Prifysgol Bangor
Croeso a diolch i chi am eich diddordeb yn ein prifysgol.
Mae Bangor yn sefydliad unigryw, yn brifysgol uchelgeisiol sydd wedi’i seilio ar ei gwreiddiau Cymreig, rhagoriaeth ymchwil a ffocws myfyriwr-ganolog. Wedi’n lleoli ar arfordir trawiadol Gogledd Cymru, dim ond tafliad carreg o barc cenedlaethol Eryri rydym yn cael ein hysgogi gan ein calon Gymreig a’n cymuned ryngwladol.
Fel rhan o fuddsoddiad parhaus yn y Gyfarwyddiaeth Marchnata, Cyfathrebu a Recriwtio rydym bellach yn recriwtio dwy swydd uwch: Cyfarwyddwr Ymgyrchoedd a Marchnata Brand a Dirprwy Gyfarwyddwr Recriwtio a Symudedd Rhyngwladol. Ar draws ein cynulleidfaoedd targed, bydd y swyddi proffil uchel hyn yn chwarae rhan hanfodol a dylanwadol wrth helpu’r Brifysgol i hyrwyddo ein hymrwymiad i sicrhau dyfodol llewyrchus a chynaliadwy i bawb.
Rydym yn chwilio am uwch-weithwyr proffesiynol hynod greadigol ac uchelgeisiol ym maes marchnata a recriwtio myfyrwyr rhyngwladol sydd am gyflawni canlyniadau sy’n arwain y sector mewn Cyfarwyddiaeth sydd â ffocws, brwdfrydedd ac sy’n uchelgeisiol. Mae’r ddau gyfle yn cynnig gweithio hyblyg sy’n cyfuno rhywfaint o weithio gartref, ynghyd â phresenoldeb ar ein campws ym Mangor a Wrecsam.
Mae’r wefan hon yn rhoi manylion llawn am y ddwy swydd a bydd ein Hymgynghorwyr yn Anderson Quigley yn falch iawn o drafod y cyfleoedd cyffrous hyn â chi.
Enw Da Am Ragoriaeth
Mae gan Brifysgol Bangor, a sefydlwyd ym 1884, draddodiad hir o ragoriaeth academaidd, a phwyslais mawr ar brofiad y myfyrwyr. Mae tua 10,000 o fyfyrwyr yn astudio yn y brifysgol ar hyn o bryd, gyda staff addysgu wedi eu lleoli mewn naw o ysgolion academaidd. Mae ymchwil Prifysgol Bangor wedi ei gosod mewn safle uchel yn Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil diweddaraf y Llywodraeth (REF2021), gyda 85% gyda’r gorau yn y byd (4*) neu’n rhagorol yn rhyngwladol (3*). Mae ymchwil Bangor yn y Proffesiynau Perthynol i Iechyd, Deintyddiaeth, Nyrsio a Fferylliaeth yn 15fed yn gyffredinol yn y Deyrnas Unedig. Mae hynny’n adeiladu ar y cryfderau ymchwil sydd gennym yn y Gwyddorau Dynol ac mae’n helpu datblygu iechyd a gofal cymdeithasol at y dyfodol a hynny’n gynaliadwy, yn seiliedig ar le ac yn hybu twf y sector gwyddorau bywyd rhanbarthol.
Cafodd Prifysgol Bangor lwyddiant cyson yn Arolwg Cenedlaethol y Myfyrwyr ac mae gyda’r 10 prifysgol orau yn y Deyrnas Unedig yn rheolaidd (ac eithrio sefydliadau arbenigol) am foddhad myfyrwyr. Prifysgol Bangor oedd y gyntaf yng Nghymru i dderbyn Safon Aur yn y Fframwaith Rhagoriaeth Addysgu (TEF) cenedlaethol, a daliodd ei gafael ar y safon honno tra bu’r Fframwaith yn weithredol.
Ein Cenhadaeth
Prifysgol dan arweiniad ymchwil ar gyfer gogledd Cymru, sy’n cael ei harwain gan ymchwil ac yn meithrin effaith gadarnhaol ar gymdeithas yn rhanbarthol, yn genedlaethol, ac yn rhyngwladol.
Ein Gweledigaeth
Prifysgol ac iddi gysylltiadau byd-eang, sy’n gwireddu cyfleoedd ar gyfer llwyddiant trwy ymchwil ac addysgu trawsnewidiol ac arloesol a sbardunir gan effaith, gyda ffocws ar gynaliadwyedd: diogelu’r amgylchedd, adfywio iechyd cymdeithas, a hyrwyddo ffyniant economaidd, cymdeithasol, dwyieithog, a diwylliannol.
Ein Hanes
Sefydlwyd y Brifysgol o ganlyniad uniongyrchol i ymgyrch yn niwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg i gael darpariaeth addysg uwch yng Nghymru. Casglwyd arian trwy danysgrifiad cyhoeddus i sefydlu coleg ar lefel prifysgol ym Mangor.
Un o nodweddion pwysig ei sefydlu oedd y cyfraniadau gwirfoddol a wnaed gan bobl leol, gan gynnwys, ymhlith eraill, nifer o ffermwyr a chwarelwyr. Nid oeddent yn gallu fforddio rhoi o’u harian prin, ond gwnaethant hynny er gwaetha’r anawsterau er budd cenedlaethau’r dyfodol.
Mae’r Brifysgol yn effro o hyd i’r cyfraniadau hynny a arweiniodd at ei sefydlu a chefnogaeth y gymuned byth ers hynny, ac mae’n parhau’n driw i’r weledigaeth wreiddiol honno a’r angen i gofio am ei gwreiddiau wrth inni adeiladu’r Brifysgol gogyfer â’r dyfodol. Yn wir, caiff y gwerthoedd hynny eu hadlewyrchu heddiw nghefnogaeth y Brifysgol i Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (2015).
Ein Campysau
Mae lleoliad Bangor, sy’n agos at y mynyddoedd a’r môr, wedi ei ddisgrifio fel y lleoliad gorau i brifysgol yn y Deyrnas Unedig. Er enghraifft, enwyd Gogledd Cymru fel y 4ydd rhanbarth gorau yn y byd i ymweld ag ef gan y tywyslyfr teithio, Lonely Planet, oherwydd y lleoliad ysblennydd a’r cyfleusterau chwaraeon antur newydd sbon danlli sydd yma.
Mae buddsoddiadau diweddar y Brifysgol mewn cyfleusterau a gwasanaethau’n cynnwys Canolfan Gelfyddydau ac Arloesi Pontio, datblygiad gwerth miliynau lawer sy’n cynnwys cyfleusterau addysgu, theatr, bar, caffis a man arloesi. Ymhlith y buddsoddiadau eraill agorwyd 600 o ystafelloedd newydd ym Mhentref Myfyrwyr y Santes Fair, ac ailddatblygwyd cyfleusterau chwaraeon y Brifysgol yng Nghanolfan Brailsford. Cafodd lletyau myfyrwyr Prifysgol Bangor eu sgorio fel y gorau yn y Deyrnas Unedig yng ngwobrau What Uni Student Choice Awards 2018. Gosododd arolwg y Times Higher Education Student Experience Survey 2018 Brifysgol Bangor yn y 10 uchaf yn y Deyrnas Unedig o ran Llety.
Mae cyrhaeddiad y Brifysgol yn ymestyn ymhell y tu hwnt i’r campws ym Mangor. Fel Prifysgol Gogledd Cymru, mae gan y Brifysgol gyfleusterau a champysau ledled y rhanbarth gan gynnwys campws sylweddol yn Wrecsam. Mae dros 500 o fyfyrwyr yn cael eu haddysgu yno ac mae cyfleusterau ymchwil ledled y gogledd sy’n cynnwys unig Barc Gwyddoniaeth Cymru – M-SPARC – ar Ynys Môn. Mae yma hefyd gyfleusterau addysgu clinigol ar gyfer myfyrwyr meddygol a gofal iechyd ar safleoedd ysbytai Ysbyty Gwynedd, Glan Clwyd a Maelor Wrecsam ac mewn sawl ysbyty cymunedol. Mae perthynas waith glos hefyd gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a darparwyr gofal iechyd sylfaenol ledled y gogledd.
Addysgu a Dysgu
Mae’r Brifysgol yn ymfalchïo yn ansawdd yr addysgu. Hon oedd y brifysgol gyntaf yng Nghymru i ennill safon aur yn Fframwaith Rhagoriaeth Addysgu 2017, sy’n dyst i waith y staff a hwythau’n darparu addysgu, dysgu a deilliannau rhagorol i’n myfyrwyr. Ategwyd hynny mewn adolygiad diweddar gan Asiantaeth Sicrhau Ansawdd y Deyrnas Unedig a arweiniodd at y gymeradwyaeth uchaf posib i safonau academaidd y Brifysgol. Mae yma brofiad gwych i’r myfyrwyr. Gosododd Arolwg Cenedlaethol y Myfyrwyr 2020 Fangor ymhlith y 10 uchaf o blith prifysgolion y brif ffrwd yn y Deyrnas Unedig am foddhad myfyrwyr a llwyddodd i gadw’r safle hwnnw ers sawl blwyddyn.
Mae gan Brifysgol Bangor draddodiad hirfaith o ragoriaeth academaidd, a ffocws cryf ar brofiad y myfyrwyr. Heddiw mae tua 10,000 o fyfyrwyr yn astudio yn y Brifysgol, ac mae ganddi tua 2,000 o staff, mewn naw o Ysgolion Academaidd o fewn tri Choleg, a nifer o Wasanaethau Proffesiynol yn gefn iddynt. Yn ogystal, mae gennym 600 o fyfyrwyr sy’n astudio yng Ngholeg Bangor Tsieina a thua 2400 o fyfyrwyr sy’n astudio rhaglenni a ddilysir yn y Deyrnas Unedig a thramor. Mae gennym fwy na 150 o Glybiau a Chymdeithasau dan ofal Undeb y Myfyrwyr a enwyd fel rhai gorau’r Deyrnas Unedig yng ngwobrau WhatUni Student Choice Awards 2019 ac mae Bangor yn ymddangos yn rheolaidd yn y 10 uchaf mewn sawl un o’r categorïau yn y gwobrau hynny o dan arweiniad myfyrwyr sy’n dangos yr ymdeimlad o falchder sydd gan ein myfyrwyr yn y profiad y maent yn ei gael.
Mae portffolio’r Brifysgol o raglenni hyfforddedig yn cynnig darpariaeth eang ar draws y celfyddydau, y gwyddorau dynol a gwyddorau’r amgylchedd. Cynigir 340 o fodiwlau israddedig trwy gyfrwng y Gymraeg, a chaiff Prifysgol Bangor ei chydnabod fel prif ddarparwr addysg cyfrwng Cymraeg Cymru, ac felly’r byd.
Profiad Myfyrwyr
Mae bywyd myfyrwyr ym Mhrifysgol Bangor yn fywiog ac amrywiol. Mae’r amrywiaeth fawr Glybiau a Chymdeithasau sydd o dan ofal Undeb y Myfyrwyr yn darparu ar gyfer ystod o ddiddordebau, gweithgareddau a chwaraeon, ac mae rhywbeth at ddant pawb. Cynigir aelodaeth am ddim i fyfyrwyr sy’n golygu bod pob myfyriwr yn gallu manteisio ar y cyfleoedd allgyrsiol di-ri’. Rhoddir cymorth a chefnogaeth i fyfyrwyr o’r eiliad y maent yn cyrraedd. Mae ein Canolfan Gwasanaethau Myfyrwyr yn darparu cyngor ac arweiniad ar faterion yn ymwneud ag arian a thai, cefnogaeth i fyfyrwyr anabl, cwnsela, dyslecsia, sgiliau astudio a darpariaethau addoli lleol.
Ymchwil
Cenhadaeth Prifysgol Bangor yw bod yn Brifysgol Gogledd Cymru ac ar gyfer Gogledd Cymru, sy’n cael ei harwain gan ymchwil ac sy’n darparu profiadau dysgu trawsnewidiol ac yn meithrin effaith gadarnhaol ar gymdeithas yn rhanbarthol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol (Strategaeth 2030).
Ledled y brifysgol, mae cysylltiad clos rhwng ymchwil ac addysgu: mae bron pob un o’r academyddion ymchwil yn addysgu, gan sicrhau bod y myfyrwyr yn elwa o’r wybodaeth a grëir gan ein hymchwil. Yn Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (REF) 2021, nodwyd bod 40% o’n hymchwil yn 4* neu gyda’r gorau yn y byd a 45% yn 3* neu’n rhagorol yn rhyngwladol. Sgoriwyd 77% o ymchwil Bangor fel 4* neu 3* yn y REF blaenorol yn 2014. Yn Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2021 cynyddodd hynny i 85%.
Mae Prifysgol Bangor yn y 41ain safle am y gyfran o’n hamgylchedd ymchwil yr ystyrir ei fod gyda’r gorau yn y byd ac yn y 46ain safle (allan o 129 – heb gynnwys chwe sefydliad un pwnc) yn y sector am allbynnau ymchwil megis cyhoeddiadau.
Ein Hymrwymiad i Gynaliadwyedd
Mae Prifysgol Bangor yn ymrwymedig i gael ei chydnabod yn fyd-eang fel “Y Brifysgol Gynaliadwy”. Mae llawer o’r hyn a wnawn yn seiliedig ar ein hawydd i ddod â chynaliadwyedd i bob agwedd ar fywyd, boed drwy ein haddysgu, ein hymchwil neu’r ymgysylltiad â’r cyhoedd. Byddwn yn defnyddio dull cyfannol y brifysgol iach, ac rydym yn cefnogi’r staff i wireddu eu potensial, ymdopi â straen arferol bywyd, gweithio’n gynhyrchiol a chyfrannu at eu cymunedau. Mae ein blaenoriaethau’n canolbwyntio ar ataliaeth ac ymyrraeth cynnar i feithrin gwytnwch, llesiant cenedlaethau’r dyfodol, a symud, gweithgarwch corfforol a chwaraeon.
Iaith a diwylliant
Ers ei sefydlu yn 1884 mae gan y brifysgol draddodiad o gysylltiadau cadarn â’r gymuned leol. Mae cysylltiad annatod rhwng ein hunaniaeth a’n lleoliad ac rydym yn chwarae rhan flaenllaw yn niwylliant ac economi Cymru a meithrin yr iaith Gymraeg. Ni yw’r prif ddarparwr addysg uwch drwy gyfrwng y Gymraeg yn y byd, o ran maint, ystod y cyrsiau a’r arbenigedd, ac rydym hefyd yn arwain y sector o ran gwasanaethau a chefnogaeth sy’n gysylltiedig â’r Gymraeg.
Mae’r Brifysgol yn cefnogi’r staff i ddysgu Cymraeg ac i ddefnyddio’r iaith ar bob lefel o waith y Brifysgol. Bydd y gefnogaeth honno ar gael i’r ymgeisydd llwyddiannus, os bydd angen.
Cydraddoldeb, Cynhwysiant ac Amrywiaeth
Mae’r Brifysgol yn ymrwymo i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth ac i greu amgylchedd gwaith cynhwysol. Credwn y gellir cyflawni hynny trwy ddenu, datblygu a chadw amrywiaeth eang o staff o nifer o wahanol gefndiroedd. Felly, rydym yn croesawu ymgeiswyr o bob rhan o’r gymuned beth bynnag fo eu rhyw, hunaniaeth rhyw, ethnigrwydd, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth drawsryweddol, statws perthynas, crefydd neu gred, dyletswyddau gofalu, neu oedran. Rydym yn hyrwyddo ac yn hwyluso’r defnydd o’r Gymraeg trwy Bolisi Iaith blaengar. Rydym yn cydymffurfio â Safonau’r Gymraeg ac rydym wedi ymrwymo i gyfle cyfartal. Mae croeso i chi wneud cais am unrhyw swydd yn Gymraeg neu yn Saesneg a chaiff pob cais ei drin yn gyfartal.
Rydym yn aelod o siarter Cydraddoldeb Rhyw Athena SWAN Advance HE ac rydym wedi ennill gwobr Efydd i gydnabod ein hymrwymiad i gydraddoldeb rhyw a’r cynnydd a wneir ym mholisïau, arferion a diwylliant y brifysgol. Rydym yn falch o fod yn Gyflogwr Hyderus o ran Anabledd.
Bangor a Gogledd Cymru – “Un o’r lleoedd gorau yn y byd i ymweld ag ef”
Rydym yn arbennig o ffodus yng Ngogledd Cymru. Mae yma ddrama weledol ac ysblander. Mae’r ardal yn gyforiog o hanes ynghyd â diwylliant dwyieithog bywiog yr 21ain ganrif. Yn y dirwedd amrywiol hon mae popeth o ddigwyddiadau diwylliannol i weithgareddau awyr agored yn digwydd a cheir yma safleoedd hanesyddol, traethau, mynyddoedd a llynnoedd. Yng Ngogledd Cymru hefyd ceir darpariaeth gerddorol a theatrig eang ac amrywiaeth o siopau unigryw a threfi difyr i ymweld â nhw sy’n gwneud yr ardal yn gyrchfan siopa ddymunol ac mae’r dinasoedd mawrion a’u siopau a’u profiadau diwylliannol o fewn awr mewn car. I’r sawl sy’n ymhyfrydu mewn bwyd mae bwytai a thafarndai annibynnol di-ri i’w cael sy’n darparu ar gyfer twristiaid a phobl leol fel ei gilydd ac yma hefyd mae un o’r 10 Bar Traeth Gorau yn y Byd, sef Tŷ Coch, Porthdinllaen
Mae llawer o bobl yn y rhan gyfeillgar a chroesawgar hon o’r byd yn siarad Cymraeg fel iaith gyntaf. Yn wir, mae’r iaith yn ffynnu ledled y rhanbarth: mae siopau papurau newydd yn gwerthu papurau newydd a chylchgronau Cymraeg a Saesneg, tra bo popeth o arwyddion ffyrdd i orsafoedd radio lleol yn ddwyieithog.
Mae cynifer o bethau gwych yn gwneud Gogledd Cymru’n lle perffaith i fyw, magu teulu, cyfoethogi eich bywyd a chadw’n brysur yn eich amser hamdden! Yn ddiweddar cafodd ei ddewis gan Lonely Planet fel y 4ydd rhanbarth gorau yn y byd i ymweld ag ef. Mae hefyd yn gartref i dri Safle Treftadaeth y Byd UNESCO – tirwedd lechi’r gogledd orllewin, cestyll a muriau trefi’r Brenin Edward I a thraphont ddŵr a chamlas Pontcysyllte.
Parc Cenedlaethol Eryri
Mae Parc Cenedlaethol Eryri yn ardal o fynyddoedd, llynnoedd a choetir hynafol. Mae Rheilffordd yr Wyddfa yn dringo i gopa’r Wyddfa, sef mynydd uchaf Cymru. Mae golygfeydd dros y môr i Iwerddon yn ogystal â 14 copa arall sy’n uwch na 3,000 o droedfeddi. Mae rhwydwaith helaeth o lwybrau yn y parc, dros 100 o lynnoedd a myrdd o gopaon creigiog, rhostiroedd gwyllt, traethau hardd a choedwigoedd hynafol.
Mae Gogledd Cymru’n datblygu enw fel prif gyrchfan antur y Deyrnas Unedig oherwydd amrywiaeth ei gweithgareddau. Boed hynny dan y ddaear, ar y ddaear neu yn yr awyr mae’n antur bob dydd yng Ngogledd Cymru,
Hen chwarel, y fwyaf y byd ar un adeg, yw cartref gwifren wib gyflymaf y byd bellach, a hynny nid nepell o’r morlyn syrffio artiffisial cyntaf yn y byd, lle ceir tonnau dwy fetr yn gyson. Gallwch fentro i bwynt dyfnaf Prydain, o dan fynyddoedd Eryri neu gymryd rhan mewn gweithgareddau lu sy’n gwneud yn fawr o’r y wlad o’n cwmpas, gan gynnwys dringo, cerdded, beicio mynydd, syrffio, hwylio a bron a bod unrhyw weithgaredd y gallwch fod â diddordeb ynddo, ar dir, ar ddŵr neu yn yr awyr.
Bangor
Lle bach a bywiog yw Bangor. Mae’n ddinas, gan fod yma gadeirlan y gellir olrhain ei hanes yn ôl i’r 6ed ganrif. Mae gan Fangor lawer o gyfleusterau hamdden gan gynnwys pwll a phier lle gallwch fwynhau un o’r danteithion lleol sef te a sgons ffres. Ar hyd Stryd Fawr hiraf Cymru, yn ôl y sôn, mae nifer fawr o archfarchnadoedd, siopau bwyd, siopau cadwyn y stryd fawr, caffis, bariau a bwytai.
Mae’r rhan fwyaf o adeiladau’r Brifysgol o fewn pellter cerdded hwylus i ganol y ddinas. Mae Canolfan Pontio y Brifysgol yn ganolbwynt cymdeithasol ac yn ganolfan o bwys rhyngwladol ar gyfer dysg, arloesi a’r celfyddydau perfformio. Yn ogystal â bod yn gartref i Undeb y Myfyrwyr, mae’n cynnwys sinema, theatr, darlithfeydd, mannau arddangos, bar a chaffi.
Mae gan Bangor gysylltiadau teithio rhagorol ac mae o fewn cyrraedd hwylus i brif feysydd awyr rhyngwladol Manceinion a Lerpwl. Mae’r gwasanaeth trên uniongyrchol i Lundain yn cymryd tua 3 awr ac mae gwasanaeth fferi o Gaergybi sy’n cyrraedd Dulyn mewn amser tebyg.
Dosbarthiad a Pherfformiad yr Ysgolion
Mae pob ysgol yng Ngogledd Cymru wedi’i dosbarthu fel naill ai’n ysgolion cyfrwng Cymraeg, ysgolion cyfrwng Saesneg neu ysgolion dwyieithog, ac mae union natur yr addysg a ddarperir ym mhob ysgol unigol yn dibynnu ar nifer o ffactorau lleol.
Fodd bynnag, os yw plentyn yn mynychu ysgol cyfrwng Cymraeg (lle bydd ystod eang o bynciau a disgyblaethau yn cael eu dysgu yn Gymraeg), bydd ei sgiliau Saesneg hefyd yn cael eu datblygu mewn gwersi Saesneg penodol a thrwy brofi rhai agweddau eraill ar y cwricwlwm yn Saesneg.
Yn yr un modd, mae plant sy’n mynychu ysgolion cyfrwng Saesneg neu ysgolion dwyieithog hefyd yn cael cyfle i ddysgu Cymraeg.
Caiff holl ysgolion Cymru eu categoreiddio â chod lliw i ddangos faint o gefnogaeth sydd ei hangen arnynt: gwyrdd (rhagorol), melyn (effeithiol), ambr (angen gwelliant) a choch (yn methu). I gael rhagor o wybodaeth am ysgolion cynradd ac uwchradd unigol ewch i ‘My Local School’.
Mae i ysgolion cefn gwlad nifer o fanteision na ddylid eu hanwybyddu wrth ystyried addysg eich plentyn. Fel rheol mae gan ysgolion gwledig ddosbarthiadau llawer llai nag ysgolion y dinasoedd a gallant fod yn llawer mwy diogel. Mae plant yn fwy tueddol o deimlo eu bod yn perthyn mewn amgylchedd cymunedol a gall athrawon roi arferion addysgu da ar waith mewn modd effeithiol. Dengys ymchwil fod plant mewn ysgolion llai’n fwy llwyddiannus yn academaidd, yn cael canlyniadau gwell mewn arholiadau, yn astudio pynciau mwy heriol ac yn cymryd rhan mewn rhagor o weithgareddau allgyrsiol.
Byw a Gweithio ym Mhrifysgol Bangor
Mae Bangor a’r cyffiniau yn lle rhagorol i weithio ac yn darparu lle anhygoel i fyw. Ond rydym yn cydnabod bod trefniadau gweithio mwy hyblyg yn golygu bod staff heddiw yn edrych ar ddewisiadau eraill. Mae ffordd ddeuol yr A55 yn rhoi dinas Caer o fewn taith gymudo awr ac yn darparu cyswllt ardderchog â Lloegr a’r rhwydwaith traffyrdd ehangach – mae hefyd yn daith arfordirol drawiadol.
DIBEN Y SWYDD
Mae swydd y Cyfarwyddwr Ymgyrchoedd a Marchnata Brand yn un hollbwysig yn y Gyfarwyddiaeth Marchnata, Cyfathrebu a Recriwtio. Mae’r swydd wrth wraidd y gyfarwyddiaeth ac yn groesffordd rhwng yr adrannau eraill yn y gyfarwyddiaeth. Mae deiliad y swydd yn arwain ar frand, hunaniaeth gorfforaethol a’r holl ymgyrchoedd marchnata sy’n ymwneud ag adeiladu brand, recriwtio yn y Deyrnas Unedig ac yn Rhyngwladol. Mae’r swydd yn rhoi cyfle i gael effaith uniongyrchol ar y ffordd y caiff y Brifysgol ei gweld a’i chanfod ar draws ei holl farchnadoedd.
Prif Ddyletswyddau a Chyfrifoldebau
Arweinyddiaeth Strategol
Rheolwyr
Marchnata Brand
Ymgyrchoedd
Dyletswyddau a Chyfrifoldebau Eraill
GOFYNION PERSONOL
Cymwysterau/Hyfforddiant
Hanfodol
Dymunol
Profiad/Gwybodaeth
Hanfodol
Dymunol
Sgiliau/Galluoedd
Hanfodol
Dymunol
Arall
Dymunol
Cyffredinol
Mae’r brifysgol wedi ymrwymo i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth ac i greu amgylchedd gwaith cynhwysol. Credwn y gellir cyflawni hyn trwy ddenu, datblygu a chadw amrywiaeth eang o staff o nifer o wahanol gefndiroedd. Rydym yn ymdrechu i ddatblygu gweithlu o bob rhan o’r gymuned beth bynnag fo eu rhyw, hunaniaeth rhyw, ethnigrwydd, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth drawsryweddol, statws perthynas, crefydd neu gred, dyletswyddau gofalu, neu oedran. Rydym yn hyrwyddo ac yn hwyluso’r defnydd o’r Gymraeg trwy ein polisi iaith blaengar. Rydym yn cydymffurfio â Safonau’r Gymraeg ac rydym wedi ymrwymo i gyfle cyfartal. Mae croeso i chi wneud cais am unrhyw swydd yn Gymraeg neu yn Saesneg a chaiff pob cais ei drin yn gyfartal.
Rydym yn aelod o siarter Cydraddoldeb Rhyw Athena SWAN Advance HE ac rydym wedi ennill gwobr Efydd i gydnabod ein hymrwymiad i gydraddoldeb rhyw a’r cynnydd a wneir ym mholisïau, arferion a diwylliant y brifysgol. Rydym yn falch o fod yn Gyflogwr Hyderus o ran Anabledd.
Mae gan bob aelod o staff gyfrifoldeb i sicrhau bod eu gweithredoedd yn unol â nodau amgylcheddol cyffredinol y brifysgol a’u bod yn lleihau eu heffaith ar yr amgylchedd.
Gwneir pob cynnig yn amodol ar weld tystiolaeth eich bod yn gymwys i weithio yn y Deyrnas Unedig ac ar dderbyn geirdaon boddhaol.
Rhaid i’r holl ymgeiswyr ateb gofynion y Deyrnas Unedig o ran ‘hawl i weithio’ *** Os oes arnoch angen caniatâd y Swyddfa Gartref i weithio yn y Deyrnas Unedig, neu fod angen newid statws eich fisa er mwyn cymryd y swydd hon, rydym yn argymell i chi ddefnyddio’r cyswllt canlynol i gael gwybodaeth am y llwybrau i gyflogaeth ac i fwrw golwg dros y gofynion cymhwysedd: https://www.gov.uk/browse/visas-immigration/work-visas
Sylwer nad ydym yn gallu cyflogi unrhyw un nad yw’n meddu ar hawl cyfreithlon i fyw a gweithio yn y Deyrnas Unedig. Wrth wneud cais am y swydd hon bydd gofyn i chi egluro ar ba sail y credwch y byddwch yn gallu byw a gweithio yn y Deyrnas Unedig yn gyfreithlon ar ddyddiad dechrau’r swydd os bydd eich cais yn llwyddiannus.
Sylwer, os derbynnir ceisiadau gan ymgeiswyr sydd ar gofrestr adleoli’r brifysgol ac sydd â sgiliau sy’n cyfateb yn weddol i ofynion y swydd, y caiff yr ymgeiswyr hynny eu hystyried yn gyntaf.
Swydd: Dirprwy Gyfarwyddwr Recriwtio a Symudedd Rhyngwladol
Graddfa: Graddfa 9
Yn adrodd i’r: Cyfarwyddwr Gweithrediadau a Derbyniadau Rhyngwladol
Prif ddiben y swydd hon yw arwain ymdrechion recriwtio a symudedd y brifysgol i recriwtio myfyrwyr rhyngwladol israddedig ac ôl-radd, gan weithio fel rhan o’r Swyddfa Ryngwladol ac arwain swyddogaeth fusnes allweddol o fewn y sefydliad.
Bydd y swydd hon yn rheoli timau recriwtio a symudedd rhyngwladol y sefydliad ac yn gyfrifol am gynyddu nifer y myfyrwyr rhyngwladol sy’n cael eu recriwtio i’r brifysgol yn unol â thargedau sefydliadol. Nod arall fydd cynyddu nifer ac amrywiaeth y myfyrwyr sy’n ymwneud â gweithgareddau symudedd rhyngwladol ar draws y sefydliad. Bydd y swydd yn arwain ar y gwaith o gyflawni gweithgaredd marchnata a recriwtio i fynd i’r afael ag amcanion strategol rhyngwladol, ac yn benodol, cyrraedd targedau uchelgeisiol. Bydd y swydd hon yn arwain ar ddatblygu partneriaethau gydag asiantau, noddwyr, ysgolion, a sefydliadau partner allweddol yn y rhanbarth ac yn gyfrifol am ddatblygu strategaethau rhanbarthol. Bydd deiliad y swydd yn arwain y gwaith o godi proffil Bangor yn y rhanbarth ac wrth gyflawni gweithgareddau rhyngwladoli ehangach.
Mae’r swydd yn gofyn am rywun hyderus, blaengar a brwdfrydig sy’n gallu cymryd y cam cyntaf ac a fydd yn arwain ar y twf mewn recriwtio myfyrwyr rhyngwladol a chefnogi nod y sefydliad o gynyddu myfyrwyr sy’n dod i’r brifysgol i astudio neu yn teithio ymaith i sefydliad arall. Rhoddir pwyslais sylweddol ar ddatblygu cysylltiadau effeithiol rhwng busnesau a gweithredu proses barhaus o wella prosesau a systemau. Bydd pwyslais hefyd ar waith project, datblygu mentrau newydd sy’n gofyn am hunan-gymhelliant personol, sgiliau arweinyddiaeth cryf, creadigrwydd a menter. Bydd deiliad y swydd yn unigolyn trefnus a fydd yn cymryd cyfrifoldeb am dimau recriwtio rhyngwladol Prifysgol Bangor a gweithrediadau symudedd myfyrwyr o fewn y sefydliad. Bydd yr unigolyn yn gyfrifol am reoli a datblygu timau sy’n gyfrifol am brosesau recriwtio allweddol a symudedd myfyrwyr i mewn ac allan ac ymrwymiadau astudio dramor. Bydd yr unigolyn yn gyfrifol am ymgysylltu â rhanddeiliaid allweddol y tu mewn a’r tu allan i’r sefydliad. Bydd yr unigolyn yn gyfarwydd â chymell, hyfforddi a datblygu staff gwerthu perfformiad uchel yn ddelfrydol o fewn y lleoliad addysg uwch neu debyg. Bydd yr unigolyn llwyddiannus yn perfformio’n dda o dan bwysau gyda phrofiad o reoli a chyflawni targedau a dangosyddion perfformiad allweddol y cytunwyd arnynt.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio’n dda fel aelod o dîm a disgwylir iddo/iddi weithio’n agos gyda holl aelodau’r Swyddfa Ryngwladol, a datblygu cysylltiadau gwaith cadarnhaol gyda staff yn yr ysgolion academaidd a gwasanaethau canolog eraill y brifysgol. Bydd llawer o deithio dramor i gwrdd â sefydliadau partner, asiantau, noddwyr a gweinyddiaethau addysg, a mynd i ddigwyddiadau recriwtio fel ffeiriau addysg a chyfweliadau myfyrwyr yn rhan bwysig o’r swydd hon. Bydd disgwyl i’r ymgeisydd llwyddiannus reoli sawl tîm, rheoli cyllideb helaeth, a chwrdd â thargedau. Bydd yn gyfrifol am lwyddiant recriwtio a datblygu partneriaethau ynghyd â thwf gweithgareddau symudedd i mewn ac allan ac astudio dramor ar draws y sefydliad.
Prif ddyletswyddau a chyfrifoldebau:
GOFYNION PERSONOL
Addysg, Cymwysterau a Hyfforddiant
Hanfodol
Dymunol
Sgiliau
Hanfodol
Dymunol
Profiad gwaith a phrofiad perthnasol
Hanfodol
Dymunol
Nodweddion Personol
Hanfodol
Laith
Dymunol
Hyd y Penodiad
Cynigir y swyddi fel penodiadau llawn-amser, parhaol a phen agored.
Cyflog
Cyfarwyddwr: hyd at £75,000
Dirprwy Gyfarwyddwr: hyd at £61,000
Oriau Gwaith
Oherwydd natur y gwaith, nid yw’r Brifysgol yn pennu dim telerau ac amodau ynghylch yr oriau gwaith o fewn ystyr deddfwriaeth cyflogaeth. Gweithir yr oriau angenrheidiol i gyflawni’n foddhaol y dyletswyddau sy’n gysylltiedig â’r swydd; ac ar gyfartaledd bydd ymrwymiad wythnosol arferol yn golygu rhwng 36.25 a 48 awr yr wythnos.
Pensiwn
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gymwys i ymuno â Chynllun Pensiwn y Prifysgolion (USS) os nad ydych eisoes yn derbyn pensiwn gan USS ac yn bodloni’r meini prawf. Bydd yr holl delerau ac amodau eraill yn unol â thelerau ac amodau cyflogaeth safonol y brifysgol ar gyfer staff academaidd ac academaidd-gysylltiedig.
Gwyliau Blynyddol
Y gwyliau blynyddol â thâl fydd 27 diwrnod yn ogystal â 7 niwrnod o wyliau arferol y Brifysgol a’r 8 Gŵyl y Banc / Gŵyl Gyhoeddus (neu’r hyn sy’n gyfwerth â hwy).
Adleoli
Lle bo hynny’n berthnasol, mae’r Brifysgol yn cynnig pecyn adleoli i gefnogi gweithwyr newydd sy’n cyflawni’r meini prawf cymhwysedd. Cynigir y pecyn adleoli fel cyfraniad tuag at y costau a achosir. Mae wedi’i gynllunio i fod yn hyblyg, a chaniatáu i’r staff ddefnyddio’r cymorth ariannol sydd ar gael yn y ffordd a fydd fwyaf defnyddiol iddynt.
Gofynion Cymhwystra
Gwneir pob cynnig yn amodol ar weld tystiolaeth eich bod yn gymwys i weithio yn y Deyrnas Unedig ac ar dderbyn geirdaon boddhaol. Rhaid i bob ymgeisydd gyflawni gofynion ‘hawl i weithio’ y Deyrnas Unedig. Os oes arnoch angen caniatâd y Swyddfa Gartref i weithio yn y Deyrnas Unedig, neu fod angen newid statws eich fisa er mwyn cymryd y swydd hon cofiwch, ers i’r llywodraeth gyflwyno cyfyngiadau ar fewnfudo o ran niferoedd y gweithwyr medrus, ein bod yn argymell i chi ddefnyddio’r cyswllt canlynol i gael gwybodaeth am y llwybrau i gyflogaeth ac i wirio gofynion cymhwysedd: http://www.ukba.homeoffice.gov.uk/workingintheuk/
Cydraddoldeb ac Amrywiaeth
Rydym yn gwerthfawrogi amrywiaeth ac yn croesawu ceisiadau o bob rhan o’r gymuned. Nod Prifysgol Bangor yw cynnig amgylchedd sy’n parchu ac yn gwerthfawrogi cyfraniad cadarnhaol ei holl aelodau, fel y gallant wireddu eu potensial yn llawn a chael budd a mwynhad o’u rhan ym mywyd y Brifysgol.
Mae Anderson Quigley yn gweithredu fel ymgynghorydd i’r Brifysgol. Cynhelir proses chwilio weithredol gan Anderson Quigley yn ogystal â’r hysbysebion cyhoeddus.
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw hanner dydd, dydd Llun 27 Mawrth 2023
Cyfeiriad AQ: AQ1725 (Cyfarwyddwr Ymgyrchoedd a Marchnata Brand), AQ1727 (Dirprwy Gyfarwyddwr Recriwtio a Symudedd Rhyngwladol).
Dylai ceisiadau gynnwys:
Os hoffech drafod y swyddi yn gwbl gyfrinachol, cysylltwch â Carolyn Coates ar carolyn@andersonquigley.com, +44(0)7825 871 944 neu Ed Pritchard ar ed@andersonquigley.com, +44(0)7980 817 927.