n gwella taith y myfyriwr, gan gynnwys defnydd effeithiol o dechnolegau dysgu a data/mewnwelediad.
  • Ymrwymiad clir i gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant gyda thystiolaeth o leihau bylchau cyrhaeddiad neu ddeilliannau, a chryfhau’r ymdeimlad o berthyn.
  • Sgiliau cynllunio strategol, llywodraethu ac arwain newid cryf; yn gallu gweithio’n effeithiol ar draws sefydliadau cymhleth a thrwy ddylanwad.
  • Profiad sylweddol o arwain, noddi neu gyflwyno rhaglenni newid sefydliadol ar raddfa fawr mewn sefydliadau cymhleth, gan gynnwys llywodraethu rhaglenni, gwireddu buddion, ymgysylltu â rhanddeiliaid, rheoli risg a chyflwyno deilliannau mesuradwy.
  • Sgiliau cyfathrebu a rheoli rhanddeiliaid rhagorol, gan gynnwys partneriaeth effeithiol â myfyrwyr.
  • Dealltwriaeth o sicrhau ansawdd, cydymffurfiaeth â rheoliadau a rheoli risg sy’n berthnasol i addysg uwch yn y DU.
  • Profiad o arwain contractau addysgol ar raddfa fawr ar gyfer cynhyrchu refeniw gan ddefnyddio addysgeg newydd i addysgu’r gweithlu..
  • Mae’r gallu i siarad ac/neu ysgrifennu yn Gymraeg. (Ddymunol)
  • Cymrodoriaeth yr HEA/Advance HE, neu gydnabyddiaeth broffesiynol gyfatebol. (Ddymunol)
  • Profiad o weithio o fewn amgylchedd addysg drydyddol Cymru ac/neu ddarparu gwasanaethau dwyieithog. (Ddymunol)
  • Profiad o ddatblygu a gweithredu cwricwla sy’n seiliedig ar heriau. (Ddymunol)
  • Proffil allanol a rhwydweithiau sefydledig sy’n berthnasol i arloesi mewn addysg, profiad myfyrwyr ac/neu achrediad proffesiynol. (Ddymunol)

 

Telerau penodi

Telerau

  • Mae 35 diwrnod o wyliau blynyddol, ynghyd ag 8 gwyl banc cyhoeddus a gwyliau ychwanegol a dalir os yw’r Brifysgol yn cau ar adegau penodol o’r flwyddyn.

Pensiynau

Bydd deiliad swydd y Dirprwy Is-Ganghellor yn aelod o Gynllun Pensiwn yr Athrawon.

Bydd swyddi’r Prif Swyddog Gweithredu a Chyfarwyddwr Pobl a Datblygu Sefydliadol yn aelod o Professional and Support Services Limited, cwmni cymorth hollol eiddo i Brifysgol De Cymru, sy’n darparu gwasanaethau i’r Brifysgol a’r Colegau. Gallwch ddarllen mwy am bensiynau yma.

Iechyd a Diogelwch

Rhaid i chi a), cyfarwyddo eich hun â pholisïau a gweithdrefnau Iechyd a Diogelwch y sefydliad ac ymrwymo iddynt, sydd ar gael ar Connect (Intranet); a b), bod yn llawn gyfarwydd â’ch cyfrifoldebau iechyd a diogelwch fel y nodir yn ddogfen Trefniadau Rheoli Iechyd a Diogelwch yr Ysgol/Faers, a gweithredu yn unol â hynny.

Diogelu

Mae USW wedi ymrwymo i ddiogelu a hybu lles plant, pobl ifanc a phobl agored i niwed. Disgwylir i bawb sy’n gweithio yn y Brifysgol rannu’r ymrwymiad hwn.

Amrywioldeb ac Cynnwys

Rydym wedi ymrwymo i gyflogi gweithlu amrywiol a chreu amgylchedd cynhwysol, lle gall cydweithwyr fod yn eu hunain ac mae pob person yn cael ei drin gyda urddas, tegwch a pharch. Rydym yn annog ceisiadau’n weithredol o gefndiroedd a chymunedau amrywiol, yn enwedig o ran oedran, anabledd, hunaniaeth rhyw, cyfeiriadedd rhywiol, hil a chrefydd a/neu gred. Rydym yn cymharu ein llwyddiant trwy achredueddau cydraddoldeb gyda Athena Swan, Race Equality Charter, Stonewall a Disability Confident.

Sy’n siarad Cymraeg

Os ydych yn ddysgwyr Cymraeg neu’n siaradwr Cymraeg, byddem wrth ein bodd yn derbyn eich cais. Yn USW, mae gennych fynediad i gyrsiau Cymraeg er mwyn i chi ddatblygu eich sgiliau Cymraeg ymhellach, er mwyn darparu gwasanaeth dwyieithog i’n myfyrwyr, cydweithwyr a’r cyhoedd.

Sut i Wneud Cais

Mae Anderson Quigley yn gweithredu fel cynghorydd i’r Brifysgol, mae proses chwilio weithredol yn cael ei chynnal gan Anderson Quigley yn ogystal â’r hysbyseb cyhoeddus.

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw dydd 30 Hydref 2026.

Dylai ceisiadau gynnwys:

  • CV llawn
  • Llythyr eglurhaol (hyd at ddwy dudalen) yn amlinellu eich cymhellion ar gyfer y rôl a sut rydych yn bodloni meini prawf hanfodol y fanyleb person.
  • Rhowch fanylion dau ganolwr naill ai yn eich CV neu lythyr eglurhaol, er sylwch na fyddwn yn mynd at eich canolwyr heb eich caniatâd ymlaen llaw a dim ond os byddwch yn cyrraedd y rhestr fer.

Os hoffech drafod rôl gyfrinachol, cysylltwch â

Ymrwymiad Hyderus o ran Anabledd – Cynnig o gyfweliad

Mae Professional and Support Services Limited wedi ymrwymo i gyflogi gweithlu amrywiol a chreu amgylchedd cynhwysol lle gall staff fod yn nhw eu hunain a phawb yn cael eu trin ag urddas, tegwch a pharch. Rydym yn croesawu ymgeiswyr o gefndiroedd a chymunedau amrywiol, yn enwedig o ran oedran, anabledd, rhyw, hunaniaeth rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, hil a chrefydd neu gred. Rydym yn gwarantu bod pob ymgeisydd anabl sy’n cwrdd â’r holl feini prawf allweddol ar gyfer y swydd wag y maent yn gwneud cais amdani yn cael cynnig cyfweliad.