Annwyl ymgeisydd
Rwy’n falch iawn eich bod wedi mynegi diddordeb ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd ac wedi cyfrannu at ein hagenda flaengar ar gyfer addysg, ymchwil ac arloesi.
Mae Met Caerdydd yn gymuned fywiog o tua 12,500 o fyfyrwyr yn seiliedig ar ddau gampws yng Nghaerdydd a thros 13,500 o fyfyrwyr addysg trawswladol sy’n astudio ein graddau gyda’n partneriaid mewn 13 gwlad ar draws y byd. Mae’r Brifysgol yn sbardun i addysg a thrawsnewidiaeth gymdeithasol, yn gatalydd ar gyfer arloesi a’r economi, ac yn gyfrannwr allweddol at dwf cynhwysol a chynaliadwy o fewn Cymru ac yn y byd ehangach.
Mae ein cymuned Met Caerdydd yma yng Nghymru ac ar draws y byd wedi cael llwyddiant ysgubol dros y pum mlynedd diwethaf. Byddwn yn adeiladu ymhellach ar y llwyddiant hwn wrth i ni gychwyn ar ein Strategaeth 2030 yr un mor uchelgeisiol. Mae’r Brifysgol wedi sefydlu ei hun fel prifysgol flaengar, sy’n cael ei gyrru gan werthoedd, gyda phrofiad rhagorol i fyfyrwyr, diwylliant staff ac ymchwil ac arloesedd effeithiol. Roeddem yn falch iawn o gael ein rhestru Rhif 1 Prifysgol y DU dros Gynaliadwyedd 2022/23 yn y ”People and Planet Green League” ym mis Rhagfyr 2022, a chael ein dyfarnu yn Brifysgol y Flwyddyn y DU ac Iwerddon 2021 gan Times Higher Education ym mis Rhagfyr 2021, a Phrifysgol Cymru y Flwyddyn 2021 gan y Times a’r Sunday Times ym mis Medi 2020.
Rydym nawr yn awyddus i benodi arweinydd rhagorol fel ein Cyfarwyddwr Pobl a Diwylliant nesaf. Bydd y Cyfarwyddwr yn ganolog i uchelgeisiau’r Brifysgol a amlinellir yn Strategaeth 2030, sy’n canolbwyntio ar weithio gyda phwrpas, effaith a thosturi i wneud economïau’n fwy ffyniannus, cymdeithasau’n decach, diwylliannau yn gyfoethocach, amgylcheddau yn wyrddach a chymunedau yn iachach.
Dros y tair blynedd diwethaf mae’r gyfarwyddiaeth Gwasanaethau Pobl wedi canolbwyntio ar ddarparu rhaglen newid trawsnewidiol sylweddol gan ail-leoli’r swyddogaeth fel partner strategol i’r Brifysgol a moderneiddio y ddarpariaeth gwasanaethau. Daeth yn swyddogaeth flaengar, ystwyth a galluogar.
Bu’r rhaglen drawsnewidiol hon yn llwyddiant a bydd y Cyfarwyddwr Pobl a Diwylliant yn adeiladu ar y sylfeini sydd bellach ar waith ac yn cyflawni elfennau terfynol y cynllun trawsnewid. Felly, mae Met Caerdydd yn chwilio am arweinydd eithriadol i gryfhau ac arwain ein tîm Gwasanaethau Pobl sydd bellach yn perfformio’n dda er mwyn galluogi Prifysgol dan arweiniad pwrpasol a chanolbwyntio ar ddatblygu diwylliant ac arweinyddiaeth sefydliadol er mwyn denu a chadw’r bobl orau a llwyddo i gyflawni ein nodau a’n huchelgeisiau Strategaeth 2030.
Gallwch ddarganfod mwy am ein Prifysgol wych ar y wefan hon, a gobeithio y cewch eich ysbrydoli i fynegi diddordeb i ddod ein Cyfarwyddwr Pobl a Diwylliant newydd.
Gyda dymuniadau gorau
I weld y disgrifiad swydd a dysgu mwy am Brifysgol Metropolitan Caerdydd cliciwch yma.
Mae Anderson Quigley yn gweithredu fel ymgynghorydd i’r Brifysgol. Cynhelir proses chwilio weithredol gan Anderson Quigley yn ogystal â’r hysbysebion cyhoeddus.
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw hanner dydd ddydd Gwener 27 Hydref 2023.
Dylai ceisiadau gynnwys:
Os hoffech drafod y swyddi yn gwbl gyfrinachol, cysylltwch Aino Betts ar +44 (0)7743 934 723, aino.betts@andersonquigley.com neu Elliott Rae ar +44 (0)7584 078 534, elliott.rae@andersonquigley.com.